Wimbledon: Y Gymraes Mimi Xu i wynebu Emma Raducanu

Mimi XuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mimi Xu yw'r chwaraewr cyntaf o Gymru i gystadlu yn y senglau yn Wimbledon ers 20 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd y Gymraes ifanc Mimi Xu yn wynebu Emma Raducanu o Loegr yn rownd gyntaf pencampwriaeth Wimbledon.

Mae Xu, 17, yn rhif 302 ar restr detholion y byd, tra bod Raducanu, 22 - enillydd Pencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau yn 2021 - yn rhif 38.

Mae Xu, o Abertawe, eisoes wedi ennill dwy gêm yn erbyn chwaraewyr ymhlith y 100 uchaf - gan gynnwys yn erbyn Alycia Parks yn rownd wyth olaf Pencampwriaeth Agored Birmingham yn gynharach yn y mis.

Os yw Xu yn llwyddo i ennill yn erbyn Raducanu, yna fe fydd hi'n wynebu un ai enillydd Wimbledon yn 2023, Marketa Vondrousova neu McCartney Kessler yn yr ail rownd.

Bydd y bencampwriaeth yn dechrau ddydd Llun.

Pynciau cysylltiedig