Agweddau rhai rhieni at bresenoldeb ysgol wedi newid ers Covid - Estyn

dosbarth ysgol uwchradd (llun stoc)Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Estyn, mae disgyblion yn colli bron i 11 diwrnod ychwanegol o addysg bob blwyddyn o gymharu â'r cyfnod cyn Covid-19

  • Cyhoeddwyd

Mae presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn parhau i fod yn "bryder cenedlaethol pwysig", yn ôl y corff arolygu Estyn.

Dywed adroddiad diweddaraf Estyn bod rhai arwyddion cynnar o welliant, ond bod lefelau presenoldeb yn "sylweddol is" na chyn y pandemig.

Mae'r adroddiad, sy'n adeiladu ar ganfyddiadau o fis Ionawr 2024, yn dangos bod presenoldeb cyffredinol wedi codi 1.1 pwynt canran i 89%.

Rhybuddiodd y corff y byddai'n cymryd dros 10 mlynedd i gyrraedd y lefelau cyn y pandemig ar y gyfradd yma.

Mae'r sefyllfa'n arbennig o bryderus ymhlith disgyblion o gefndiroedd incwm isel, yn enwedig y rhai nad ydyn nhw'n gymwys i gael cludiant am ddim i'r ysgol.

Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu bod agweddau rhai rhieni wedi newid tuag at bresenoldeb ers y pandemig.

Plant 'eisiau adolygu gartref'

Dywedodd penaethiaid wrth Estyn fod arholiadau Blwyddyn 11 a'r ffaith fod disgyblion eisiau adolygu gartref hefyd yn cyfrannu at ostyngiad mewn cyfraddau presenoldeb.

"Er gwaethaf arwyddion cynnar o welliant, mae cynnydd wrth fynd i'r afael â materion presenoldeb yn araf o hyd mewn lleiafrif o ysgolion," meddai'r prif arolygydd Owen Evans.

"Mae cymorth yn parhau i fod yn anghyson ledled Cymru, ac mae data cyfyngedig yn parhau i rwystro gallu ysgolion i werthuso effaith a thargedu camau gweithredu yn effeithiol.

"Rydyn ni wedi ychwanegu enghreifftiau newydd o ddulliau llwyddiannus gan ysgolion a dau argymhelliad pellach ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn atgyfnerthu'r angen dybryd am ymagwedd gydgysylltiedig a chenedlaethol at wella presenoldeb.

"Mae'n glir ni all ysgolion fynd i'r afael â'r mater hwn ar eu pen eu hunain."

Wrth groesawu'r adroddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ystyried yr argymhellion newydd a bod "codi presenoldeb yn yr ysgol yn ymrwymiad allweddol".

'Mwy derbyniol i golli dydd Gwener'

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd cyfarwyddwr cynorthwyol Estyn, Catherine Evans: "O'n i'n awyddus i sicrhau bod ni dal yn siarad am bwysigrwydd presenoldeb mewn ysgolion, ond hefyd mae'r adroddiad yn nodi nifer o ddulliau llwyddiannus mae ysgolion wedi mabwysiadu er mwyn mynd i'r afael â'r her yma."

Mae'r adroddiad yn nodi bod y rhesymau tu ôl i'r lefelau presenoldeb isel yn "gymhleth iawn", meddai.

"Yn aml, pan 'da chi'n siarad â rhiant, person ifanc neu aelod o staff mewn ysgol mae 'na stori tu ôl i nifer yr achosion ble mae disgyblion yn colli ysgol ond mae 'na argymhellion yn yr adroddiad.

"Mae rôl allweddol gan rieni ond dwi ddim yn credu bod un garfan o bobl yn gallu ymateb i'r her yma ar ben ei hunain.

"Mae'n bwysig bod ni'n cydweithio - ysgolion yn cydweithio gyda rhieni, mae 'na rôl i awdurdodau lleol, mae 'na rôl i ni fel arolygaeth o fewn Estyn yn ogystal â'r llywodraeth."

Ychwanegodd: "Mae'r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar bresenoldeb.

"Pan 'da ni'n sgwrsio gydag arweinwyr o fewn ysgolion maen nhw'n dweud fod agweddau rhai rhieni wedi newid tuag at bresenoldeb, bod e'n fwy derbyniol er enghraifft i golli dydd Gwener os 'da chi'n mynd i ffwrdd.

"Neu 'falle fod pobl yn dweud fod y gost o fynd i ffwrdd ar wyliau yn ystod y gwyliau ysgol yn ddrud iawn ac yn penderfynu mynd â'u plant allan o'r ysgol.

"Gyda rhieni yn gweithio o'r tŷ, os yw plentyn ddim yn teimlo'n 100% neu ddim yn awyddus i fynd i'r ysgol mae'n llawer rhwyddach nawr i allu ei hedrych ar ôl tra bod nhw yn y tŷ."

Pynciau cysylltiedig