Galw am adolygiadau ac ymchwiliadau i Esgobaeth a Chadeirlan Bangor

Andrew John
Disgrifiad o’r llun,

Bu Andrew John yn Esgob Bangor ers 2008, ac yn Archesgob Cymru ers 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae ymddiriedolwyr yr Eglwys yng Nghymru wedi galw am gyfres o adolygiadau ac ymchwiliadau i Esgobaeth a chadeirlan Bangor.

Mae'r esgobaeth wedi bod o dan y lach ers misoedd wedi cyhoeddi crynodebau dau adroddiad ym mis Mai oedd yn sôn am "gymylu ffiniau rhywiol", yfed alcohol i ormodedd a gwendidau diogelu a llywodraethiant yn y gadeirlan.

Nos Wener, cyhoeddodd cyn-Archesgob Cymru Andy John ei ymddeoliad ar unwaith. Bydd yn ymddeol fel Esgob Bangor ddiwedd Awst.

Daeth y cyhoeddiad wedi i Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru gwrdd yng Nghaerdydd ddydd Mawrth diwethaf.

Mae'r corff - ymddiriedolwyr yr Eglwys - nawr wedi cyhoeddi yn llawn ddatganiad a ddrafftiwyd ganddyn nhw yn y cyfarfod hwnnw.

Mae'n galw am "newid mewn arweinyddiaeth, gweithdrefnau a llywodraethu yn Esgobaeth Bangor".

Mae Newyddion S4C yn deall i'r cyn-Archesgob geisio newid geiriad y datganiad, ond i'r cais gael ei wrthod.

Doedd yr Eglwys yng Nghymru ddim am wneud sylw am hynny.

Dywedodd Corff y Cynrychiolwyr eu bod yn pryderu am "ddatgeliadau o fethiannau diogelu, ffiniau aneglur, ymddygiad amhriodol, amgylchedd rheoli gwan a diffyg tryloywder mewn rheolaeth yn Eglwys Gadeiriol Bangor" sydd yn "peri pryder mawr".

Maen nhw'n "annog yr Esgobaeth a'r Eglwys Gadeiriol i weithredu'n gyflym ac yn dryloyw i adfer ymddiriedaeth a sicrhau amgylchedd diogel ac atebol ar gyfer pawb".

Does dim awgrym bod Andy John ei hun wedi camymddwyn.

Pa welliannau sydd wedi eu nodi?

Maen nhw hefyd yn galw am y gwelliannau canlynol:

  • Archwiliad ariannol annibynnol llawn i'r tair elusen sydd yn gysylltiedig ag Esgobaeth a Chadeirlan Bangor;

  • Archwiliad diwylliannol o'r Eglwys yng Nghymru;

  • Ymchwiliad allanol i ymddygiad, diwylliant a gweithgareddau Côr yr Eglwys Gadeiriol gan roi sylw dyledus i'r materion a nodwyd yn yr adroddiadau sy'n ymwneud â'r côr yn cael ei gomisiynu gan Gabidwl y Gadeirlan;

  • Ymddiriedolwyr yr elusennau sydd yn gysylltiedig ag Esgobaeth a Chadeirlan Bangor i ymrwymo'n ffurfiol i "ymgysylltu'n llawn â'r Grŵp Gweithredu a'r Bwrdd Goruchwylio i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd yn adroddiad yr Ymweliad ac adroddiad thirtyone:eight i weithredu'n llawn yr holl argymhellion yn yr adroddiadau ac i gydymffurfio â chyfarwyddiadau canllawiau a gyflwynwyd iddynt gan y Bwrdd Goruchwylio";

  • Creu tasglu i weithio gyda swyddogion Esgobaeth Bangor i "gyflawni a gweithredu'r newidiadau system sydd eu hangen i greu seilwaith cynaliadwy ar gyfer y dyfodol". Bydd aelodau'r tasglu yn cael mynediad llawn at wybodaeth, a chaniateir iddynt fynychu cyfarfodydd bwrdd a rheoli.

  • Uwch arweinwyr yr Esgobaeth, y Bwrdd Cyllid Esgobaethol, a Chabidwl yr Eglwys Gadeiriol yn cymryd rhan mewn ymarfer dan arweiniad allanol lle mae pob carfan yn cytuno i ymgysylltu, dirnad a myfyrio ar y digwyddiadau sydd wedi arwain yr Esgobaeth i'r sefyllfa hon. Bydd ymarfer o'r fath yn holi am y gwersi a ddysgwyd ac yn hwyluso cyfeiriad cyffredin ar gyfer y dyfodol.

Mae'r ymddiriedolwyr hefyd yn dweud bod ariannu Esgobaeth a Chadeirlan Bangor at y dyfodol yn "gwbl ddibynnol ar fod Corff y Cynrychiolwyr yn fodlon bod strwythurau rheoli priodol a gweithdrefnau ariannol a gweinyddol ar waith i ddangos llywodraethu effeithiol".

Bydd archwiliad o holl Gadeirlannau Cymru hefyd yn cael ei gomisiynu gan Gorff y Cynrychiolwyr er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau a phrotocolau priodol sy'n ymwneud â diogelu yn cael eu dilyn yn ddiwyd.

Pynciau cysylltiedig