Y Fari Lwyd a'r Hen Galan
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.
Mae grŵp Dawnswyr Twrch Trwyth wedi bod yn tywys Y Fari Lwyd o amgylch Caerdydd i ddathlu'r Hen Galan.
Mae'r Hen Galan yn cael ei ddathlu bythefnos ar ôl y flwyddyn newydd fodern, ar 12 neu 13 o Ionawr, yn dibynnu ar yr ardal.
Gwyliwch y fideo i weld Dewi Rhisiart yn sgwrsio am yr hen draddodiad.
Mwy am Y Fari Lwyd
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dymuno blwyddyn newydd dda ar 1 Ionawr.
Ond cyn 1752 a chyn i bobl ddilyn y calendr Gregori, roedd pobl yng Nghymru'n dathlu'r flwyddyn newydd ar 13 Ionawr.
Heddiw, mae rhai ardaloedd yng Nghymru fel Cwm Gwaun yn Sir Benfro a Llangynwyd ym Morgannwg yn parhau i ddathlu'r Hen Galan ar 13 Ionawr.
Byddai pobl yn mynd o gwmpas tai'r ardal yn canu er mwyn hel calennig, sef arian neu rodd.
Dyma pam fod llawer o noseithiau canu Plygain yn digwydd ar ddechrau Ionawr o hyd. Maen nhw'n arwain at yr Hen Galan.
Rhan arall o ddathlu'r Hen Galan oedd y Fari Lwyd, sef penglog ceffyl gyda rhubanau lliwgar.
Roedd y penglog yn cael ei roi ar bolyn ac roedd person o dan lliain yn agor a chau'r geg.
Byddai'r Fari Lwyd yn cael ei thywys o gwmpas tai'r ardal a'r dafarn leol.
Yna, roedd rhaid gofyn am wahoddiad i ddod i mewn wrth ganu penillion.
Byddai perchennog y tŷ yn penderfynu agor y drws neu beidio. Roedd yn anlwcus gwrthod mynediad i'r Fari Lwyd.
Yn y tŷ wedyn byddai'r grŵp yn diddanu'r teulu ac yn derbyn bwyd a diod.
Hen Galan hapus i chi!
Geirfa
tywys - to lead
pythefnos - fortnight
dibynnu - depending
traddodiad - tradition
parhau - to continue
canu Plygain - Plygain singing
arwain - to lead
penglog ceffyl - horse skull
rhubanau - ribbons
lliain - sheet
dafarn leol - local pub
gwahoddiad - invitation
penillion - verses
anlwcus - unlucky
mynediad - entrance
diddanu - entertain
derbyn - recieve
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2024