Tâl nyrsys yn 'llusgo tu ôl' i weddill y sector cyhoeddus

nyrsys Cymru ar streicFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aeth nyrsys Cymru ar streic sawl gwaith ar ddiwedd 2022 a dechrau 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae cyflog nyrsys yng Nghymru yn "sefyll yn stond" ac yn "llusgo tu ôl" i weithwyr eraill y sector cyhoeddus, yn ôl undeb nyrsio.

Mae nyrsys wedi cael cynnig codiad cyflog o 3.6% ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, sy'n is na'r cynnig i staff eraill y GIG.

Ond mae Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) Cymru yn cwestiynu a fyddai gan nyrsys, sydd "dan orthrwm", yr "awydd i frwydro" trwy fynd ar streic eto.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi derbyn yr argymhellion a wnaed gan Gorff Adolygu Cyflogau annibynnol y GIG yn llawn ac rydym yn gweithio i sicrhau y bydd staff yn derbyn y cynnydd cyflog a'r ôl-gyflog cyn gynted â phosibl."

Pan gyhoeddodd y cynnig cyflog, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles wrth nyrsys bod eu "ymrwymiad i ddarparu gofal a gwasanaethau eithriadol yn cael ei werthfawrogi'n fawr".

Bydd cynnydd cyflog o 4% i feddygon a deintyddion, a'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel cynnydd cyfartalog o 5.4% i feddygon preswyl - oedd yn arfer cael eu galw'n feddygon iau.

'Diffyg parch i'r proffesiwn'

Wrth siarad ar Walescast, dywedodd Nicky Hughes o RCN Cymru: "Byddem yn disgwyl i Lywodraeth Cymru barchu pob proffesiwn a darparu cyflog cyfartal neu o leiaf gydraddoldeb ar draws yr holl sectorau cyhoeddus.

"Ond am yr ail flwyddyn yn olynol rydym yn gweld bod nyrsys... ar ei hôl hi, ac mae hynny'n dangos diffyg parch llwyr i'r proffesiwn."

Mae chwyddiant ar hyn o bryd yn 3.5%.

Dywedodd Ms Hughes am y cynnig 3.6%: "Rydym yn gwybod bod nyrsys yn defnyddio banciau bwyd felly yr hyn rydyn ni'n ei ddweud yw, mae nyrsys yn haeddu mwy."

Cyfeiriodd Ms Hughes hefyd at y 2,000 o swyddi nyrsio gwag yng Nghymru, allan o weithlu o tua 40,000.

Dywedodd hefyd nad yw'r cynnig yn adlewyrchu gwaith nyrsys yn ystod y misoedd diwethaf wrth leihau rhestrau aros y GIG.

Ym mis Mawrth, roedd nifer y cleifion a oedd yn aros dwy flynedd neu fwy am driniaeth wedi'i chynllunio yn 8,389 - yr isaf ers mis Ebrill 2021.

Bydd RCN Cymru yn ymgynghori â'u haelodau ar y cynnig cyflog.

Pleidleisiodd nyrsys Cymru i fynd allan ar streic sawl gwaith ar ddiwedd 2022 a dechrau 2023.

Pan ofynnwyd iddi ar Walescast a oedd ei haelodau'n fodlon dychwelyd i'r llinellau piced, dywedodd Nicky Hughes: "Mae'n anodd iawn oherwydd ar hyn o bryd, mae nyrsys yn flinedig, wedi cael digon - maen nhw'n ceisio gwneud y gorau y gallan nhw i'w cleifion.

"Felly, er y bydd awydd gan rai o'n haelodau i fynd ar streic, bydd yn rhaid i ni weld i ble maen nhw'n mynd, oherwydd maen nhw'n teimlo'n isel iawn ar hyn o bryd.

"Ac a oes ganddyn nhw'r frwydr ynddyn nhw i barhau i ymladd?

"Oherwydd bob dydd maen nhw'n mynd i'r gwaith, maen nhw'n ymladd i fynd trwy'r shifft, maen nhw'n ymladd i wneud yn siŵr bod gan gleifion ofal diogel, ac maen nhw'n ymladd i wneud yn siŵr bod rhywun yn edrych ar eu holau nhw a'u cydweithwyr."

Gwyliwch Walescast ar iPlayer, neu gwrandewch ar BBC Sounds.