Llywodraeth yn addo taliadau £1,000 wedi llifogydd Storm Bert
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo taliadau o £1,000 i’r rhai heb yswiriant, a £500 i’r rhai sydd wedi’u hyswirio, ar ôl i effeithiau Storm Bert achosi difrod i gartrefi a busnesau dros y penwythnos.
Roedd y Prif Weinidog Eluned Morgan hefyd wedi wynebu galwadau gan Blaid Cymru am fwy o arian ar gyfer diogelwch tomenni glo gan lywodraeth Lafur y DU yn dilyn y tirlithriad yng Nghwmtyleri.
Ond yn y Senedd dywedodd y prif weinidog y byddai’n “anodd” gwario mwy na’r £25m roedd hi wedi gofyn amdano.
Dywedodd ei bod yn "hyderus" y byddai Prif Weinidog y DU Syr Keir Starmer yn darparu mwy o arian.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf eisoes wedi cyhoeddi y bydd £1,000 ar gael bob cartref neu fusnes sydd wedi eu heffeithio yn y sir honno.
Mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Huw Irranca-Davies wedi dweud bod o leiaf 433 o gartrefi wedi profi llifogydd yn sgil Storm Bert.
Beirniadodd Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru y £25m a addawyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer diogelwch tomenni glo.
Mae amcangyfrifon, meddai, yn awgrymu y gallai gostio £600m dros 10 i 15 mlynedd.
“Mae angen eu gwneud yn ddiogel ac ar frys,” meddai.
Dywedodd Eluned Morgan fod dim arian wedi dod gan y llywodraeth Geidwadol flaenorol "ers pedair blynedd".
Dywedodd ei bod yn "falch iawn bod y llywodraeth Lafur gyntaf wedi ateb ein cais am £25m, sef yr hyn y gofynnwyd amdano, oherwydd rydym yn cydnabod bod hwn yn brosiect 10 i 15 mlynedd".
Newid hinsawdd yn 'cyflymu'
Yn y cyfamser, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio bod "angen i ni i gyd newid ac addasu i wneud ein hunain mor gydnerth â phosibl" i effeithiau newid hinsawdd.
Dywedodd Katie Davies ar ran CNC: “Rydyn ni’n gwybod bod llawer o gymunedau’n gyfarwydd iawn â llifogydd, ac y bydd y perygl hwnnw’n cynyddu i eraill yn y dyfodol hefyd wrth i newid hinsawdd gyflymu.
"Bydd angen i ni i gyd newid ac addasu i wneud ein hunain mor gydnerth â phosibl i'r effeithiau hynny.
"Yn y tymor byr a’r tymor hir, rydym yn parhau’n benderfynol o weithio mewn partneriaeth â’r llywodraeth, awdurdodau rheoli perygl llifogydd eraill a chymunedau ledled Cymru i adeiladu’r gwytnwch hwnnw a gwella ein parodrwydd i fynd i’r afael â risgiau llifogydd a’r argyfwng hinsawdd ar y cyd."
Dywedodd Eluned Morgan hefyd y byddai’n ystyried y mater o rybuddion llifogydd yn dilyn cwynion am rybuddion a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Swyddfa Dywydd.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, pe bai "rhybudd mwy, yna fe allai mwy o fesurau ataliol fod wedi eu rhoi ar waith".
Adleisiodd bryderon gan arweinydd cyngor Llafur Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan am rybudd tywydd melyn y Swyddfa Dywydd.
Dywedodd mewn rhai o'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt fwyaf ym Mhontypridd fod rhai trigolion dim ond wedi sylweddoli bod llifogydd "pan oedd cymdogion yn mynd o dŷ i dŷ, yn curo ar y drysau".
Dywedodd Eluned Morgan fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 131 o rybuddion, "gan gynnwys dau rybudd llifogydd difrifol gyda dros 95,000 o negeseuon wedi'u hanfon", gan gyrraedd 46,000 o bobl.
"Felly fe wnaethon nhw gryn dipyn. Y cwestiwn yw, a allent fod wedi gwneud mwy?"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl