Canghellor yn cyhoeddi '£23bn i Gymru' yn yr adolygiad gwariant

Y Canghellor Rachel Reeves
Disgrifiad o’r llun,

Dros 10 mlynedd y mae'r addewid o £445m ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru meddai'r Canghellor Rachel Reeves

  • Cyhoeddwyd

Bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn codi i £23bn y flwyddyn ar gyfartaledd dros y tair blynedd nesaf o ganlyniad i'r adolygiad gwariant, meddai'r Canghellor Rachel Reeves.

Bydd y cynlluniau yn "dadwneud cenhedlaeth o dan-ariannu ac esgeulustod", meddai.

Cyhoeddodd y bydd £118m yn cael ei wario ar ddiogelwch tomenni glo yng Nghymru.

Ond esboniodd mai dros 10 mlynedd y mae'r addewid o £445m ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad hwnnw mai dros ddegawd y mae'r arian i reilffyrdd, dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod hynny yn "gywilyddus" tra dywedodd Plaid Cymru bod "Llafur yn bradychu Cymru eto".

Rheilffyrdd yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwariant ar y rheilffyrdd wedi bod yn bwnc llosg o fewn gwleidyddiaeth Cymru

Dywedodd y canghellor yn Nhŷ Cyffredin: "Mae'r adolygiad gwariant hwn yn darparu'r setliadau mwyaf mewn termau real ers cyflwyno datganoli, gyda £52bn i'r Alban, £20bn i Ogledd Iwerddon, erbyn diwedd cyfnod yr adolygiad gwariant, a £23bn i Gymru.

"Ac ar ôl clywed sylwadau gan lawer o gydweithwyr Llafur Cymru ac oherwydd fy mod yn gwybod y rhwymedigaeth sydd arnom i'n cymunedau diwydiannol, rwy'n darparu setliad aml-flwyddyn o £118m i gadw tomenni glo yn ddiogel yng Nghymru."

Ychwanegodd y byddai "cyllid ychwanegol i gefnogi hyd at 350 o gymunedau, yn enwedig y rhai yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig".

Yn ôl y Prif Weinidog Eluned Morgan, "mae'r £5bn o gyllid ychwanegol dros y tair blynedd nesaf yn golygu y gallwn ni ymateb yn well i'n blaenoriaethau".

"Bydd rhagor o gyllid cyfalaf yn cefnogi ein buddsoddiadau mewn seilwaith, gan gynnwys mewn ysgolion, ysbytai a chysylltiadau trafnidiaeth."

map o'r pum gorsaf newydd rhwng Caerdydd ac Afon Hafren
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw creu pum gorsaf newydd rhwng Caerdydd ac Afon Hafren

Yn ôl y Trysorlys, bydd y £445m yn cael ei wario ar drwsio croesfannau, adeiladu gorsafoedd newydd ac uwchraddio llinellau presennol, ac mae'n gyfuniad o gyllid uniongyrchol ac i Lywodraeth Cymru.

Mae'r Trysorlys wedi cefnogi cynlluniau ar gyfer pum gorsaf newydd yng Nghaerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy, yn ogystal â gwelliannau yng ngogledd Cymru.

Maen nhw'n cynnwys gorsafoedd newydd yn Nwyrain Caerdydd, Gorllewin Casnewydd, ardaloedd Somerton a Llanwern yng Nghasnewydd, un arall i wasanaethu Magwyr a Gwndy, a gwelliannau i'r brif reilffordd.

Cafodd y gorsafoedd eu hargymell gan adolygiad, gan mai dim ond tair gorsaf sydd rhwng Caerdydd ac Afon Hafren ar hyn o bryd.

Dywedodd un ffynhonnell yn Llywodraeth Cymru fod y cyfnod buddsoddi o 10 mlynedd yn "wych" gan na fyddai'n bosibl adeiladu'r gorsafoedd fel arall.

Pe bai wedi bod dros gyfnod o dair blynedd maen nhw'n honni y byddai'n rhaid dychwelyd llawer o'r arian i'r Trysorlys gan na ellid cyflawni'r prosiect o fewn amserlen o'r fath.

Yng ngogledd Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i wella y rheilffordd rhwng Wrecsam a Lerpwl i alluogi gwasanaethau tebyg i fetro, ac uwchraddio prif linell y gogledd.

Lluniau wedi cael eu rhoi at ei gilydd. Llun o Guto Peredur Jenkins ar y chwith, Gill Lewis yn y canol a Lisa James ar y dde.
Disgrifiad o’r llun,

Guto Peredur Jenkins (chwith), Gill Lewis (canol) a Lisa James (dde)

Wrth ymateb yng ngorsaf Caerfyrddin ddydd Mercher, dywedodd Guto Peredur Jenkins, sy'n 18 o Lanfihangel ar Arth: "Sai'n credu bod e'n neud sense nagyw e.

"Dyw e ddim yn swno'n reit taw just y gogledd a'r de-ddwyrain sy'n cael gyd o'r arian 'na."

Mae Gill Lewis sy'n 67 yn defnyddio'r tren yn aml, ond dyw hi ddim yn hapus nad oes llawer am gael ei wario yn y gorllewin.

Dywedodd: "Smo nhw'n dodi lot o carriages arno os bydd gêm arno yng Nghaerdydd, neu rwbeth felna. Mae lot o bobl yn sefyll wedyn ar y trên."

Yn ôl Lisa James o Geinewydd, dylai mwy o arian gael ei wario yn y gorllewin: "Mae gorllewin Cymru'n cael ei gyfri fel deprived area achos bod e mor rural."

"Bydden i'n hoffi gorsaf yn agosach at ble fi'n byw."

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar, wedi disgrifio'r cyhoeddiad gwariant ar y rheilffyrdd fel "sarhad i bobl Cymru" ac yn "gywilyddus".

Dywedodd bod "buddsoddodd llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU dros £1bn mewn seilwaith rheilffyrdd rhwng 2014 a 2024, ac addawodd dros £1bn yn fwy i gyflawni'r trydaneiddio yng ngogledd Cymru".

Ymatebodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, i'r adolygiad gwariant: "Mae'r canghellor newydd gyhoeddi bod y £445m ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru - dim ond mymryn o'r hyn sy'n ddyledus i ni, cofiwch - dros 10 mlynedd.

"A daeth hyn yn sgil cyhoeddiadau ar fwy o fuddsoddiadau gwerth biliynau o bunnoedd mewn rheilffyrdd mewn rhannau o Loegr.

"Llafur yn bradychu Cymru eto."

Dywedodd llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn San Steffan, David Chadwick AS bod "dirmyg Llafur tuag at Gymru yn gwaethygu ac yn gwaethygu".

Ychwanegodd: "Mae'r penderfyniad anamddiffynadwy i ledaenu'r swm bach hwn o gyllid rheilffyrdd dros 10 mlynedd nid yn unig yn amddifadu Cymru o'r hyn sy'n ddyledus iddi am brosiectau'r gorffennol, ond mae hefyd yn gwarantu y byddwn yn parhau i fod ar ei hôl hi o ran gwariant seilwaith, wrth i brosiectau trafnidiaeth mawr yn Lloegr gael golau gwyrdd."

'Dim ond crafu'r wyneb'

Yn gynharach ddydd Mercher, dywedwyd wrth y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yn San Steffan fod "anghydraddoldeb rhwng maint yr her a'r arian sydd ar gael" i adfer tomenni glo risg uchel.

Esboniodd cynrychiolwyr o awdurdodau lleol rai o'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu wrth ddelio ag etifeddiaeth gorffennol diwydiannol Cymru.

Dywedodd Nicola Pearce o gyngor Castell-nedd Port Talbot fod tua £12m wedi'i wario ar wneud un domen yn ddiogel, a bod 617 o domenni yn yr ardal.

Ychwanegodd Mark Williams fod sir Caerffili "wedi derbyn tua £3m ar gyfer y flwyddyn 2025/26 – a dim ond crafu'r wyneb mae hynny".