Creu campfa ar fferm i roi hwb i'r corff a'r enaid
Dywed Robin Jones ei fod wedi ceisio "creu cymdeithas" yn y gampfa
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr wedi creu campfa ar fferm yng nghanol cefn gwlad y gogledd, gyda'r gobaith o roi hwb i'r corff a’r enaid i bobl yr ardal.
Mae Robin Jones wedi creu ei gampfa ar Fferm Pen y Garth ger Yr Wyddgrug.
Drwy gyplysu defnyddio offer fferm ac offer ymarfer modern, mae campfa Farm Fit wedi dod yn hynod boblogaidd.
Erbyn hyn mae dros 80 o bobl o bob oed yn ymarfer yno’r gyson, ac maen nhw hefyd yn darparu cymorth i blant sydd ag anghenion arbennig ac awtistiaeth.
![Farm Fit](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/67da/live/4e66e2f0-3e0c-11ef-b29d-61ef83ddf068.jpg)
Mae campfa Farm Fit wedi'i lleoli ar Fferm Pen y Garth ger Yr Wyddgrug
O neidio dros fêls gwair i godi hen olwynion tractor, mae offer a deunyddiau traddodiadol Fferm Pen y Garth yn cael bywyd newydd, a hynny i gadw pobl yn ffit ac yn iach.
Dechreuodd y cwbl mewn sied wair, ond ers hynny mae pethau wedi datblygu a datblygu, gan gyfuno offer modern gyda phob math o greiriau eraill.
Ond i'r dyn a greodd y cwbl - Robin Jones, sy’n hyfforddwr personol ac yn ffermio - mae o’n fwy na chadw’n heini.
Mae iechyd meddwl pobl yr un mor bwysig ag iechyd corfforol, meddai.
![Farm Fit](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/19e3/live/3edde080-3e0d-11ef-9e1c-3b4a473456a6.jpg)
Mae'r gampfa yn cyfuno offer modern gydag eitemau fyddai'n cael eu darganfod ar fferm draddodiadol
"Dwi wir yn casáu galw fo'n gym a bod yn onest - un o’r prif bethau ydy creu cymdeithas.
"'Da ni’n cael barbeciws, 'da ni’n mynd am dro - jyst ceisio gwneud cymaint efo’n gilydd pryd 'da ni’n gweithio allan.
"Dim ar ben dy hun efo headphones ar - 'da ni’n trio cymysgu, cael pobl at ei gilydd, sydd mor anodd i ddod ar ei draws yn yr oes yma, i fod yn onest."
![Farm Fit](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/eb3a/live/c84db440-3e0c-11ef-b29d-61ef83ddf068.jpg)
Dywed Robin Jones mai creu cymdeithas o bobl yw un o brif nodau'r gampfa
Daw pobl o bell ac agos i'r gampfa, ac yn amlwg maen nhw wrth eu boddau.
Dywedodd Dafydd Williams ei fod yn mynd yno oherwydd "yr hwyl a phopeth arall".
"Yn fwy na dim, mae 'na griw da ohonom ni - mwy o gymdeithas na jyst mynd i’r gym ar dy ben dy hun."
Ychwanegodd Helen Waring: "Pob nos Lun a nos Fercher 'da ni’n cael workout go iawn efo Robin.
"Mae 'na hwyl ac mae 'na gymuned hyfryd yma. Mae Robin yn gymeriad a hanner!"
![Helen Waring ac Anna Jones](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/968/cpsprodpb/3116/live/ba7532e0-3e0b-11ef-a6f9-5757fdf98709.jpg)
Mae Helen Waring ac Anna Jones yn canmol y gymuned yn Farm Fit
Dywedodd Anna Jones fod y lle yn "lot o hwyl ac mae Robin wastad yn rili positif ac yn annog ni wastad i jyst trio ein gorau".
"Mae'n ffordd hwyl o gadw’n ffit a gweld pawb hefyd."
Mae holl elw’r gampfa yn mynd yn ôl i’r gymuned, a’r gobaith ydy ehangu’r ddarpariaeth yn Fferm Pen y Garth dros y blynyddoedd nesaf i gynnig mwy o adnoddau eto fel bod mwy o bobl o bob oed yn elwa.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd13 Awst 2021