'Hynod o bwysig' bod mwy o bobl ifanc yn rhoi gwaed

Sesiwn dynnu gwaed yn Ystradgynlais
Disgrifiad o’r llun,

3% o boblogaeth Cymru sydd yn gymwys i roi gwaed sy'n dewis gwneud hynny

  • Cyhoeddwyd

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn galw ar fwy o bobl ifanc i roi gwaed.

Gallai fod angen rhodd gwaed ar unrhyw un ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd, a nod ymgyrch Gwaed Ifanc yw annog mwy o bobl rhwng 17 a 30 mlwydd oed i gyfrannu.

Er bod Gwaed Cymru yn derbyn 100,000 o gyfraniadau blynyddol dim ond 3% o boblogaeth Cymru sydd yn gymwys i roi gwaed sy'n dewis gwneud hynny, ac mae llai na 15% o'r rheiny yn iau na 30 oed.

Yn ôl Eleri Schiavone, pennaeth gwasanaethau rhoi gwaed Gwaed Cymru, mae'n hanfodol annog y genhedlaeth nesaf i roi gwaed er mwyn cynnal y lefelau ac ateb y galw.

Eleri Schiavone
Disgrifiad o’r llun,

"Ma' angen i 6,000 o bobl newydd ymuno â'r gofrestr i roi bôn-gelloedd bob blwyddyn," medd Eleri Schiavone

"Ma'r niferoedd o bobl sy'n rhoi gwaed rhwng 17 a 30 mlwydd oed wedi gostwng," meddai Ms Schiavone.

"A gyda phob rhodd gwaed yn gallu achub tri bywyd mae'n hynod o bwysig ein bod ni'n cael mwy o bobl ifanc i roi gwaed er mwyn gallu cynnal y lefelau gwaed ar gyfer y dyfodol."

Ma' 'na alw hefyd ar fwy o bobl i ymuno a'r gofrestr bôn-gelloedd, gyda galw penodol i bobl o gefndiroedd lleiafrifol ymuno.

Bob blwyddyn mae 2,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn aros am drawsblaniad bôn-gelloedd.

"Ma' angen i 6,000 o bobl newydd ymuno a'r gofrestr i roi bôn-gelloedd bob blwyddyn, er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu cyfrannu," meddai Ms Schiavone.

"Mae'n gofrestr fyd-eang yn galluogi pobl o bob cwr o'r byd i ddod o hyd i roddwyr.

"Gallai eu helpu i wella o gyflyrau prin sy'n bygwth eu bywyd."

Julie Anthony
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Ysgol Stanwell ydy gwneud disgyblion yn rhoddwyr gydol oes, medd Julie Anthony

Ers 10 mlynedd mae Ysgol Stanwell yn ardal Penarth wedi bod yn cefnogi'r gwasanaeth gan gynnig sesiynau rhoi gwaed.

Gyda dros 1,000 o gyfraniadau yn ystod y cyfnod hwnnw, fe allai'r disgyblion a'r athrawon fod wedi helpu i achub 3,000 o fywydau – a'r gobaith yw annog ysgolion eraill i wneud yr un peth.

"Ni moyn i'r apwyntiad cyntaf i fod mewn lle adnabyddus iddyn nhw, gyda staff a chyfoedion ma' nhw yn adnabod yn dda," meddai Julie Anthony, sy'n athrawes yn Ysgol Stanwell.

"Y gobaith wedyn yw y bydden nhw'n hyderus am y broses a bod mwy o siawns y bydden nhw'n rhoi gwaed pan yn y coleg, y brifysgol ac yn datblygu i fod yn rhoddwyr gydol oes."

Owain a Cai
Disgrifiad o’r llun,

Mae Owain a Cai yn teimlo ei bod yn bwysig fod y rheiny sy'n gallu, yn dewis rhoi gwaed

Mae'n broses hawdd, yn ôl Cai sydd ym mlwyddyn 13.

"Ma' genna' i ffrindiau mewn ysgolion eraill, a ma' nhw eisiau rhoi gwaed nawr ar ôl i ni sôn wrthyn nhw am y sesiynau yma – mae'n broses hawdd a chyflym iawn."

I Osian sydd ym mlwyddyn 12 mae'n gobeithio gallu rhoi gwaed am y tro cyntaf pan fydd yn gymwys y flwyddyn nesaf.

"Bydd rhaid i fi roi gwaed yn gyntaf i wybod beth mae fel, ond dwi'n teimlo ei fod yn bwysig fod pawb sy'n gallu yn rhoi gwaed.

"Ma'r cyfle yma yn yr ysgol yn rhoi'r hyder i chi allu rhoi gwaed am y tro cyntaf.

"Pe bai pob ysgol yn 'neud e, fyddai llawer mwy o bobl ifanc yn rhoi gwaed ac yn helpu pobl."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.