Dechrau da yn 'sail gref' i daith addysg plentyn

Bethan ac Anwen
Disgrifiad o’r llun,

Mae pennod gyntaf gyffrous ar fin dechrau i Bethan a'i merch Anwen

  • Cyhoeddwyd

Anwen, sy'n dair blwydd a hanner, yw un o'r plant fydd yn cymryd y cam mawr o ddechrau yn yr ysgol am y tro cyntaf dros y dyddiau nesa'.

Mae ei mam Bethan yn dweud ei bod wedi elwa o broses pontio sydd wedi cynnwys ymweliadau i'r ysgol gynradd a gweithgareddau i'w pharatoi yn y cylch meithrin.

Yn ôl ymchwil gan Achub y Plant, mae hwyluso'r broses o ddechrau'r ysgol yn gosod sail gref i blant lwyddo ar ddechrau eu siwrne drwy addysg.

Dywedodd yr adroddiad bod pontio llwyddiannus o fudd i bawb, ond ei fod yn arbennig o bwysig i deuluoedd sy'n profi tlodi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae plant angen trefn a gwybod beth sy'n mynd ymlaen, medd Mair Billington o Gylch Meithrin Felinfoel

Yng Nghylch Meithrin Felinfoel yn Llanelli, mae’r plant wedi bod yn clywed stori Smot yn Mynd i’r Ysgol yn ogystal ag edrych ar luniau o’u hathrawon newydd a thrafod eu bocsys bwyd a’u bagiau.

Yn ôl arweinydd y cylch meithrin, Mair Billington, mae trefnu’r pontio’n ofalus yn helpu’r plant a’r ysgol.

“Mae’n bwysig iawn i’r plant i deimlo’n hapus, bo' nhw’n gwybod be' sy’n mynd 'mlaen.

“Mae rhai plant yn licio routine," meddai, ac mae'r broses pontio’n helpu.

Fe wnaeth Anwen fwynhau ymweld â’i hysgol newydd yn fawr, yn ôl ei mam.

“Mae 'di dod nôl a dweud bod hi wedi bod yn chwarae gyda racing cars, beth yw enw’r athrawes, sy’n lyfli i glywed i fod yn onest – y pethe mae hi’n pigo lan ei hunan,” meddai Bethan.

“Mae hwnna’n hollol, hollol bwysig – bod hi’n cael teimlad o fe ac yn teimlo’n hyderus o fewn yr adeilad.”

'Fi'n teimlo'n emosiynol'

I mam a dad hefyd, mae’n gyfnod pwysig.

“Fi’n teimlo’n emosiynol. Mae Anwen yn teimlo’n gyffrous ond fi ddim yn siŵr fel fydd hi pan mae’n mynd mewn i’r adeilad mawr.

“Fi’n gobeithio bydd hi’n setlo – 'na’r peth mwyaf.

"Bydd hi’n hapus yna, bydd hi 'di cwrdd â ffrindie neis, bydd hi’n dod 'mlaen yn grêt gyda’r athrawes.”

Disgrifiad,

Mae penaethiaid dwy ysgol wedi bod yn son am sut mae hwyluso'r broses o dderbyn plant newydd i ysgol uwchradd

Dywedodd Eurgain Haf o elusen Achub y Plant bod clywed barn plant yn rhan bwysig o’u hymchwil.

Roedd ganddyn nhw nifer o gwestiynau am ddechrau’r ysgol - am y lleoliad, am y staff a’r plant - ac roedden nhw’n awyddus bod yr athro newydd yn gwybod amdanyn nhw – beth oedden nhw’n hoffi a ddim yn hoffi.

Roedd yr ymchwil, meddai, wedi dangos pwysigrwydd profiad positif ar y dechrau un, yn enwedig i deuluoedd sy’n wynebu’r heriau ychwanegol all ddod gyda thlodi, fel bod taith y plentyn drwy’r ysgol “yn un hapus, yn un hyderus”.

Ychwanegodd: “'Dan ni’n gwybod bod hynny wedyn yn helpu’r plentyn, nid yn unig ar y daith drwy’r ysgol, ond hefyd ar gyfer bywyd ar ôl yr ysgol.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae plentyn yn elwa o daith addysgol "hapus a hyderus" ymhell ar ôl gadael yr ysgol, medd Eurgain Haf

Wrth nesáu at ddiwedd gwyliau’r haf mae’r cyffro’n cynyddu yng nghartre' Anwen, sydd wrthi’n trio’i gwisg ysgol 'mlaen eto.

“Sgidiau pert," yw hoff ran Anwen o’r wisg newydd.

“Mae’n dod yn fwy agos bob dydd. Ni 'di bod yn aros shwd sbel,” meddai Bethan.

“Mae 'di gwisgo yn ei gwisg ysgol – mae’n excited ofnadwy i wisgo fe.

“Mae’n hapus iawn ynddo fe mor belled, ond falle ddim mor hapus ar y diwrnod cynta' a gadael Mami!"

Pynciau cysylltiedig