Dafydd ap Siencyn: Dihiryn Dyffryn Conwy neu'r 'Robin Hood Cymraeg?'

Dafydd ap SiencynFfynhonnell y llun, Eglwys Sant Grwst
  • Cyhoeddwyd

“Dyn drwg ydi Dafydd ap Siencyn” - dyna eiriau’r Ustus Coch wrth iddo sefyll yng nghanol neuadd fawr Castell Conwy yn annerch byddin o filwyr yn y 1460au.

Ond oedd Dafydd ap Siencyn yn ddyn drwg go iawn? Neu oedd o'n arwr lleol oedd yn ceisio gwarchod ei gynefin rhag pwysau brenhinol Lloegr?

Mae rhai yn mynd cyn belled ag awgrymu fod Dafydd ap Siencyn wedi ysbrydoli chwedl Robin Hood.

"Bywyd herwr yn cuddio yn y coed gyda’i ddilynwyr ac yn gwisgo dillad gwyrdd a brown", a dyna’r union ddisgrifiad o sut yr oedd Dafydd ap Siencyn yn byw yng nghoed Gwydir ger Llanrwst.

Rhwystrau ar y Cymry

Mae tref Llanrwst, Sir Conwy dal yn dathlu ap Siencyn 600 mlynedd yn ddiweddarach gyda gŵyl fydd yn cael ei chynnal yn y dref rhwng 20-22 Medi.

Ond pwy oedd Dafydd ap Siencyn? Oedd o’n ddihiryn y dyffryn neu arwr mawr y Cymry?

Un sydd wedi ymchwilio i hanes Dafydd ap Siencyn ac sy’n cyflwyno darlith amdano fel rhan o’r ŵyl yw Bleddyn Hughes o Lanrwst.

“Mae siŵr ei fod o’n bodoli rhwng tua 1430-1490, yn y cyfnod yna," meddai.

“Dyma’r cyfnod ble roedd y deddfau cosb yn erbyn y Cymry yn bodoli yn dilyn gwrthryfel Owain Glyndŵr. Roedd y Cymry yn byw fel pobl eilradd yn eu gwlad eu hunain.

“Deddfau oedd y rhain oedd wedi’u gosod ar ddechrau’r 15fed ganrif oedd yn gosod rhwystrau ar y Cymry o fewn gwlad eu hunain.

“Un o’r rhwystrau oedd nad oedd Cymro yn cael prynu eiddo o fewn 10 milltir i'r fwrdeistref frenhinol, a’r un agosaf i Ddyffryn Conwy oedd Castell Conwy."

Ffynhonnell y llun, Bleddyn Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bleddyn Hughes o Lanrwst yn rhoi darlith am Dafydd ap Siencyn fel rhan o'r ŵyl

Dyma’r ardal ble roedd ap Siencyn yn gweithredu. Roedd man cyfarfod yr herwyr lleol i gyd yn Ysbyty Ifan, gan fod y lleoliad yn disgyn y tu allan i’r gwaharddiad 10 milltir o Gonwy.

Roedd ei ddilynwyr ag yntau yn ymlwybro drwy’r coed ac yn taro’r gelyn yn gyflym cyn diflannu’n gyflym hefyd.

Roedd yn gweithredu’n debyg iawn i Owain Glyndŵr ac mae rhai hyd heddiw yn ei weld fel dilynwr i Glyndŵr a rhywun wnaeth gario achos Glyndŵr yn ei flaen yn erbyn grym brenhiniaeth Lloegr.

Plant Glyndŵr oedd enw arall gafodd ei roi ar Dafydd a’i ddilynwyr.

Roedd y cyfnod hwn yn un o ryfela rhwng yr Iorciaid a’r Lancastriaid yn Rhyfel y Rhosynnau, ac roedd Dafydd ap Siencyn wedi ochri gyda’r Lancastriaid ar y pryd, gan mae’r Iorciaid oedd mewn grym.

Canfod ei ogof

Roedd ap Siencyn yn dod o linach o uchelwyr. Roedd yn perthyn i Marchudd ap Cynan, oedd yn un o 15 o deuluoedd brenhinol Gwynedd.

Taid Dafydd ap Siencyn oedd Rhys Gethin, un o ddilynwyr mwyaf ffyddlon a ffyrnig Owain Glyndŵr, felly mae modd dadlau fod gwrthryfela yn ei waed.

Yn 1468 fe aeth Dafydd ap Siencyn gyda Jasper Tudur i geisio difetha prif garaswn yr Iorciaid yn Ninbych. Fe lwyddodd ac o ganlyniad roedd y brenin Edward IV eisiau dial.

Dyma’r Brenin yn anfon Iarll Penfro, William Herbert, i ddinistrio popeth yn Nyffryn Conwy o Landudno i Benmachno, gan ladd pawb oedd yn nhref Llanrwst oedd heb ffoi yn barod.

Nawr roedd yn rhaid i Dafydd ap Siencyn a’i ddilynwyr guddio.

Ffynhonnell y llun, Garry Lloyd Jones
Disgrifiad o’r llun,

Chwilfrydedd Garry Lloyd Jones yn 14 oed wnaeth ei arwain at ogof gudd Dafydd ap Siencyn

Stori boblogaidd amdano oedd ei fod yn cuddio mewn ogof uchel yng nghoedwig Gwydir ar gyrion Llanrwst.

Doedd gan neb syniad am yr ogof am ganrifoedd, nes i chwilfrydedd plentyn olygu fod Garry Lloyd Jones wedi camu i mewn iddi ar ddamwain.

Mae Garry bellach yn drefnydd angladdau yn y dref ac wedi byw yn Llanrwst gydol ei oes.

“Tua 17 o’n i ac roeddwn yn cadw colomennod rasio," eglurodd. "Pob amser yr oeddwn yn ei rhyddhau, roedd 'na hebog yn hedfan ar eu holau ac yn eu dal.

“Un diwrnod dyma fi’n gweld ble oedd yr hebog yn nythu, yn uchel ar Graig yr Hebog fel mae’n cael ei adnabod rŵan yn lleol, felly nes i benderfynu dringo i fyny tua 40 troedfedd i geisio gweld os oedd 'na fodrwyau un o fy ngholomennod i dal yno.

“Ar ôl cyrraedd ble oedd y nyth, sylwi fod 'na ogof wedi ei guddio yn y graig o'r golwg o unrhyw le ar lefel y ddaear.

"Nes i ddim meddwl dim byd ohono tan ryw 25 mlynedd yn ddiweddarach tra'n sgwrsio gyda rhywun am hanes Dafydd ap Siencyn.

Ffynhonnell y llun, Garry Lloyd Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ogof Dafydd ap Siencyn yn uchel yn y creigiau a'r olygfa o Lanrwst o gêg yr ogof.

“Roeddwn i’n siarad gyda rhywun ym Mhlas Gwydir nath ddigwydd crybwyll fod 'na chwedl am ogof rhywle yn y creigiau neu’r goedwig ble yr oedd ap Siencyn yn cuddio, ond fod 'na neb wedi dod ar ei draws.

“Roedd hi’n dipyn o beth gweld wyneb y person pan ddwedes i fy mod yn gwybod yn iawn ble oedd yr ogof.

“Tua chwe blynedd yn ôl dyma fi’n penderfynu mynd yn ôl at yr ogof ond y tro hwn gyda chamera.”

Daeth Garry o hyd i ben gwaywffon hefyd yn agos at geg yr ogof, ac wedi iddo ei anfon at arbenigwr, daeth i'r casgliad ei fod yn dyddio o'r un cyfnod.

Mae hyn medd Garry yn "gadarnhad pellach" mai dyma'r man ble oedd ap Siencyn yn cuddio.

Ffynhonnell y llun, Garry Lloyd Jones
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Garry o hyd i ben gwaywffon yn agos at gêg yr ogof oedd yn dyddio o'r un cyfnod

Yn rhyfeddol fe dderbyniodd Dafydd ap Siencyn bardwn brenhinol yn 1468, yn fuan iawn ar ôl trechu garaswn Dinbych.

Daeth yn gwnstabl Castell Conwy ar ôl lladd ei ragflaenydd ac yn y diwedd bu farw o'i glwyfau ar ôl ymladd.

Roedd yn fardd yn ogystal â bod yn uchelwr, ac mae sôn iddo gyfansoddi dau englyn pan oedd ar ei wely angau.

Yn ôl Bleddyn Hughes mae Dafydd ap Siencyn yn sicr yn "arwr brodorol wnaeth gadw stori Glyndŵr a’i waith yn fyw."

Fel rhan o’r ŵyl sydd wedi’i threfnu'r penwythnos hwn (20-22 Medi), mae arddangosfeydd, gwledd ganoloesol, ail-greu rhyfela canoloesol, sgyrsiau, teithiau cerdded drwy goedwig Gwrych er mwyn i bobl weld y tir ble oedd Dafydd ap Siencyn a’i ddilynwyr yn troedio.

Bydd yr ŵyl yn “gyfle i godi ymwybyddiaeth am Dafydd ap Siencyn” medd Bleddyn Hughes ac yn gyfle i ddysgu mwy amdano.

Arwr neu ddihiryn oedd o? Penderfynwch chi.

Pynciau cysylltiedig