Stelciwr cyn-Miss Cymru wedi newid ei enw a cheisio lladd
- Cyhoeddwyd
Mae angen newid y gyfraith er mwyn rhoi gwybod i ddioddefwyr stelcian bod troseddwyr wedi newid ei henwau, yn ôl cyn-Miss Cymru.
Daw galwad Sara Manchipp ar ôl iddi ddysgu bod y dyn fu'n ei stelcian hi - Callum Parslow - wedi newid ei enw a mynd ati i dargedu menyw arall, cyn ceisio lladd dyn.
Pythefnos yn ôl, fe gafodd Parslow ddedfryd oes yn y carchar [erthygl Saesneg] am geisio llofruddio ceisiwr lloches yn Swydd Caerwrangon.
Roedd ar fechnïaeth ar y pryd ar ôl cael ei arestio am stelcian dynes arall, ond doedd gan Ms Manchipp ddim syniad ei fod wedi newid ei enw tan iddi weld ei lun ar y newyddion.
'Ffaelu credu fe'
"O'n i'n hollol, hollol shocked," meddai Ms Manchipp, "achos aeth e i'r carchar yn 2018 a daeth e mas yn 2020, ac o'n i'n meddwl 'sa'i 'di clywed dim mwy amdano fe, a dyna ni.
"Cwpl o w'thnose 'nôl weles i erthygl gyda'i lun e, ond 'da enw arall, ac ar ôl g'neud bach o ymchwil, weles i fod e wedi stelcio rhywun arall ar ôl bod yn y carchar am stelcio fi ac wedyn a'th e mla'n i drio llofruddio rhywun.
"O'n i jest ffaelu credu fe."
Fe drywanodd Callum Parslow, 32, Nahom Hagos mewn tafarn mewn digwyddiad a gafodd ei ddisgrifio gan y barnwr fel "ymosodiad terfysgol".
Bydd yn treulio o leiaf 22 mlynedd ac wyth mis dan glo am geisio ei lofruddio.
Dywedodd Mr Ustus Dove mai cymhelliad yr ymosodiad oedd "agwedd asgell-dde eithafol Neo-Natsïaidd" Parslow, oedd wedi "bwydo'i feddylfryd gwyrdroëdig, treisgar a hiliol".
Mae Ms Manchipp yn dweud y dylai hi fod wedi cael gwybod ei fod wedi troseddu eto ac wedi newid ei gyfenw o Blake-O'Brien i Parslow.
"Fe ddechreuodd ddefnyddio enw newydd ac aeth ati i gamddefnyddio'r fraint honno i aildroseddu," meddai Sara Manchipp.
Mae hi'n dweud nad ydy hi'n iawn na chafodd hi wybod ei fod ar fechnïaeth am drosedd tebyg, a bod diogelwch dioddefwyr ddim yn cael y flaenoriaeth.
'Does ganddo ddim car'
Fe gysylltodd Callum Parslow â thair menyw rhwng 2017 a 2023.
Anfonodd negeseuon personol atyn nhw am drais a necroffilia.
Fe dderbyniodd Mercy Muroki - sylwebydd gwleidyddol a chyn-gyflwynydd gyda GB News - negeseuon o natur rywiol a hiliol gan gyfrifon dienw yn 2023.
"Dywedodd un [neges] na fyddai'r un pedoffeil yn cyffwrdd â fy merch," meddai.
Cyngor yr heddlu oedd i flocio'r cyfrifon.
"Ro'n i'n gweld fod ei ymddygiad yn dwysáu, a bob tro ro'n i'n ei flocio roedd o'n ffeindio ffordd newydd i gysylltu, ac ro'n i'n poeni at beth fyddai hynny'n arwain."
Fe gafodd Callum Parslow ei arestio gan Heddlu West Mercia a'i gyhuddo o drosedd rhyw ac o anfon neges electronig gyda'r bwriad o achosi gofid a phryder yn achos Mercy.
"Dywedodd yr heddlu ei fod yn unigolyn heb lawer o ffrindiau, a gan nad oedd ganddo gar roedd hi'n annhebygol y byddai ganddo'r gallu i ddod yn agos iawn ata i," meddai.
"Ond nid dyna ydy'r pwynt, naci?"
Mae Mercy Muroki a Sara Manchipp bellach yn cefnogi'r galwadau am newid yn y gyfraith fel bod dioddefwyr yn cael gwybod pan fod troseddwyr yn newid enw.
'Arwyddion clir'
"Roedd yna arwyddion clir gafodd eu colli," meddai Katy Bourne, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Sussex, sy'n arwain ar stelcian yng Nghymru a Lloegr.
Fel rhywun sydd â phrofiad personol o gael ei stelcio, mae hi'n dweud ei bod hi'n teimlo fod yr heddlu wedi colli sawl cyfle i weithredu.
"Pethau fel yr hyn maen nhw'n ei ddarllen ar-lein, hanes o droseddu ac edrych ar ddeunydd asgell dde eithafol.
"Maen nhw'n arwyddion clir iawn a tase'r heddlu wir wedi edrych ac wedi'u cysylltu nhw, fydden nhw'n gweld patrwm llawer mwy o'r risg a'r niwed posib."
Mae Sara Manchipp yn dweud bod angen newid y gyfraith a bod angen cofrestr sy'n galluogi'r heddlu i fonitro troseddwyr gan roi "diogelwch dioddefwyr yn gyntaf".
"Ry'n ni'n ei wneud e ar gyfer troseddau rhyw felly pam ddim ei 'neud e ar gyfer stelcwyr?" meddai.
Cafodd y syniad ei drafod gan Lywodraeth y DU yn 2021 wrth gyflwyno'r bil trais yn y cartref, ond fe gafodd ei wrthod.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref mai ceisio haneru achosion o drais yn erbyn menywod yw'r amcan dros y ddegawd nesaf.
Mae cymorth a gwybodaeth am y pynciau sy'n cael eu codi yn yr erthygl yma ar gael ar wefan BBC Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2022