Gareth Bonello: 'Dylanwad Cymru ar ddiwylliant Khasi'
- Cyhoeddwyd
"Mae Cymru wedi cael dylanwad mor drwm ar ddiwylliant Khasi."
Mae'r canwr gwerin Gareth Bonello newydd ddychwelyd i Gymru ar ôl perfformio yn un o wyliau cerddoriaeth a diwylliannol mwyaf India.
Ac mae'n pwysleisio dylanwad Cymru ar yr ardal lle'r oedd Gŵyl Hornbill yn Nagaland eleni ers i gannoedd o genhadon Gristnogol fynd yno o Gymru ar ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif.
Mae'r ŵyl 10 diwrnod ym mis Rhagfyr, sydd â'r llysenw "Gŵyl y Gwyliau", yn dathlu ei 25ain blwyddyn ac yn denu ymwelwyr o bob rhan o'r byd. Dyma ddathliad mwyaf India o dreftadaeth lwythol.
Mae Gareth yn perfformio o dan yr enw The Gentle Good ac yn dychwelyd i Hornbill ar ôl perfformio yno yn 2013. Mae'n recordio cerddoriaeth newydd gyda'i bartneriaid o'r Khasi-Cymru Collective, gan greu cerddoriaeth a barddoniaeth newydd yn yr ieithoedd Khasi a Chymraeg.
Bu'n siarad gyda Cymru Fyw am y profiad:
Sut brofiad oedd perfformio yn yr ŵyl?
Oedd e'n fraint ac o'n i'n falch iawn i fynd mas 'na.
Mae'n ŵyl anhygoel ac unigryw, dathliad mawr o ddiwylliant Naga a gwahanol llwythi Naga i gyd yn dangos dawnsfeydd traddodiadol. Mae hwnna yn brofiad; chi ddim wedi gweld hwnna unrhyw le arall yn y byd.
Ochr yn ochr â hwnna mae bandiau yn perfformio yn fyw. Mae lot o bobl Naga yn mynd yno – mae'n denu twristiaid ond mae lot o bobl lleol yn mynd hefyd. Mae e'n gornel o India dyw lot o bobl ddim yn gyfarwydd gyda felly mae'n gyfle i ddarganfod yr ardal a'r diwylliant.
Mae cysylltiadau wedi bod gyda fi gyda'r gogledd-ddwyrain ers sbel (gwnaeth Gareth ddoethuriaeth gyda rhan ohono yn canolbwyntio ar ymchwil ymarferol gydag artistiaid Khasi).
Dwi wedi bod i Nagaland unwaith o'r blaen ac mi oedd yn gyfle da i fynd mas eto.
I fi mae'n bwysig i drio cynnal y berthynas sy' gyda fi gyda'r Khasi yn Shillong (ardal yng ngogledd-ddwyrain India) i drio 'neud cymaint â ni'n gallu i helpu perfformio yn India a rhannu beth ni wedi bod yn gwneud gyda diwylliannau eraill yn yr ardal.
Felly roedd yn gyfle anhygoel i wneud hynny mewn gŵyl mor fawr ac hefyd bod fi yn cael y cyfle i recordio albwm yr un pryd.
Mae 'na nifer o gysylltiadau rhwng Cymru ac India, yn arbennig oherwydd fod Cristnogion wedi cenhadu yno – ydy India yn lle arbennig i ti?
Dyna pam 'nes i dechrau adeiladu cysylltiadau gyda bobl Khasi a India achos fod y cysylltiad yna yn un mor gryf a bod Cymru wedi cael dylanwad mor drwm ar ddiwylliant Khasi.
Mae'r rhan fwya' o bobl Khasi yn ymwybodol iawn o'r cyswllt yna gyda Chymru ac mae'n rhan mawr o'u hanes nhw. Ond falle bod e'n llai adnabyddus fan hyn.
O'n i ishe mynd mas a trio ffeindio os oedd modd siarad am y berthynas gan ddefnyddio'r celfyddydau – dwi wedi bod yn rhan o'r mudiad yma i dreial ail-ddychmygu y berthynas o fewn y celfyddydau.
Mae 'na lot o berthnasau creadigol yn ffynnu rhwng y ddwy gymuned felly dyna yw ffocws fi. Dros y blynyddoedd dwi wedi neud ffrindiau a ffurfio band a rhyddhau albwm. Mae'n fraint i drio cynnal y berthynas yna a chadw e i fynd.
Beth sy'n arbennig am India sy'n dy ysbrydoli di?
Mae'r diwylliant cerddorol mor ddiddorol a mor amrywiol o le i le. Mae lot fwy o gyswllt gyda phobl, hyd yn oed dyddiau yma pan mae diwylliant byd-eang pop.
Mae 'na ddylanwadau mawr roc a K-pop ar bobl yn India ond mae 'na dal hefyd gyswllt i'r traddodiadau ac i draddodiad clasurol India. Mae 'na lot o gyswllt gydag offerynnau traddodiadol Khasi. Dyna beth sy'n ysbrydoledig am yr ardal.
Mae gymaint o bobl wahanol yn byw yna. Mae gymaint o ieithoedd a diwylliannau ac arddulliau cerddorol felly rydych chi wastad yn darganfod pethau newydd. Mae byth yn mynd i fod yn ddiflas a mae wastad rhywbeth newydd i ddarganfod ac mae'n aml yn y cwm drws nesaf.
Beth allwn ni ddysgu gan India a beth all India ddysgu gan Gymru?
Dyna rhan mawr o'r sgwrs dwi wedi bod yn cael yn ddiweddar – i ni i ddysgu ganddyn nhw mae cryfder diwylliannol yno, yn enwedig i bobl Khasi. Mae diwylliant Khasi mor gryf a dyw nhw ddim yn teimlo fod y diwylliant o dan fygythiad, er fod yr iaith mewn sefyllfa tebyg i le oedd y Gymraeg cyn gael statws hafal i'r iaith.
Chi ddim yn cael addysg yn yr iaith Khasi, chi'n cael addysg yn yr iaith Saesneg unwaith mae'r plant yn yr ysgol uwchradd. Mae lot o deimlad am yr iaith yn adleisio'r math o beth oeddech chi'n clywed yng Nghymru – 'mae angen symud ymlaen', 'Khasi yw iaith y tŷ, yr aelwyd a'r eglwys'. A dyw pobl ddim yn pasio'r iaith ymlaen i'r genhedlaeth nesaf.
Gallai bobl Khasi ddysgu wrtho ni am sut i warchod iaith a thrio sefydlu sail addysgiadol a chyfryngau yn yr iaith Khasi.
I ni, gallwn ddysgu am bwysigrwydd gwerthfawrogi'n diwylliant ni achos dyw diwylliant Khasi ddim yn teimlo dan fygythiad yn yr un ffordd. Ein bod ni'n ymfalchïo yn ein diwylliant a ddim mewn brys i gofleidio diwylliant byd-eang sy'n Saesneg ei iaith.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2024