Plentyn fu farw wedi cael ei 'daro ar ei ben am gamymddwyn'

Ethan IvesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ethan Ives-Griffiths yn ddwy oed ar 16 Awst 2021

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai

Fe wnaeth taid plentyn bach a fu farw o anafiadau i'w ben ddweud wrth yr heddlu bod ei ferch wedi taro'r bachgen ar ei ben am "gamymddwyn" y diwrnod cyn iddo gwympo.

Bu farw Ethan Ives-Griffiths, oedd yn ddwy oed, ym mis Awst 2021 ar ôl cwympo yng nghartref ei nain a'i daid.

Mae ei daid Michael Ives, 47 oed, a'i nain Kerry Ives, 46 oed, yn gwadu ei lofruddiaeth ac maen nhw a'i fam Shannon Ives, 28 oed, yn gwadu achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn a chreulondeb i blentyn.

Ddydd Llun, fe glywodd y rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug drawsgrifiadau o gyfweliad yr heddlu gyda Michael Ives ynglŷn â'r digwyddiadau a arweiniodd at gwymp cyntaf Ethan ar 13 Awst.

Yn ystod y cyfweliad, fe ddywedodd Michael Ives: "Gwnaeth ei fam ei daro am gamymddwyn."

Esboniodd ei fod wedi gweld ei ferch, Shannon yn taro Ethan am ddisgyn i'w liniau mewn tymer oherwydd ei fod eisiau mwy o sudd.

Dywedodd iddi afael yn ei freichiau a dweud wrtho am "sefyll i fyny" ac yna ei daro ar "gefn ei ben."

Honnodd ei fod wedi dweud wrthi am beidio â tharo Ethan ond bod hi heb ymateb i'r sylw.

Ychwanegodd nad oedd gan Shannon "amynedd" a bod ganddi "dymer".

Wedi hynny, yn ôl Michael Ives, fe adawodd Shannon yr ystafell ac fe glywodd sŵn "fel pe bai ei ben [Ethan] wedi taro'r llawr" ac fe welodd bod Ethan wedi cwympo a "doedd e ddim yn ymateb" am tua phum munud.

Dywedodd fod Ethan wedi dod at ei hun ar ôl ymdrechion i'w adfywio ac roedd yn "ymddangos i fod yn gwella".

Cartref nain a taid Ethan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ethan Ives Griffiths ei ddarganfod wedi ei anafu yng nghartref ei nain a'i daid ar Lannau Dyfrdwy yn 2021

Pan ofynnodd yr heddlu iddo beth achosodd i Ethan syrthio, fe atebodd: "Gallai fod oherwydd iddo gael ei daro ar ei ben, wn i ddim."

Dywedodd ei fod ef a'i wraig Kerry wedi mynd ag Ethan i siopa yn ddiweddarach "i gadw llygad arno" a gofynnodd i Shannon "a ddylem ni fynd ag ef at rywun i weld a yw e'n iawn?" ond dywedodd hi: "Na, mae'n iawn".

Dywedodd wrth yr heddlu nad oedd am adael Ethan gyda Shannon yn dilyn y digwyddiad "oherwydd y ffordd yr oedd hi, y ffordd yr oedd hi'n arfer ei daro ar ei ben neu ar gefn ei goesau."

Dywedodd nad oedd ef gyda hi "24/7" ond y byddai'n ei gweld yn taro Ethan "pe bai'n camymddwyn yn wael".

Cwympodd Ethan eto'r noson ganlynol a bu farw yn ddiweddarach.

Ei fam 'yn ei gasáu o'

Yn ddiweddarach ddydd Llun clywodd y llys bod Michael Ives wedi dweud wrth yr heddlu bod Shannon "wastad yn taro" Ethan hyd at bum gwaith y dydd, "yn ddibynnol ar ba hwyliau oedd arni".

Dywedodd Michael Ives bod ei ferch wedi dweud wrth Ethan ei bod hi'n "ei gasáu o, a bod angen iddo fynd i fyw mewn gofal".

Dywedodd iddo ddweud wrth Shannon bod ganddi "ddim amynedd ar gyfer plant".

Yn fuan cyn marwolaeth Ethan, dywedodd Michael Ives bod Shannon wedi mynd i fwydo Ethan, a bod ganddo farc coch wrth ei lygaid pan ddychwelon nhw.

Dywedodd ei fod wedi gofyn i'w ferch sut oedd y marc wedi digwydd, a'i bod wedi ateb ei fod yn debygol o fod wedi disgyn.

"Doedd pethau ddim yn iawn. Dwi'n meddwl ei bod hi'n dweud celwydd, a bod hi wedi ei daro fo neu rywbeth," meddai Michael Ives wrth yr heddlu.

Pan holwyd Michael Ives pwy oedd yn gyfrifol am yr anaf i ben Ethan, wnaeth achosi ei farwolaeth, dywedodd: "Dydw i ddim yn gwybod. Dim fi."

'Wedi dweud wrthi am beidio' ei daro

Gofynnwyd yr un cwestiwn i Kerry Ives yn ei chyfweliad hi gyda'r heddlu. "Does gen i ddim syniad," oedd ei hateb hi.

Dywedodd wrth yr heddlu y byddai Shannon weithiau yn taro Ethan, er ei bod hi a'i gŵr "wedi dweud wrthi am beidio".

Ychwanegodd bod Shannon wastad ar ei ffôn, a "hyd yn oed pan oedd Ethan ar y llawr [cyn iddo farw] roedd hi i fyny [y grisiau] yn tecstio.

Dywedodd Kerry Ives ei bod wedi gweiddi ar ei merch i ddod i lawr y grisiau wedi i Ethan lewygu, a'i bod wedi ateb yn dweud y byddai hi yno "mewn dau funud" am ei bod ar ei ffôn.

Mae'r achos yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig