Dyn yn pledio'n euog i achosi marwolaeth mam a merch

Cheryl Woods a Sarha SmithFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r Cheryl Woods a'i merch Sarha Smith mewn gwrthdrawiad yn Hydref 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae gyrrwr wedi cyfaddef lladd mam a merch mewn gwrthdrawiad yn 2023.

Ddydd Mercher, fe blediodd Firas Zeineddine, 46, yn euog i ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal.

Bu farw Cheryl Woods, 61, a'i merch Sarha Smith, 40, o Gaerffili, mewn gwrthdrawiad pum cerbyd ar yr M4 yn Sir Wiltshire yn ne-orllewin Lloegr ar 20 Hydref 2023.

Roedd Zeineddine, o Keynsham ger Bryste, wedi'i gyhuddo'n wreiddiol o ddau achos o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Ond fe blediodd yn euog i'r cyhuddiadau llai difrifol, ac fe gafodd hynny ei dderbyn gan Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS).

Tystiolaeth car Tesla

Yn Llys y Goron Swindon, dywedodd y barnwr Jason Taylor KC bod "llawer o'r dystiolaeth yn dod o gar y diffynnydd ei hun ac roedd y Tesla yn recordio o sawl camera".

Mewn teyrnged, dywedodd y teulu fod Cheryl Woods yn berson "annwyl", yn "fam ac yn fam-gu gariadus", ac yn "chwaer a ffrind annwyl".

Ychwanegon nhw fod marwolaeth Sarha Smith yn gadael "gwagle" ond y byddai ei chwe merch yn "cofio amdani am byth".

Bydd Zeineddine yn cael ei ddedfrydu ar 28 Ebrill.

Pynciau cysylltiedig