Dim cyhuddiadau troseddol yn erbyn plismon wedi marwolaethau Trelái

Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, mewn gwrthdrawiad yn ardal Trelái ym mis Mai 2023
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) wedi penderfynu peidio cyhuddo swyddog Heddlu De Cymru o unrhyw drosedd yn dilyn marwolaethau dau fachgen yng Nghaerdydd.
Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, mewn gwrthdrawiad beic trydan yn ardal Trelái ar 22 Mai 2023.
Fe wnaeth y digwyddiad sbarduno anhrefn dreisgar yn yr ardal, lle cafodd swyddogion heddlu eu hanafu, ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau, gan gynnwys tân gwyllt, eu taflu at y gwasanaethau brys.
Mewn datganiad fore Llun, dywedodd pennaeth adran troseddau arbennig y CPS, Malcolm McHaffie "nad oedd digon o dystiolaeth i gefnogi unrhyw gyhuddiad".
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2023
Daeth i'r amlwg wedi'r digwyddiad fod fan heddlu wedi bod yn dilyn y bechgyn ychydig cyn y gwrthdrawiad.
Mae dau swyddog - gyrrwr a theithiwr yn y fan heddlu - eisoes wedi derbyn gorchmynion mewn cysylltiad â chamymddygiad difrifol posib.
'Siom i deuluoedd y bechgyn'
Ychwanegodd Mr McHaffie: "Mae'n meddyliau yn parhau gyda theuluoedd a ffrindiau'r ddau fachgen wedi'r digwyddiad trasig ym Mai 2023.
"Yn dilyn adolygiad manwl a thrylwyr o'r dystiolaeth mewn cysylltiad ag un cyhuddiad o yrru yn beryglus, rydyn ni wedi penderfynu na fydd y swyddog Heddlu De Cymru yn wynebu unrhyw gyhuddiadau troseddol.
"Rydyn ni wedi dod i'r casgliad nad oes digon o dystiolaeth i gynnig gobaith gwirioneddol o sicrhau cyhuddiad.
"Rydyn ni hefyd yn deall y bydd y newyddion yma yn siom i deuluoedd y ddau fachgen, ac fe fyddwn ni'n cynnig cynnal cyfarfod gyda nhw er mwyn esbonio'r penderfyniad yn llawnach."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
- Cyhoeddwyd13 Ionawr