'Braf bod yn rhan o arddangosfa Lluosogrwydd Aber'

Dywed Dela Anderson bod yr arddangosfa yn Aberystwyth yn hynod o bwysig er mwyn dangos amrywiaeth Cymru
- Cyhoeddwyd
"Dwi i fel person aml-hil ddim wedi gweld lot o straeon Cymraeg sy'n adlewyrchu profiadau teuluoedd cymysg," medd Dela Anderson sy'n un o artistiaid yr arddangosfa 'Lluosogrwydd' yn Aberystwyth.
O ochr ei mam mae Dela yn Gymraes ac mae teulu ei thad yn wreiddiol o Jamaica.
Cartref ei nain a'i thaid Jamaicaidd yn Y Barri 'Although I did not live on St Paul's Avenue' yw testun cyfres o ddarnau celf Dela a dywed bod dylanwad "cariad garw ond tyner" ei nain yn drwm arni.
"Roeddwn i'n treulio llawer o amser yn eu cartref nhw - cartref gyda steil hollol wahanol wrth gwrs o fagu plant ac o ran estheteg - ac fe gafodd y cartref dipyn o ddylanwad arnai yn ddiwylliannol wrth dyfu lan.
"Mae'n hynod o bwysig cael y math yma o blatfform i'n gwaith er mwyn cynrychioli pa mor diverse yw Cymru a fi'n hynod o falch i fod yn rhan o'r arddangosfa."

Mae llawer o waith Dela ar sidan yn hytrach na phapur gan fod sidan yn ei hatgoffa o fregusrwydd atgofion.
"Mae rhywbeth arbennig am sidan - mae'n fregus ac yn llithrig - a dwi wedi defnyddio paent a phrint ar y defnydd er mwyn dangos cyferbyniad rhwng yr atgofion solid â'r atgofion bach mwy mysterious.
"Hefyd mae gen i zine celf a barddoniaeth yn rhan o fy arddangosfa - mae'n egluro cariad garw Jamaica ond y croeso hefyd."

Mae'r arddangosfa yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth yn arddangos gwaith saith artist o liw ac yn rhoi llwyfan i straeon nas adroddwyd o'r blaen.
Mae'n rhan o brosiect ehangach o'r enw Persbectif(au), mewn cydweithrediad â Chyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru.
Y nod, medd y trefnwyr, "yw sicrhau newid sylweddol yn y modd y mae'r celfyddydau gweledol a'r sector treftadaeth yn adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig ein cymdeithas ac i ddathlu'r cymunedau amrywiol sy'n ffurfio Cymru ar hyn o bryd".

"I fi mae rhoi llais i bobl heb blatfform yn hynod o bwysig," medd Dela Anderson.
"Dwi hefyd yn gweithio fel cynhyrchydd i'r elusen Sightsavers - elusen rynglwladol sy'n gweithio i atal dallineb y gellir ei osgoi, brwydro yn erbyn afiechyd a chefnogi hawliau pobl ag anableddau. Mae rhoi llais i bobl gyda phrofiad byw o'r materion yma yn hanfodol.
"Yn sicr mae cael unrhyw arddangosfa sy'n adlewyrchu amrywiaeth y gymdeithas yng Nghymru yn werthfawr.
"Mae agweddau yn newid ond mae wastad mwy o ffordd i fynd ac mae angen ariannu mwy o brosiectau fel hyn.
"Fi'n gobeithio bod arddangosfa fel hon yn dangos bod lot o dalent mas 'na a bod hunaniaeth a stori pawb yn bwysig."
Yr artistiaid eraill sy'n rhan o'r arddangosfa yw Munise Emetullah Akhtar, Déa Neile-Hopton, Abid Hussain, Jasmine Violet, Molara Adesigbin, Elena Tayo, Simangaliso Sibanda ac mae ffilm ddogfen gan Noah Bakour.
Mae'r arddangosfa yn Oriel Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth tan 25 Mai.
Mae Dela Anderson yn siarad yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd12 Mawrth