Disgwyl i Eluned Morgan feirniadu toriadau i fudd-daliadau

Mae Eluned Morgan ei hun wedi wynebu beirniadaeth gan y gwrthbleidiau am beidio â dadlau digon yn erbyn Llywodraeth Lafur Keir Starmer
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, fynegi pryderon ynghylch toriadau arfaethedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fudd-daliadau mewn araith ddydd Mawrth.
Yn Natganiad y Gwanwyn fe wnaeth y Canghellor gadarnhau nifer o newidiadau i fudd-daliadau gan gynnwys prawf cymhwysedd llymach ar gyfer taliadau annibyniaeth personol (PIP) - y prif fudd-dal anabledd sy'n cael ei hawlio ar hyn o bryd.
Er nad yw Ms Morgan wedi beirniadu'r cynlluniau ers iddyn nhw gael eu cyhoeddi fis Mawrth, mae hi wedi awgrymu ei bod yn "poeni" am yr effaith bosib ar Gymru.
Y gred yw y bydd y prif weinidog yn galw am herio fwy o benderfyniadau Llywodraeth y DU, mwy o arian i'r GIG, buddsoddiad yn y rheilffyrdd a rheolaeth o Ystad y Goron.
- Cyhoeddwyd31 Mawrth
- Cyhoeddwyd28 Mawrth
- Cyhoeddwyd26 Mawrth
Yn ei haraith, sy'n nodi blwyddyn tan y diwrnod pleidleisio, bydd Ms Morgan yn labelu etholiad nesaf y Senedd fel "brwydr dros ddyfodol Cymru".
Mae disgwyl iddi gyfaddef y bydd y ras yn dynn gydag "esgyniad Reform a'r ffaith bod pleidleisiau'r chwith wedi eu rhannu, mae dyfodol Cymru yn y fantol".
'Y ffordd goch Gymreig'
Does dim cadarnhad o ba iaith fydd y prif weinidog yn ei defnyddio i grybwyll y toriadau, ond bydd ei haraith yn addo "cael mwy allan o'r berthynas gyda Llywodraeth y DU".
Mae disgwyl i Morgan hefyd fathu ymadrodd newydd - "y ffordd goch Gymreig" - fel rhan o'r ymdrech i'w gwahaniaethu rhag y Blaid Lafur Prydeinig.
Mae'n debyg i ymadrodd a gafodd ei ddefnyddio gan y cyn-brif weinidog Llafur Rhodri Morgan, i amlygu gwahaniaethau rhwng Llafur Cymru a Llafur y DU.
Fe fydd Prif Weinidog Cymru yn dweud: "Pan nad yw Llafur y DU yn cyflawni dros Gymru... pan fyddwn yn anghytuno, byddwn yn codi ein llais.
"Pan fyddwn yn gweld annhegwch, byddwn yn codi ein llais a phan fydd San Steffan yn gwneud penderfyniadau a fydd yn niweidio cymunedau Cymreig, ni fyddwn yn aros yn dawel."

Mae Eluned Morgan wedi cyhuddo ASau Llafur Cymru yn San Steffan o beidio â brwydro dros Gymru
Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o aros "yn dawel" ynglyn a'r toriadau i fudd-daliadau.
Mae tua 275,000 o bobl oed gweithio yng Nghymru yn derbyn PIP a 150,000 yn hawlio credyd cynhwysol iechyd.
Fe wnaeth y prif weinidog ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn gofyn am asesiad o effaith hyn ar Gymru, ond nid yw wedi derbyn un eto.
Mae disgwyl i Morgan ddadlau fod ei phlaid mewn sefyllfa "unigryw" i gael pethau fel mwy o gyllid i'r GIG am fod gan y llywodraeth yn San Steffan flaenoriaethau tebyg.
Mae'n debygol y bydd hi hefyd yn parhau i alw am "fwy o gyllid i reilffyrdd Cymru" a datganoli Ystad y Goron.
Drwy dynnu sylw at adnoddau naturiol Cymru, mae disgwyl i Ms Morgan ddweud: "Maen nhw wedi cymryd ein glo, maen nhw wedi cymryd ein dŵr, ond fyddwn ni ddim yn gadael iddyn nhw gymryd ein gwynt. Dim dan fy ngoruchwyliaeth i."
Ond, does dim manylion ynglŷn â sut y byddai hi'n cyflawni'r pethau hyn.
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd1 Ebrill
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
Mae disgwyl i Morgan ddweud hefyd ei bod yn croesawu £25m gan Lywodraeth y DU i wneud pyllau glo yn ddiogel, ond nad yw'r swm yn agos at fod yn ddigon.
Mae Plaid Cymru yn dweud y byddai unrhyw ail-osod gwleidyddol yn "rhy fach, ac yn rhy hwyr" ac yn cwestiynu a fyddai'n gredadwy o gofio fod Llafur wedi defnyddio'r ymadrodd "partneriaeth mewn pŵer" i ddisgrifio'r berthynas rhwng y ddwy lywodraeth.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi disgrifio'r araith fel "ymgais olaf i achub y sefyllfa".
Mae Reform yn dweud bod ganddyn nhw'r Blaid Lafur o fewn eu golwg yn dilyn etholiadau lleol yn Lloegr yr wythnos diwethaf.