Llwyddiant pŵl yn hybu'r galw am gyfleon anableddau dysgu

Gary, Osian a TroyFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Gary Williams, Osian Owen a Troy Maclean ydy'r rhai cyntaf o ogledd Cymru i hawlio lle yn Nhîm Pŵl Anableddau Dysgu Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae llwyddiant tri chwaraewr pŵl o Wynedd wedi arwain at alwadau i gynnig mwy o gyfleoedd i bobl ag anableddau dysgu yng ngogledd Cymru.

Gary Williams, Osian Owen a Troy Maclean ydy'r rhai cyntaf o ogledd Cymru i hawlio eu lle yn Nhîm Pŵl Anableddau Dysgu Cymru.

Fe gawson nhw eu dewis i'r tîm cenedlaethol allan o 14 o chwaraewyr ar draws y rhanbarth mewn cystadlaethau rowndiau pŵl ym Mangor dros y misoedd diwethaf.

Bu'r tri yn cynrychioli eu gwlad yng Nghwpan y Cenhedloedd yn Bridlington yn ne ddwyrain Lloegr yn ddiweddar, ble roedd chwech o dimau o Gymru, Lloegr, Yr Alban, Iwerddon, Gogledd Iwerddon a Gibraltar yn brwydro.

Gary Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gary, o Fethesda, nad oedd yn nerfus yn cynrychioli Cymru

Dywedodd Gary, o Fethesda, bod y profiad o chwarae dros Gymru wedi bod yn gyffrous iawn.

"Pan o'n i'n Bridlington, o'n i'n cerdded drwodd o flaen pawb, o'n i ddim yn nerfus na dim byd.  O'dd y galon yn pwmpio, ond do'n i ddim yn nerfus.

"Weithiau ti'n mynd yn nerfus, weithiau ti ddim. Mae'n rhaid i chdi just go with the flow.

"O'n i'n reit prowd ohona fi'n hun de - a reit prowd o'r tîm hefyd, o'dda nhw'n dda, o'dda nhw'n ffantastig."

Osian Owen
Disgrifiad o’r llun,

Gwella ei sgiliau ei hun ydy nod Osian o Waunfawr

Roedd yn brofiad yr un mor bositif i Osian, o Waunfawr, ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth unigol – a hynny wrth gystadlu ar y lefel yma am y tro cyntaf erioed.

Dywedodd:  "Gem gynta' fi o'dd snwcer ond wedyn pŵl. Rhwng y ddau dwi'n chwara' ers tua 20 mlynedd.

"Dwi'n cyfarfod gwahanol bobl, a trio gwella fy hun fel player a trio cael safon mor uchel â phosib.

"Dwi'n chwarae yn erbyn hogia' gwell, safon uwch na fi, felly dwi'n trio gwella fy hun."

Gary ac Osian
Disgrifiad o’r llun,

Rhwng snwcer a pŵl mae Osian Owen [dde] yn chwarae ers tua 20 mlynedd

Mae'r tri yn chwarae i Glwb Pŵl Llwybrau Llesiant ers dros flwyddyn a hanner ac yn ymarfer bob yn ail nos Lun ym mar Poced Gornel ym Mangor.

Dywedodd Troy, o Flaenau Ffestiniog: "Dwi'n falch bod fi 'di cael y cyfle gan Corner Pocket i chwarae 'efo tîm Cymru.

"Y tro cynta' i bobl o ogledd Cymru gael y cyfle, er i'r tîm gael ei sefydlu yn 1994.

"Dwi'n teimlo'n falch ac yn gobeithio bydd na fwy o bobl o ogledd Cymru yn cael cyfle."

Christopher Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Christopher Thomas bod cynrychioli Cymru'n rhoi "llwyth" o gyfleoedd

Un sydd wedi cefnogi'r tri ac wedi bod yn ganolog i'w llwyddiant ydy Christopher Thomas, perchennog Poced Gornel.

"Mae'r sessions learning disability bob yn ail nos Lun - opportunity i gael practis a enjoio'u hunain, rwbath gwahanol iddyn nhw.

"Does 'na neb 'di 'neud o'n gogledd Cymru o'r blaen so 'da ni'n reit prowd bod ni 'di llwyddo i gael y tri o hogia' i chwarae i Gymru so 'da ni 'di g'neud yn iawn.

"Maen nhw'n gallu mynd i Malta, Iwerddon, Ffrainc, Cyprus. mae'n agor llwyth o chances iddyn nhw.

"Gobeithio tro nesa' fydd rhai o'r plant yn cael llwyddiant yma, so exciting times i'r clwb a'r bobl leol."

Eryl Price Williams
Disgrifiad o’r llun,

"'Sa fo'n dda 'sa ni'n gallu cynnig cyfleoedd fel hyn ar draws y sir", medd Eryl Price Williams

Wrth ddathlu llwyddiant y tri, mae galw rŵan am ehangu'r cyfleoedd chwaraeon ar gyfer rhai ag anableddau dysgu yn y gogledd.

Dywedodd Eryl Price Williams, Uwch Weithiwr Llesiant i Lwybrau Llesiant, sy'n sefydlu'r ddarpariaeth ar draws Gwynedd:

"'Da ni'n dechra'r grwpia' 'ma a ti byth yn gw'bod lle ma'n mynd i fynd.

"Gynnon ni ddiolch mawr i Chris a Corner Pocket.  Ma' nhw just 'di codi gobeithion pobl a rhoi cyfleoedd iddyn nhw.

"Pwy 'sa 'di meddwl pan o'dda ni'n dechra' dod yma fasa ni'n cael hogia'n chwara' i Gymru.  Mae o'n briliant a grêt bod nhw'n cael y cyfle."

Dywedodd ei bod hi'n heriol weithiau sicrhau'r cyllid ar gyfer y gweithgareddau.

"O'dda ni'n lwcus iawn tro diwetha', gathon ni gefnogaeth gan North Wales Together," meddai.

"Nathon nhw roi cyllid i dalu rhan fwya' o'r costau a nath rhai o'r hogia' gael sponsors o le o'dda nhw'n dod o.

"Ond mae o'n challenge fawr a 'da ni ddim yn guaranteed bod ni'n mynd i gael y funding yna."

'Partneriaeth ydy'r gyfrinach'

Mae galw rŵan am ddatblygu'r ddarpariaeth ymhellach.

"Gweithio mewn partneriaeth ydy'r gyfrinach a 'da ni 'di bod yn lwcus iawn bod Chris wedi bod yn fodlon pwsho hyn ymhellach", meddai Eryl Price Williams.

"Ond ma' Gwynedd yn sir fawr iawn, felly 'sa fo'n dda 'sa ni'n gallu cynnig cyfleoedd fel hyn ar draws y sir.

"Hefyd 'efo chwaraeon eraill - mae 'na dimau ffwtbol, mae 'na gynghrair boccia a clwb gymnasteg ac ati.

"Ond os fasa 'na rhyw glwb chwaraeon arall fasa'n licio cydweithio efo ni i gael gwneud mwy o gyfleoedd, 'swn i'n ddiolchgar iawn tasa nhw'n cysylltu efo ni."

Pynciau cysylltiedig