Disgwyl gwariant o £445m ar reilffyrdd yn y de a'r gogledd

Mae gwariant ar y rheilffyrdd wedi bod yn bwnc llosg o fewn gwleidyddiaeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Ganghellor Llywodraeth y DU gyhoeddi ddydd Mercher y bydd £445m yn cael ei wario ar brosiectau rheilffordd newydd yng ngogledd a de Cymru.
Bydd mwy o fanylion yn adolygiad gwariant Rachel Reeves, ond mae yna gynlluniau ar gyfer uwchraddio rheilffyrdd y gogledd a chodi pum gorsaf newydd yng Nghaerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy.
Ar hyd y blynyddoedd mae nifer o gwynion wedi bod am danfuddsoddi yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru.
Dywedodd y Trysorlys fod gan y pecyn "y potensial i fod yn wirioneddol drawsnewidiol".
Mae'r Ceidwadwyr wedi beirniadu bod diffyg cefnogaeth i ffordd liniaru newydd ar yr M4, ac yn ôl Plaid Cymru dyw'r arian yn ddim i gymharu â'r "biliynau sy'n ddyledus i Gymru".
Brynhawn Mercher bydd y Canghellor Rachel Reeves yn manylu ar ei chynlluniau ariannu gwasanaethau cyhoeddus am y blynyddoedd nesaf.
Effaith ar Lywodraeth Cymru?
Nid oedd hi'n glir nos Fawrth beth fyddai effaith y cyhoeddiad ar wariant Llywodraeth Cymru o ddydd i ddydd - ond mae disgwyl toriadau i gyllidebau heblaw meysydd iechyd, addysg ac amddiffyn.
Mae'r hyn y mae Cymru'n cael ei wario yn cael ei bennu gan sut mae adrannau perthnasol i Loegr yn unig - fel iechyd a llywodraeth leol - yn cael eu hariannu.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae nifer o ddadleuon wedi bod rhwng Llafur Cymru a San Steffan wrth i arolygon barn awgrymu y gallai Llafur golli grym yng Nghymru.
'Degawdau o danfuddsoddi'
Yn ôl y Trysorlys, bydd y £445m yn cael ei wario ar drwsio croesfannau, adeiladu gorsafoedd newydd ac uwchraddio rheilffyrdd presennol, ac mae'r buddsoddiad yn gyfuniad o gyllid uniongyrchol ac arian parod i Lywodraeth Cymru.
Mae'n rhan o "gynllun Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â degawdau o danfuddsoddi mewn seilwaith hanfodol sydd wedi dal economi Cymru yn ôl", medd llefarydd.
Mae gwariant ar y rheilffyrdd wedi bod yn bwnc llosg o fewn gwleidyddiaeth Cymru, gyda'r ffaith bod rheilffordd HS2 wedi'i ddynodi fel cynllun "Cymru a Lloegr" yn golygu nad yw Llywodraeth Cymru wedi derbyn unrhyw arian ychwanegol.
Yn fwy diweddar cafodd rheilffordd newydd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt ei chategoreiddio yn yr un modd, gan arwain at fwy o alwadau am ariannu teg i reilffyrdd Cymru.

Bydd y Canghellor Rachel Reeves yn manylu ar ei chynlluniau gwariant am y blynyddoedd nesaf ddydd Mercher
Mae'r prif weinidog wedi galw'n gyhoeddus ar Lywodraeth y DU yn ystod yr wythnosau diwethaf i wario mwy ar reilffyrdd.
Mae'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford wedi dweud pe na bai rheilffordd High Speed 2 yn brosiect Cymru a Lloegr, gallai £431m fod yn ddyledus i Gymru.
Yn ôl Plaid Cymru gallai'r ddyled fod yn sawl biliwn ac mae gwleidyddion blaenllaw - yn eu plith Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens - hefyd wedi nodi hynny yn y gorffennol.
Nid yw'r arian ychwanegol yn gysylltiedig â HS2, er bod Llafur yn awyddus i wneud cysylltiad symbolaidd.
Dywedodd ffynonellau o fewn y blaid, a'r cyn-weinidog trafnidiaeth Lee Waters, fod y swm yn fwy nag y byddai Cymru wedi'i gael o'r prosiect rheilffordd cyflym.

Mae Llywodraeth Cymru'n gobeithio y bydd arian er mwyn creu pum gorsaf newydd rhwng Caerdydd ac Afon Hafren
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn lobïo Llywodraeth y DU am arian i amryw o brosiectau rheilffordd yn y gogledd a'r de.
Maen nhw'n cynnwys gorsafoedd newydd yn Nwyrain Caerdydd, Gorllewin Casnewydd, ardaloedd Somerton a Llanwern yng Nghasnewydd, un arall i wasanaethu Magwyr a Gwndy, a gwelliannau i'r brif reilffordd.
Cafodd y gorsafoedd eu hargymell gan adolygiad, gan mai dim ond tair gorsaf sydd rhwng Caerdydd ac Afon Hafren ar hyn o bryd.
Fe gafodd y cynnig gefnogaeth gan Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y DU, Heidi Alexander, mewn llythyr at ysgrifennydd cyllid Llywodraeth Cymru, Ken Skates, fis Ionawr.
Fe wnaeth hi hefyd fynegi ei chefnogaeth i adolygiad o drafnidiaeth y gogledd, oedd yn galw am welliannau i'r brif reilffordd ac i orsaf Caer - cyrchfan allweddol i deithwyr o'r gogledd - er mwyn galluogi mwy o wasanaethau.
Yr amcangyfrif yw y bydd y gwaith yn costio £385m.
Arian i domenni glo?
Fe allai Rachel Reeves hefyd roi mwy o arian er mwyn helpu i ddiogelu tomenni glo yng Nghymru.
Mae Eluned Morgan wedi dweud yn y gorffennol na fydd y £25m, a gafodd ei glustnodi ar gyfer hynny yng nghyllideb yr hydref, yn ddigon.
Mewn araith fis diwethaf dywedodd Ms Morgan fod y ddwy lywodraeth yn cydweithio i "wario £100m" ar ddiogelu tomenni glo.
"Gadewch i ni fod yn onest, etifeddiaeth o oes cyn datganoli ydy hyn," meddai.
"Dyw hi ond yn deg bod San Steffan yn talu mwy am ei lanhau, fel nad oes rhaid i ni fynd i'n cyllidebau gwasanaethau cyhoeddus ni."

Mae cyn-weinidog Llywodraeth Cymru, Lee Waters yn rhybuddio na fydd Llafur yn cael ail gyfle gan etholwyr
Wrth edrych ymlaen at etholiad nesaf y Senedd, dywedodd gwleidydd Llafur blaenllaw: "Mae Llafur wedi cyflawni'r hyn na fyddai'r Torïaid yn ei gyflawni, yr hyn na all Plaid Cymru a'r hyn nad oes gan Reform ddiddordeb ynddo."
Dywedodd y cyn-weinidog trafnidiaeth Lee Waters: "Daeth gweision sifil i'r casgliad ein bod wedi colli £431m yng nghyllid fformiwla Barnett oherwydd y ffordd y cafodd y prosiect rheilffordd cyflym ei gategoreiddio gan y Trysorlys.
"Mae'r £445m hwn yn gwneud iawn am hynny.
"Bydd yn rhaid i ni aros i weld pa gynlluniau yn union y mae'r Canghellor Rachel Reeves yn cytuno iddyn nhw, ond byddai'r ffigwr hwnnw'n caniatáu i'r cynlluniau sydd wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac Adran Drafnidiaeth y DU i ddigwydd.
"Gyda'i gilydd mae hwn yn becyn sylweddol iawn o fuddsoddiad rheilffyrdd, llawer mwy nag a gawsom erioed gan y Torïaid, a bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl.
"Mae angen i ni nawr sicrhau bod y ffordd y mae rheilffyrdd yn cael eu cyllido yn newid a bod hyn yn ddechrau buddsoddiad ar gyfer y dyfodol."
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 Mehefin
Dywedodd ffynhonnell arall o'r Blaid Lafur mai gwaith Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens oedd yn gyfrifol am y "buddsoddiad hanesyddol" wrth iddi "wireddu addewid Llafur i wneud iawn am y tangyllido cronig a fu ar reilffyrdd Cymru gan y Torïaid".
Cwyno nad oedd unrhyw arian ychwanegol i ganiatáu ffordd liniaru'r M4 nac ar gyfer uwchraddio ffyrdd yr A55 a'r A40 mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Darren Millar.
"Mae'r buddsoddiad rheilffyrdd sydd wedi'i addo ymhell o dan y £1bn a mwy yr oedd llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU yn bwriadu ei wario ar drydaneiddio llinell gogledd Cymru," meddai.
Ychwanegodd llefarydd Plaid Cymru ar gyllid, Heledd Fychan AS: "Tydi £445m ddim yn cyffwrdd ochrau'r swm rheilffyrdd sy'n ddyledus i Gymru - roedd Llafur yn arfer cytuno efo ni ar hynny nes iddyn nhw ddod i rym.
"Mae pobl Cymru wedi gweld yr anghyfiawnder hwn am beth ydy o – Cymru'n cael ei thanariannu drosodd a throsodd gan lywodraethau San Steffan yn olynol.
"Fydd y cyhoeddiad hwn ddim yn newid hynny."