Y nos a ni: Y ferch sy'n caru'r tywyllwch

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Dani RobertsonFfynhonnell y llun, Dani Robertson
Disgrifiad o’r llun,

Dani Robertson

Pan symudodd Dani Robertson o Fanceinion i Sir Fôn yn ferch fach saith mlwydd oed, doedd hi erioed wedi gweld awyr mor dywyll na sêr mor ddisglair.

Meddai: "Doedden ni methu gweld dim byd ym Manceinion achos roedd lot o lygredd golau, ond pan wnaethon ni symud i Ynys Môn, y peth cynta' dwi'n gallu gofio ydy pa mor dywyll oedd o."

Dros 25 mlynedd wedyn, mae Dani'n gweithio fel Swyddog Awyr Dywyll i Barc Cenedlaethol Eryri ac mae hi wedi cyhoeddi llyfr All Through The Night am ei pherthynas â thywyllwch ac effaith llygredd golau.

O Fanceinion i Ynys Môn

Mae Dani wedi bod â diddordeb yn y sêr ers iddi gofio. Pan symudodd y teulu o Fanceinion i Ynys Môn, roedd ei thad yn mynd â hi wylio'r sêr ar noson glir.

"Roedd o'n mynd â fi allan bob nos pan oedd hi'n glir. Achos Dad dwi wedi cael y diddordeb."

Hyd heddiw, mae'n ddiolchgar i'w theulu am symud i ogledd Cymru a oedd yn caniatáu "bywyd hollol wahanol i fywyd ym Manceinion".

"Oedd Mam yn gallu gadael fi allan, roedd hi'n dweud wrtha i, 'tyrd yn ôl pan mae'r golau stryd yn dod ymlaen'; ffordd da i dyfu i fyny. Doedd o ddim yn saff i wneud hynny ym Manceinion."

Dani yn edrych tua'r awyr dywyllFfynhonnell y llun, Dani Robertson
Disgrifiad o’r llun,

Dani yn edrych tua'r awyr dywyll

Yn ei gwaith, mae'n dysgu pobl am yr awyr dywyll, sut i leihau llygredd golau a "thrio newid meddwl pobl am y tywyllwch".

Meddai Dani: "Mae'r tywyllwch yn cael effaith ar bopeth fel pobl, bywyd gwyllt, y sêr, hanes, treftadaeth Cymraeg a threftadaeth dros y byd i gyd.

"Dwi'n dechrau bob pennod [yn y llyfr] efo rhywbeth am fy mywyd; y profiadau dwi wedi eu cael efo'r awyr dywyll. Mae 'na bethau am fod yn ferch yn y nos a bod ar ben dy hun a sut i ddefnyddio golau i fod yn saff; dwi'n trafod mai dim y tywyllwch sy'n brifo merched.

"Mae yna bennod arall ar fywyd gwyllt a sut i mi weld ystlum oedd wedi brifo am y tro cyntaf pan oeddwn i yn Ysgol Gynradd Rhosneigr, diwrnod sydd wedi aros efo fi am byth. Mae ystlumod angen awyr dywyll i oroesi.

"Mae llygredd golau'n cael effaith negyddol ar fywyd gwyllt.

"Rydan ni'n gwybod ei fod yn bwysig i bobl fynd allan i'r haul, ond mae'n bwysig bod allan yn y tywyllwch hefyd. Mae llygredd golau yn cael effaith ar ein lles ni; mae'n creu insomnia, diabetes, canser..."

Gobaith Dani yw newid agweddau darllenwyr y gyfrol am y tywyllwch, a'u hannog i gymryd camau i leihau eu llygredd golau.

Tylluan wen yn hedfan yn yr awyr dywyllFfynhonnell y llun, Dani Robertson
Disgrifiad o’r llun,

Tylluan wen yn hedfan yn yr awyr dywyll

Awyr Dywyll Cymru

Hoff lefydd Dani i wylio'r awyr dywyll yng Nghymru yw Llynnau Mymbyr, Llynnau Cregennen ac Uwchmynydd.

I Dani, mae mwynhau'r sêr yn ffordd o gysylltu â'r gorffennol a'r dyfodol.

"Dwi'n byw rownd y gornel i Farclodiad y Gawres sydd yn safle neolithig. Mae o dros bedair mil o flynyddoedd oed; mae'r bobl oedd yn byw yno adeg hynny yn gweld yr un sêr â rydyn ni'n gweld rŵan - yr awyr dywyll ydy'r unig beth sydd ddim wedi newid dros amser.

"Bydd pobl yn y dyfodol yn gallu gweld yr un peth â rydyn ni'n ei weld rŵan os ydyn ni'n gallu stopio llygredd golau."

Os ydych am fwynhau Awyr Dywyll Cymru, beth yw cyngor Dani?

"Os wyt ti eisiau gweld sêr, dos i rywle i ffwrdd o'r llygredd golau, mynd â mat efo chdi, rhywbeth cynnes i yfed, gwisgo'n gynnes, gorwedd i lawr a sbio i fyny."

Cafodd y stori yma ei chyhoeddi gyntaf yn 2023.

Geirfa

Manceinion / Manchester

Sir Fôn / Anglesey

Disglair / Bright

Llygredd golau / light pollution

Swyddog / Official

Parc Cenedlaethol Eryri / Eryri National Park

Cyhoeddi / Publish

Perthynas / Relationship

Tywyllwch / Darkness

Diddordeb / interest

Gwylio / watch

Diolchgar / thankful

Caniatáu / allow

Treftadaeth / heritage

Brifo / harm

Ystlum / bat

Lles / welfare

Agweddau / attitudes

Annog / encourage

Gorffennol / past

Dyfodol / future

Safle neolithig / Neolithic site