Treth etifeddiaeth yn achosi 'helynt anferth' i ffermydd teuluol

Ffermwyr yn protestio tu allan i gynhadledd y Blaid Lafur yn LlandudnoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth cannoedd o ffermwyr brotestio tu allan i gynhadledd y Blaid Lafur yn Llandudno ym mis Tachwedd 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae newidiadau i dreth etifeddiaeth a gyhoeddwyd gan y canghellor yr hydref diwethaf wedi achosi "helynt anferth" i ffermydd teuluol Cymru, meddai undeb ffermio.

Cyhoeddwyd y cynlluniau i drethu asedau amaethyddol etifeddol gwerth mwy na £1m ar gyfradd o 20% yng nghyllideb Lafur gyntaf Rachel Reeves.

Dywedodd llywydd NFU Cymru, Aled Jones, wrth ASau yn San Steffan ddydd Mercher fod angen "tosturi" gan fod "pobl agored i niwed" yn "llygad y storm".

Awgrymodd fod ffordd arall y gallai'r Trysorlys godi'r £2bn y flwyddyn dan sylw.

Mae Llywodraeth y DU wedi amddiffyn eu diwygiadau i'r dreth etifeddiaeth, gan eu disgrifio fel rhai "hanfodol".

Bu protestiadau ledled y DU ar ôl y cyhoeddiad yn y Gyllideb fis Hydref y byddai eiddo amaethyddol etifeddol gwerth mwy na £1m yn destun treth etifeddiaeth ar 20% - hanner y gyfradd arferol - o fis Ebrill 2026.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud mai dim ond y 500 o ffermydd cyfoethocaf y bydd y newidiadau'n effeithio arnynt bob blwyddyn, ond mae grwpiau ffermio'n dadlau y gallai cymaint â 70,000 gael eu heffeithio.

Dywedodd Aled Jones wrth y Pwyllgor Materion Cymreig ddydd Mercher fod teuluoedd ffermio yn "mynd trwy rai sgyrsiau anodd iawn, yn enwedig pan fo aelodau hŷn mewn cyfnod o fywyd sy'n golygu eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd iawn delio efo'r materion yma".

"Mae'r cyhoeddiad fis Hydref diwethaf wedi taflu llawer o'r busnesau teuluol yma i helynt anferth," meddai.

"Dwi'n gofyn am dosturi at y bobl yma - mae angen eu tynnu nhw o lygad y storm."

Awgrymu system 'ad-dalu'

Dywedodd Mr Jones fod arweinwyr undebau ffermio wedi awgrymu dull gwahanol i'r Trysorlys, sef cyflwyno "mecanwaith ad-dalu" ar arian sy'n cael ei godi o werthu tir pan nad yw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu bwyd.

"Dylai'r arian hwnnw, yn fy marn i, gael ei drethu," meddai.

"Os hoffwch chi, trethwch o ar 40%, yn hytrach na 20%. Dyma'r mecanweithiau sydd ar waith mewn gwledydd eraill.

"O ran ffermwr sy'n trosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall, does dim ceiniog yn cyrraedd eu pocedi.

"Mae'n rhywbeth i barhau â'r busnes fferm hwnnw am genedlaethau i ddod."

Mae Llywodraeth y DU yn mynnu, o dan ei newidiadau, na fyddai tri chwarter o ystadau yn parhau i dalu unrhyw dreth etifeddiaeth o gwbl, tra byddai'r chwarter sy'n weddill yn talu hanner y dreth etifeddiaeth y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei thalu.

Dywed gweinidogion y gellid gwneud y taliadau hynny dros 10 mlynedd, heb log.

Dywedodd llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig, Samuel Kurtz fod cynlluniau Llafur yn "bygwth bywyd a bywoliaeth yng nghefn gwlad Cymru, gan danseilio cenedlaethau o waith caled a bygwth chwalu'r fferm deuluol".