'Penderfyniadau anodd' er cynnydd cyllideb Llywodraeth Cymru

GIGFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua hanner cyllideb Llywodraeth Cymru eisoes yn cael ei wario ar ofal iechyd

  • Cyhoeddwyd

Gallai rhai gwasanaethau wynebu toriadau os ydy'r gwasanaeth iechyd yn llyncu'r cyllid ychwanegol gafodd ei gyhoeddi yn adolygiad gwariant y Canghellor Rachel Reeves, meddai arbenigwyr.

Maen nhw'n rhybuddio am "benderfyniadau anodd", er bod disgwyl i'r gyllideb dyfu dros y tair blynedd nesaf.

Dywedodd Llafur eu bod nhw'n buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Gall Llywodraeth Cymru godi trethi, ond mae'r rhan fwyaf o'r hyn y maen nhw'n ei wario yn dod yn uniongyrchol o'r Trysorlys.

Bydd eu cyllid yn £22.4bn y flwyddyn ar gyfartaledd dros y tair blynedd nesaf, o ganlyniad i'r adolygiad gwariant.

Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, bod "lot o bethau i fod yn hapus" amdanyn nhw.

'Toriadau mewn termau real'

Dywedodd y sefydliad annibynnol, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS), y byddai cyllid ar gyfer rhedeg gwasanaethau cyhoeddus o ddydd i ddydd yn tyfu tua 1.2% yn fwy na chwyddiant.

"Er bod cynnydd cyffredinol, mae'n debyg y bydd hynny'n golygu dewisiadau anodd ac yn wir toriadau mewn termau real ar gyfer rhai gwasanaethau," meddai David Phillips o'r IFS.

Gallai cynnydd mewn cyllideb gwasanaeth iechyd Cymru gipio'r "rhan fwyaf, os nad y cyfan, o'r cynnydd hwn yn hawdd", meddai.

Dywedodd y bydd yn rhaid i'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford "benderfynu'n ofalus pa feysydd i'w blaenoriaethu a pha rai i'w torri'n ôl".

Mae tua hanner cyllideb Llywodraeth Cymru eisoes yn cael ei wario ar ofal iechyd, ond mae amseroedd aros am driniaeth mewn ysbytai wedi codi i'r lefelau uchaf erioed yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae adolygiad gwariant Rachel Reeves yn datgelu faint o gyllid fydd ar gael, ar ôl etholiad y Senedd fis Mai nesaf.

Fe wnaeth y Canghellor hefyd ddefnyddio ei hadolygiad i gyhoeddi £445m ar gyfer prosiectau rheilffordd newydd.

Rhoddodd gefnogaeth i godi pum gorsaf newydd yng Nghaerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy, a chynllun i uwchraddio rheilffyrdd y gogledd.

Mae'n dilyn blynyddoedd o gwynion nad ydy Cymru wedi cael cyfran deg o wariant ar y rheilffyrdd.

Cafwyd beirniadaeth gan bleidiau eraill o'r amserlen 10 mlynedd i wario'r arian, gyda llefarydd ar ran y Ceidwadwyr yn ei alw'n "gywilydd".

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: "Bydd Cymru yn gweld buddsoddiad ychwanegol sylweddol yn ei seilwaith rheilffyrdd ac yn niogelwch tomenni glo".

"Bydd cymunedau ledled y wlad hefyd yn gweld manteision gwirioneddol sy'n gwella bywydau ac yn creu cyfleoedd."

Dywedodd gweinidog y Trysorlys, Torsten Bell, y byddai'r "lefelau uchaf erioed o wariant yn digwydd yn Llywodraeth Cymru" a dywedodd bod llywodraethau Ceidwadol blaenorol wedi "siomi Cymru'n gyson" ar wariant cyfalaf sy'n talu am seilwaith.

Mark DrakefordFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

"Mae lot o bethau i fod yn hapus amdanyn nhw," meddai Mark Drakeford

"Mae lot o bethau i fod yn hapus" amdanyn nhw, meddai Mark Drakeford.

"Fel tair blynedd am refeniw, pedair blynedd am gyfalaf, a mwy o arian, pum biliwn o wariant ychwanegol dros gyfnod yr adolygiad a mwy o arian i bethau eraill - pethau fel tomenni glo a rheilffyrdd."

Anghytunodd Mr Drakeford gyda honiad Plaid Cymru fod y setliad £2.5 biliwn yn waeth na'r hyn a gafwyd yn 2021 gyda Llywodraeth Geidwadol y DU.

"Dwi ddim yn meddwl fod hynny'n wir o gwbl – mae pobl Cymru yn medru gweld.

"Pan oedd y Ceidwadwyr mewn grym doedd dim ceiniog yn dod i Gymru, er enghraifft i ddelio gyda problemau'r tomenni glo.

"Nawr mae mwy na £100,000 newydd 'da ni i fuddsoddi a helpu'r cymunedau lle mae tomenni glo yno bob dydd."

Wrth ymateb i'r ffaith fod y cyllid yn llai na'r hyn mae nifer o ardaloedd Lloegr yn ei dderbyn tuag at drafnidiaeth, dywedodd Mr Drakeford "dydyn ni ddim yn cymharu pethau sydd yn gyfartal".

"Yn Lloegr maen nhw wedi cael sicrwydd o fuddsoddiad ers blynyddoedd - maen nhw wedi paratoi ac mae pobl i 'neud y gwaith 'da nhw."

Awgrymodd bod adnoddau dynol, caniatâd cynllunio a phobl i wneud y gwaith yn yr ardaloedd hynny – a bod y broses mewn cam cynharach yng Nghymru.