Euro 2025: Perfformiad calonogol ond colled i Gymru yn erbyn Ffrainc

Cymru yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y garfan yn dathlu ar ôl i Jess Fishlock sgorio gôl gyntaf tîm merched Cymru mewn pencampwriaeth ryngwladol erioed

  • Cyhoeddwyd

Er gwaethaf perfformiad calonogol yn eu hail gêm yn Euro 2025, colli oedd hanes Cymru yn erbyn Ffrainc yn St Gallen o 4-1.

Roedd digon i'w ddathlu yn yr hanner cyntaf wrth i Jess Fishlock sgorio gôl gyntaf Cymru yn y bencampwriaeth i'w gwneud hi'n 1-1.

Ond ar ôl i Ffrainc ail-gipio'r fantais cyn yr egwyl, roedd eu pŵer, eu profiad a'u grym ymosodol yn ormod i dîm Rhian Wilkinson yn yr ail hanner.

Dyw gobeithion Cymru o gyrraedd y rownd nesaf ddim ar ben yn fathemategol, ond mae'r golled nos Fercher yn golygu fod angen i Gymru ennill yn gyfforddus yn erbyn Lloegr a gobeithio bod Ffrainc yn trechu'r Iseldiroedd nos Sul.

Roedd Wilkinson wedi gwneud pedwar newid i'r tîm ddechreuodd yn y golled i'r Iseldiroedd, gyda Safia Middleton-Patel, Rachel Rowe, Kayleigh Barton a Ffion Morgan i gyd wedi eu cynnwys.

Fe wnaeth rheolwr Ffrainc, Laurent Bonadei benderfynu gwneud saith newid i'r tîm wnaeth drechu Lloegr o 2-1 ddydd Sul.

Er y newidiadau roedd ymosodwyr Ffrainc yn creu problemau i Gymru o'r cychwyn cyntaf gyda Kadidiatou Diani a Melvine Malard yn creu hanner cyfleoedd yn y munudau cyntaf.

Fe ddaeth y gôl gyntaf wedi wyth o funudau ar ôl i Angharad James fethu â chlirio cig gornel.

Fe adlamodd y bêl i gyfeiriad Clara Mateo a darodd y bêl yn bwerus i gornel ucha'r rhwyd.

Ffrainc yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Clara Mateo, ymosodwr Paris FC, wnaeth roi Ffrainc ar y blaen

Ond fe darodd Cymru 'nôl mwy neu lai yn syth drwy Jess Fishlock.

Yn dilyn rhediad gwych lawr yr asgell chwith fe wnaeth Ceri Holland, er iddi gael ei thaclo yn y cwrt cosbi, lwyddo i daro'r bêl i gyfeiriad Fishlock a oedd yn rhydd ger y postyn pellaf.

Dyma oedd gôl gyntaf Cymru yn Euro 2025, a'r gôl gyntaf i dîm merched Cymru ei sgorio mewn pencampwriaeth ryngwladol erioed.

Roedd y gôl i'w weld wedi rhoi hyder i Gymru, gyda thîm Rhian Wilkinson yn llwyddo i ymdopi yn well yn amddiffynnol ar ôl dod yn gyfartal.

Ond ym munudau olaf yr hanner cyntaf fe gafodd Ffrainc gic o'r smotyn ar ôl i Holland lorio Mateo ar ymyl y cwrt cosbi.

Bron i Middleton-Patel lwyddo i arbed y gic, ond roedd gormod o bŵer ar ergyd Diani.

Jess FishlockFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jess Fishlock yn dathlu ar ôl sgorio gôl gyntaf Cymru yn Euro 2025

Fe ddaeth y drydedd gôl i Ffrainc yn fuan yn yr ail hanner wedi camgymeriad gan y golwr Middleton-Patel.

Oedodd Middleton-Patel cyn clirio'r bêl, fe lwyddodd Amel Majiri i gipio'r meddiant cyn pasio i Mateo a ergydiodd yn gywir i gornel y rhwyd.

Bron i Ceri Holland sgorio ail i Gymru yn dilyn gwaith ardderchog lawr yr asgell dde, ond ar ôl curo'r amddiffynwyr doedd hi methu a tharo'r targed o ongl dynn.

Gyda llai na hanner awr yn weddill fe wnaeth y capten, Grace Geyoro ychwanegu pedwaredd gôl i Ffrainc o ganol y cwrt cosbi yn dilyn croesiad ardderchog gan Diani.

Wedi hynny roedd yn teimlo fel bod Cymru wedi colli rhywfaint o hyder wrth i Ffrainc barhau i bwyso.

Roedd chwaraewyr Cymru yn apelio am gic o'r smotyn gyda 10 munud yn weddill, ond fe benderfynodd y dyfarnwr nad oedd y bêl wedi taro llaw un o amddiffynwyr Ffrainc.

Fe ddaeth cyn-gapten Cymru, Sophie Ingle ymlaen fel eilydd yn y munudau olaf yn dilyn cyfnod hir i ffwrdd o'r cae oherwydd anaf.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Cymru yn parhau ar waelod Grŵp D gydag un gêm yn weddill.