Dyn 20 oed yn pledio'n euog i derfysg yn dilyn anhrefn Trelái

anrhefn yn ardal TreláiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr anhrefn dreisgar yng Nghaerdydd ei sbarduno gan farwolaeth dau fachgen

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 20 oed wedi pledio'n euog i gyhuddiad o derfysg yn dilyn anhrefn dreisgar yng Nghaerdydd.

Cafodd yr anrhefn yn ardal Trelái ei sbarduno gan farwolaeth dau fachgen - Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15 - mewn gwrthdrawiad beic trydan ar 22 Mai 2023.

Cafodd degau o swyddogion heddlu eu hanafu, ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau, gan gynnwys tân gwyllt, eu taflu at y gwasanaethau brys yn yr anhrefn wnaeth barhau tan yr oriau mân.

Yn Llys y Goron Caerdydd fore Llun, fe wnaeth Ryan Knight, o ardal Sblot yng Nghaerdydd, bledio'n euog i'r cyhuddiad yn ei erbyn.

Gan fod cymaint o bobl wedi eu cyhuddo o fod wedi chwarae rhan yn yr anrhefn, mae tri achos llys gwahanol wedi eu trefnu rhwng Medi a Mawrth y flwyddyn nesaf.

22 Rhagfyr yw'r dyddiad sydd wedi ei bennu ar gyfer dedfrydu'r rhai sydd eisoes wedi pledio'n euog, ond mae'n bosib y caiff y gwrandawiad ei ohirio tan fod y trydydd achos yn 2026 wedi ei gwblhau fel bod modd dedfrydu pob un ar y cyd.

Pynciau cysylltiedig