Siart Amgen Rhys Mwyn 2022
- Cyhoeddwyd
Nos Lun, cafodd 20 uchaf Siart Amgen BBC Radio Cymru ei gyhoeddi ar raglen Rhys Mwyn.
Mae'r siart wedi ei chynnal bob blwyddyn ers 2016, ac mae 'na amrywiaeth eang iawn o gerddoriaeth wedi ymddangos ynddi yn flynyddol.
Y Cyrff oedd yr enillwyr cyntaf, gyda'r gân Anwybyddwch Ni. Roedd siart y flwyddyn honno yn un llwyddiannus i artistiaid o'r gorffennol oedd yn arloesi yn eu maes.
Ers hynny, fodd bynnag, mae artistiaid newydd wedi cyrraedd y brig, gydag Adwaith yn ennill ddwy flynedd yn olynol yn 2017 a 2018. Y Sybs oedd enillwyr 2019, yna Papur Wal yn 2020, a'r rhai ddaeth yn fuddugol llynedd oedd Ffredi Blino, gyda'r gân 'Dwwwi'.
Siart 2022!
1. Chwaraewr Gorau (Yr Ail Dîm) - Los Blancos
2. Eto - Adwaith
3. Propaganda - Me Against Misery
4. O Dŷ i Dŷ - Sister Wives
5. Cymru Ni - Eadyth + Izzy
6. N.Y.C.A.W. - Gwenno
7. Pwy Sy'n Galw - Lloyd & Dom James
8. Rownd a Rownd - Sage Todz
9. Pluo - Thallo
10. Bywyd Llonydd - Pys Melyn
11. Dim Deddf Dim Eiddo - Datblygu
12. Rhywbeth Mwy - Ynys Alys
13. Tragwyddoleb - Cerys Hafana
14. Llong - MR
15. Rhyddid - Lleuwen
16. Sgleinio - Kizzy Crawford
17. Am Ser - Accu
18. Glan Meddwdod Mwyn - Vrï
19. Ffyrdd, Tarmac a Ffenses - Ffredi Blino
20. Hiraeth - Meredydd Evans
Gwrandewch yn ôl ar y rhaglen yma!
Hefyd o ddiddordeb: