Cynnydd Yswiriant Gwladol wedi gadael 'twll o £36m'

Mark Drakeford ydy ysgrifennydd cyllid Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol i nyrsys, meddygon ac athrawon wedi gadael twll o £36m yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, yn ôl Mark Drakeford.
Cynyddodd Llywodraeth y DU y swm y mae'n rhaid i gyflogwyr gyfrannu mewn Yswiriant Gwladol y llynedd.
Gan mai Llywodraeth Cymru sy'n cyflogi degau o filoedd o bobl yn y sector gyhoeddus, roedd gofyn dod o hyd i £257m ychwanegol.
Daeth rhodd o £185m gan y Trysorlys, a dywedodd Mr Drakeford, yr ysgrifennydd cyllid, ei fod wedi tynnu £36m o'r arian mae Llywodraeth Cymru'n cadw wrth gefn.
Ond mae hynny'n gadael £36m o fwlch, a allai gael ei lenwi drwy dorri gwasanaethau eraill.

Dyma'r anghydfod diweddaraf rhwng llywodraethau Eluned Morgan a Keir Starmer
Dywedodd Mr Drakeford na allai Llywodraeth Cymru "fforddio dalu'r cyfan".
"Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig drin y sector cyhoeddus yr un fath ar draws y Deyrnas Unedig a gwireddu eu haddewid i ariannu'r costau ychwanegol hyn yn llawn," meddai.
Dyma'r anghydfod diweddaraf rhwng y ddwy lywodraeth Lafur yng Nghaerdydd a Llundain, gydag etholiad y Senedd lai na blwyddyn i ffwrdd.
Yn gynharach fis yma dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan na fyddai'n "aros yn dawel" pe bai Syr Keir Starmer yn gwneud "penderfyniadau fydd, yn ein barn ni, yn niweidio cymunedau yng Nghymru".
Dywedodd ffynhonnell o Lywodraeth y DU bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn £21bn yn y gyllideb llynedd, a'i bod wedi newid y rheolau i ganiatau iddynt ddefnyddio mwy o'r arian wrth gefn.
"Fe wnaeth Llywodraeth y DU hynny i helpu Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a thorri rhestrau aros y GIG."
Dywedodd Plaid Cymru mai dyma "enghraifft arall o'r Blaid Lafur yn gwneud cam â Chymru".
Ychwanegodd y Ceidwadwyr Cymreig bod rhyfel mewnol yn y blaid Lafur, "gyda Llafur Cymru â dim dylanwad dros Lafur y DU".
Dywedodd llefarydd Reform UK mai "yr un hen stori" oedd y ffrae: "Mae Llafur yn San Steffan yn codi trethi, Llafur yng Nghaerdydd yn methu rheoli'r canlyniadau."
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am ddileu'r cynnydd mewn Yswiriant Gwladol, gan ddweud eu bod wedi gwrthwynebu'r syniad ers y cychwyn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2024
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd23 Mai