Rhieni'n 'cau'r llenni' pan mae'n glawio am fod plant ofn llifogydd

Sharon Elward, cydlynydd banc bwyd Pontypridd yn sefyll o flaen pentyrau o fwyd.  Mae'n gwisgo hwdi gwyrdd sydd a'r geiriau 'Pontypridd Foodbank'.
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sharon Elward nad oedd pobl Pontypridd yn teimlo iddyn nhw gael digon o rybudd cyn Storm Bert

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae cynnwys yn yr erthygl isod allai beri gofid.

Mae plant ardal Pontypridd bellach mor ofnus pan mae'n glawio mae'u rhieni yn gorfod cau'r llenni a chodi sŵn y teledu.

Dyma mae trefnydd cymunedol y banc bwyd lleol yn ddweud, ar ôl i'r dref gael ei tharo'n wael gan stormydd yn y blynyddoedd diwethaf.

Ychwanegodd Sharon Elward bod problemau iechyd meddwl "wedi mynd drwy'r to".

Mae rhai trigolion wedi dweud iddyn nhw ystyried hunanladdiad, meddai, am "nad yw eu lleisiau yn cael eu clywed".

Mae'r banc bwyd yn cynnal prosiect i roi cyfle i ddioddefwyr llifogydd ddod at ei gilydd er mwyn siarad am eu profiadau.

Mae'r cyngor yn amcangyfrif bod cost y difrod i isadeiledd lleol gymaint â £8m.

Mae'r sir yn dal i ddod i delerau â Storm Dennis bum mlynedd yn ôl, wnaeth hyrddio Pontypridd i frig y newyddion.

Roedd y dref ymysg y llefydd i'w taro waethaf gan lawiad a lefelau afon oedd yn torri record.

Ddydd Iau fe wnaeth pwyllgor amgylchedd y Senedd holi'r asiantaethau oedd ynghlwm â'r ymateb i stormydd Bert a Darragh a darodd Cymru ddiwedd Tachwedd a dechrau Rhagfyr 2024.

Dywedodd Llŷr Gruffydd AS, cadeirydd y pwyllgor, bod yr amser a gymerodd i rybuddio trigolion yn dangos "methiant difrifol yn y systemau sydd i fod i amddiffyn pobl".

Roedd papurau gafodd eu cyflwyno o flaen llaw i'w hymchwiliad yn dangos i ryw 438 o eiddo wynebu llifogydd ar draws Rhondda Cynon Taf yn ystod Storm Bert.

Munud ar ôl i rybudd llifogydd gael ei gyhoeddi ym Mhontypridd yn ystod storm Bert, tynnodd gweithwyr y cyngor lun oedd yn dangos bod y dŵr dros "droedfedd o ddyfnder yn y strydoedd", clywodd un o bwyllgorau'r Senedd.

'Dylai fod rhybudd oren wedi cael ei gyhoeddi'

Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor, dywedodd arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf – Andrew Morgan, bod swyddogion wedi ffonio Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod oriau mân 25 Tachwedd 2024, a'u hannog i gyhoeddi rhybudd i'r cyhoedd.

"Cawsom wybod eu bod yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa," meddai, "ond roeddem ni'n dadlau bod dim angen monitro achos bod y dŵr eisoes ar y strydoedd.

"Cafodd y rhybudd llifogydd ei gyhoeddi am 07.41, ac am 07.42 mi gawsom lun gan y swyddogion priffyrdd yn dangos bod y dŵr dros droedfedd o uchder ar y strydoedd."

Dywedodd ei fod wedi cael "sgyrsiau cadarn" gyda CNC a'r Swyddfa Dywydd yn dilyn storm Bert.

Roedd CNC wedi dangos bod yr afon ym Mhontypridd wedi codi ar y gyfradd uchaf erioed ond eu bod bellach wedi addasu'r trothwy ar gyfer cyhoeddi rhybudd llifogydd yn y dyfodol.

Roedd uwch swyddogion y Swyddfa Dywydd – a gyhoeddodd rybudd tywydd melyn am law cyn storm Bert, yn hytrach na rhybudd oren mwy difrifol – hefyd wedi cael cyfarfod gyda'r cyngor.

Dywedodd Andrew Morgan eu bod yn ddiolchgar am yr ymateb, ond dylai rhybudd oren fod wedi cael ei gyhoeddi.

"Wrth edrych yn ôl ar y lefel o law – dylai rhybudd oren fod wedi cael ei gyhoeddi," meddai.

Pobl a bwcedi yn ceisio cael gwared ar ddwr sydd wedi goddiweddid llifglawdd ar lan yr afon Taf ym Mhontypridd.
Disgrifiad o’r llun,

Achosodd Storm Bert i gannoedd o gartrefi a busnesau yn Rhondda Cynon Taf i gael eu llifogi

Roedd gweld strydoedd y dref dan ddŵr eto "wedi cael effaith anferth ar bobl," meddai Sharon Elward.

"Allan nhw ddim copio, allan nhw ddim parhau i fyw fel hyn," meddai, gan ychwanegu bod y sefyllfa yn gwaethygu lefelau tlodi'n lleol hefyd.

Mae pobl yn gwylio lefelau'r afonydd "drwy'r amser", meddai.

"Sut allwch chi gadw 'mlaen gwneud hynny drwy'r amser - symud celfi a cabinets mawr lan lofft unrhyw bryd mae 'na rybudd - dyw e jyst ddim yn realistig."

Mae rhieni yn gorfod "cau'r llenni a throi'r teledu lan yn uwch", fel nad yw "symptomau PTSD eu plant yn dod 'nôl" pan fo'n glawio, ychwanegodd.

"Ry'n ni wedi clywed wrth bobl sy'n teimlo mor wael dy'n nhw ddim eisiau bod yma," rhybuddiodd.

'Diffyg rhybuddion'

Roedd sesiynau a gafodd eu trefnu gan y banc bwyd mewn ardaloedd gafodd eu taro waethaf gan y llifogydd wedi denu torf, meddai.

"Dyw eu lleisiau nhw ddim yn cael eu clywed - maen nhw'n cael eu taflu from pillar to post o amgylch y gwahanol asiantaethau a neb yn gwrando ar be sy'n digwydd iddyn nhw," meddai.

Mae'n gobeithio y bydd y prosiect yn arwain at gynnig awgrymiadau i'r awdurdodau sy'n ymateb i lifogydd.

"Mae'n frwydr gyson - ry'n ni'n gwybod bod 'na lot o arian wedi cael ei wario, ond dyma ni yn yr un sefyllfa bum mlynedd yn ddiweddarach, felly a gafodd e'i wario'n gall?"

Dyn gyda sbectol a barf yn sefyll ar bwys afon
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Pockett yn galw am fwy o gydweithio a chydlynu rhwng asiantaethau

Mae John Pockett yn byw ar Berw Road ym Mhontypridd, lle'r oedd y llifogydd llynedd a phum mlynedd yn ôl.

"Ry'n ni'n ddrwgdybus iawn pan ma' glaw yn dod," meddai.

"Rhai o'r gwersi mawr o beth ddigwyddodd yn enwedig cyn Nadolig oedd - dim y diffyg rhybuddion - ond dim rhybuddion o gwbl oll.

"Byddai bagiau tywod wedi bod o help, oedden ni'n trio gwneud bagiau tywod trwy cerrig mân o'r ardd a bagiau ailgylchu.

"Mae angen i'r awdurdod lleol edrych mewn i roi floodgates i bawb sydd wedi dioddef neu sy'n debygol o ddioddef."

Staff Dwr Cymru mewn siacedi oren yn llwytho ceir a poteli dwr mewn maes parcio archfarchnad yn Nhreorci.
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i filoedd o bobl ferwi eu dŵr tap am gyfnod ar ôl i safle trin dŵr uwch Treherbert, Rhondda Cynon Taf ddioddef llifogydd yn ystod Storm Bert

Roedd 'na gryn drafodaeth yn dilyn Storm Bert am faint o rybudd gafodd ei roi gan y Swyddfa Dywydd a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Mewn datganiad dywedodd y Swyddfa Dywydd eu bod yn "croesawu'r cyfle i drafod effaith y stormydd diweddar" gyda'r pwyllgor amgylchedd.

"Ry'n ni'n cymryd ein cyfrifoldeb i rybuddio am dywydd gwael yn y DU yn ddifrifol iawn, a fyddwn ni wastad yn esblygu ein gwaith ac yn gweithio hyd yn oed yn fwy clos gyda phartneriaid i sicrhau ein bod yn darparu'r wybodaeth orau i gadw pobl yn ddiogel."

'Gwneud ein gorau i reoli'r risg'

Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Rhondda Cynon Taf eu bod wedi gwario dros £100m ar atal llifogydd ers Storm Dennis yn 2020.

Roedd hyn, meddai'r cyngor, wedi lleihau'r risg i tua 2,269 o eiddo yn ystod Storm Bert.

Dywedodd Jeremy Parr, sy'n gyfrifol am lifogydd yng Nghyfoeth Naturiol Cymru, bod staff yr asiantaeth yn gweithio "ddydd a nos i wneud ein gorau i reoli'r risg o lifogydd".

Cyn storm Bert roedd y corff wedi rhybuddio bod "llifogydd sylweddol yn bosib ar draws Cymru", gan annog pobl i baratoi.

Ond yn dilyn adolygiad, mae CNC wedi lleihau'r trothwy y maen rhaid i'r Afon Taf ei gyrraedd ger Pontypridd cyn cyflwyno rhybudd llifogydd yno.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi darparu £75m ar gyfer gwaith atal llifogydd eleni, a fyddai'n gwarchod mwy na 45,000 o gartrefi.