AS yn galw am gyhoeddi adroddiadau i honiadau Cadeirlan Bangor

Mae "angen i ni weld beth mae'r adroddiadau yn dweud, nid y crynodebau yn unig," medd Ruth Jones
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol o Gymru yn galw ar yr Eglwys yng Nghymru i gyhoeddi dau adroddiad llawn i honiadau o broblemau diogelu a llywodraethu Cadeirlan Bangor.
Cyhoeddodd Archesgob Cymru, Andrew John, ei ymddeoliad ddydd Gwener, yn dilyn cyfnod cythryblus i'w esgobaeth ym Mangor ar ôl i grynodebau dau adroddiad beirniadol amlinellu pryderon am Gadeirlan Bangor fis diwethaf.
Soniodd y crynodebau am "ddiwylliant lle'r oedd ffiniau rhywiol yn ymddangos yn aneglur" a gormod o alcohol yn ogystal â gwendidau llywodraethu a diogelu yng Nghadeirlan Bangor.
Dywedodd yr AS Ruth Jones fod "angen i ni weld beth mae'r adroddiadau yn dweud, nid y crynodebau yn unig" fel y gall yr eglwys "symud ymlaen" a bod staff a chynulleidfaoedd yn "teimlo'n saff".
Does dim awgrym bod yr archesgob wedi ymddwyn yn amhriodol.

Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru eu bod am "barchu ein rhwymedigaethau i'r rhai a gyfrannodd at yr adroddiadau o dan amodau cyfrinachedd"
Gan wrthod cyhoeddi'r adroddiadau'n llawn, sefydlodd yr Eglwys yng Nghymru grŵp gweithredu a bwrdd goruchwylio i wneud gwelliannau a gweithredu argymhellion.
Ar y pryd, cynigiodd Andrew John ei "ymddiheuriad mwyaf diffuant i unrhyw aelodau o gymuned y gadeirlan sydd wedi cael eu brifo, neu sy'n teimlo fy mod i wedi eu siomi" - wrth iddo wynebu galwadau gan rai i ymddiswyddo.

Does dim awgrym bod yr archesgob Andrew John wedi ymddwyn yn amhriodol
Dywedodd Ruth Jones, AS Gorllewin Casnewydd ac Islwyn a chyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol San Steffan ar ddiogelu mewn cymunedau ffydd, fod "problem" gyda pheidio â chael "golwg llawn" ar yr adroddiadau.
Yn ei hôl hi, mae hynny "oherwydd nad ydym yn gwybod maint llawn y sefyllfa na'r problemau ym Mangor ac mae pawb eisiau sicrhau bod Bangor a gweddill Cymru, yr Eglwys yng Nghymru, yn mynd ymlaen".
"Mae'n bethau fel sicrhau bod egwyddorion diogelu ar waith, gweithdrefnau a phrotocolau, a bod staff a chynulleidfaoedd yn teimlo'n ddiogel".
"Mae angen i ni wybod beth sydd wedi mynd o'i le, oherwydd oni bai eich bod chi'n gwybod beth sydd wedi mynd o'i le, sut allwch chi ei gywiro?".

"Dim ond trwy fod yn agored a chyfrif gonest y gellir adfer ymddiriedaeth y cyhoedd," medd Siân Gwenllian
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru: "Comisiynwyd yr adroddiadau i'r sefyllfa yng nghadeirlan Bangor gan yr eglwys a chyhoeddwyd crynodebau o'r adroddiadau hynny".
"Byddwn yn parhau i drafod â'r partïon sydd o dan sylw ym Mangor wrth i ni geisio datrys y materion a hysbysu'r cyhoedd yn ehangach, gan barchu ein rhwymedigaethau i'r rhai a gyfrannodd at yr adroddiadau o dan amodau cyfrinachedd."
Mae'r AS Siân Gwenllian, sydd â Bangor yn ei hetholaeth yn Arfon, wedi galw am "adolygiad" annibynnol i weld "beth aeth o'i le" yn y gadeirlan.
'Angen adolygiad cyhoeddus cwbl annibynnol ar frys'
Mewn datganiad i BBC Cymru, dywedodd Siân Gwenllian bod "angen adolygiad cyhoeddus cwbl annibynnol ar frys - nid proses drws caeedig - i archwilio'r hyn aeth o'i le yng Nghadeirlan Bangor".
"Mae tryloywder yn gwbl hanfodol: mae'r cyhoedd yn haeddu gwybod sut y caniatawyd i fethiannau diogelu barhau, sut y deliwyd â chyllid.
"Dim ond trwy fod yn agored a chyfrif gonest y gellir adfer ymddiriedaeth y cyhoedd," meddai.
Wrth ymateb i hynny, dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru eu bod nhw "mewn cysylltiad â Siân Gwenllian ac wedi cynnig cyfarfod i drafod ei phryderon a pha gamau nesaf fyddai'n briodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl