Plentyn heb ei weld gan staff amddiffyn yn y mis cyn ei farwolaeth - llys

Bu farw Ethan Ives-Griffiths yn ddwy oed ar 16 Awst 2021
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai
Ni chafodd plentyn bach a fu farw o anaf trychinebus i'w ymennydd ei weld gan staff amddiffyn plant yn ystod y mis cyn ei farwolaeth er ei fod ar y gofrestr amddiffyn plant, mae llys wedi clywed.
Bu farw Ethan Ives-Griffiths, oedd yn ddwy oed, ar 16 Awst 2021 ar ôl cwympo yng nghartref ei nain a'i daid.
Mae taid Ethan, Michael Ives, 47, a'i nain Kerry Ives, 46 o Garden City, Sir y Fflint wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth, achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn a chreulondeb i blentyn.
Mae mam Ethan, Shannon Ives, 28, o'r Wyddgrug, wedi'i chyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn a chreulondeb i blentyn.
Mae'r tri yn gwadu'r cyhuddiadau.
- Cyhoeddwyd11 Mehefin
- Cyhoeddwyd10 Mehefin
- Cyhoeddwyd17 Mai 2024
Ddydd Mawrth clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug dystiolaeth gan Dr Sarah Dixon, ymgynghorydd pediatrig a wnaeth adolygu'r achos ar gais Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd fod Ethan yn rhan o'r cynllun amddiffyn plant a'i fod wedi'i roi ar y gofrestr amddiffyn plant ar 19 Gorffennaf 2021 wedi digwyddiad domestig yn y cartef teuluol pan symudodd Shannon Ives allan.
Mae plant sy'n rhan o gynlluniau amddiffyn i fod i gael eu gweld o leiaf unwaith bob 10 diwrnod gwaith gan uwch-swyddog, meddai Dr Dixon, ac mae disgwyl i un cyfarfod gael ei gynnal bob pedair wythnos yng nghartref y plentyn.
Ychwanegodd fod cofnodion yn dangos "bod sawl ymgais wedi bod i weithredu'r cynllun ond bod ymdrechion i gysylltu â mam Ethan wedi bod yn aflwyddiannus".
Dywedodd Dr Dixon fod Shannon Ives wedi canslo ymweliad ag ymwelydd iechyd ar 13 Awst ar ôl i Ethan gwympo gartref a bod yn anymwybodol am 10 munud.
Clywodd y rheithgor mai'r rheswm a roddwyd dros ganslo'r ymweliad oedd bod Ethan "ddim yn teimlo'n dda oherwydd problemau cysgu".
Yn lle hynny, aeth y teulu ag ef i archfarchnad.

Cafodd Ethan Ives Griffiths ei ddarganfod wedi ei anafu yng nghartref ei nain a'i daid ar Lannau Dyfrdwy yn 2021
Daeth adroddiad Dr Dixon i'r casgliad: "Dylai Ethan fod wedi cael mynd am asesiad meddygol brys. Roedd methiant i wneud hynny yn anghyfrifol iawn."
Ychwanegodd fod mynd ag ef i siopa yn lle hynny yn weithred "anghyffredin" ac yn "gwbl amhriodol".
Ar ôl iddo gwympo eto'r diwrnod canlynol roedd Ethan yn anymwybodol a ddaeth e ddim at ei hun wedi hynny.
Gofynnwyd i Dr Dixon am iechyd a datblygiad cyffredinol Ethan a dywedodd hyd at ei asesiad iechyd diwethaf ei fod yn "normal o ran datblygiad" ac yn "fachgen iach" heb "unrhyw duedd gynyddol i faglu neu syrthio".
Cofnododd archwiliad post mortem Ethan 40 o anafiadau allanol.
'Esgeulustod difrifol'
Dywedodd Dr Dixon fod y methiant i gael cymorth meddygol i Ethan yn gynt yn "esgeulustod difrifol gan yr oedolion oedd yn gofalu amdano".
Ychwanegodd ei bod yn credu ei fod yn ymgais i atal gweithwyr proffesiynol rhan gwneud "diagnosis o greulondeb".
Daeth adroddiad Dr Dixon i'r casgliad bod Ethan wedi dioddef "camdriniaeth gorfforol ar sawl achlysur gan oedolyn oedd yn gyfrifol am ei ofal".
Ychwanegodd ei bod o'r farn bod "Ethan wedi profi poen, pwysau meddyliol a gofid yn yr wythnosau cyn ei farwolaeth".
Mae'r achos yn parhau.