Beirniadu cynllun i bobl ag anableddau am 'ddiffyg targedau mesuradwy'

Byddai Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru, wedi hoffi gweld y cynllun yn dod allan lawer cynt
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i wella bywydau pobl ag anableddau wedi cael eu beirniadu am ddiffyg targedau mesuradwy.
Byddai'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn anelu at roi mwy o hawliau i bobl ag anabledd ar draws ystod o feysydd.
Ond mae beirniaid yn dweud y gallai llawer o'r manylion ddisgyn oddi ar yr agenda, - yn enwedig os oes llywodraeth newydd yn cael ei hethol y flwyddyn nesaf.
Dywed Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i greu Cymru gynhwysol a hygyrch lle gall pobl anabl fyw'n rhydd rhag rhwystrau a gwahaniaethu."
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd23 Mawrth
Am y pedair blynedd diwethaf, mae gweinidogion wedi bod yn gweithio ar Dasglu Hawliau Anabl, sydd wedi cynnwys pobl ag anableddau a grwpiau sy'n eu cynrychioli.
Cafodd mwy na 300 o argymhellion eu cynnig gan y tasglu er mwyn gwella hawliau pobl anabl - mewn meysydd fel gofal cymdeithasol, cyflogaeth, tai a theithio, mewn cynllun sy'n ymestyn dros y 10 mlynedd nesaf.
Ond mae rhai a oedd yn rhan o'r broses yn dweud nad yw'r argymhellion hyn wedi'u hymgorffori yn y ddogfen gafodd ei rannu yn ystod y cyfnod ymgynghori.
'Rhwystredig iawn'
Dywedodd Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru, ei bod yn pryderu y gallent ddisgyn oddi ar yr agenda, a bod y sefyllfa yn "rhwystredig iawn".
"Sefydlwyd y tasglu ym mis Tachwedd 2021 gan y Prif Weinidog ar y pryd, Mark Drakeford.
"Oherwydd cymhlethdod a nifer y rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu mewn cymdeithas, mae'n croesi pob maes polisi, mae'n dasg gymhleth sy'n cynnwys cynifer o bobl," meddai.
"Fodd bynnag, bydden ni wedi bod eisiau gweld y cynllun yn dod allan lawer cynt fel bod 'na gyfle gwirioneddol i weithio ar rai o'r argymhellion a'r camau gweithredu, fel y byddai'r llywodraeth nesaf wedi bod ymhellach ar y blaen o ran cyflawni, ac rwy'n credu bod pobl anabl yn haeddu hynny."

Mae'r Athro Debbie Foster yn poeni am y ffaith nad yw bob plaid wedi ymrwymo i'r cynllun newydd
Mae Debbie Foster yn Athro Cyflogaeth ac Amrywiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac roedd hi'n gyd-gadeirydd ar y tasglu wnaeth lunio'r argymhellion.
Mae hi'n pryderu y gallai'r cynllun gasglu llwch os nad yw gwleidyddion o bob plaid yn ymrwymo iddo: "Rwy'n poeni'n fawr iawn am hynny.
"Ac rwy'n credu bod y ffaith ein bod wedi cael ein rhoi yn y sefyllfa hon, ei fod wedi dod allan mor hwyr yn y senedd hon, yn peri i fi deimlo'n isel, oherwydd rwy'n credu bod yr hyn rydym wedi'i greu yma wedi bod yn gryf iawn, yn arloesol.
"Mae ganddo leisiau pobl anabl ynddo, ac ry'n ni wedi cael gwasanaeth sifil da iawn i gefnogi'r holl fecanwaith o geisio cyd-gynhyrchu tasglu.
"Rwy'n credu hefyd, o ystyried darlun ehangach y DU gyda thoriadau budd-daliadau, bod angen i Lywodraeth Cymru ddod allan, pa bynnag blaid wleidyddol sydd wrth y llyw, a dweud wrth bobl anabl yng Nghymru, fod ganddyn nhw gynllun gwahanol i lywodraeth bresennol y DU."
'Amhosibl dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif'
Fe wnaeth aelodau'r wrthblaid yn y Senedd godi'r mater gyda'r gweinidog sy'n gyfrifol yn gynharach yr wythnos hon.
Gofynnodd cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Anabledd, yr AS Ceidwadol, Mark Isherwood, ar ran grwpiau anabl: "Sut ydych chi'n ymateb i'w datganiad bod llawer o'r amcanion hirdymor yn brin o ymrwymiadau cadarn, a'u cwestiwn ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau parhad ac atebolrwydd ar gyfer yr amcanion hirdymor hyn y tu hwnt i'r weinyddiaeth bresennol?
"Mae beirniadaeth hefyd wedi bod o fewn y sector nad oes gan y cynllun dargedau pendant, sy'n ei gwneud hi'n amhosibl dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am gynnydd."
Atebodd Jane Hutt, yr ysgrifennydd cabinet sy'n gyfrifol am y cynllun: "Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw bod hwn yn gynllun 10 mlynedd cynhwysfawr, sy'n nodi ein huchelgeisiau hirdymor, y camau y byddwn yn eu cymryd nawr, a hefyd adroddiad cynnydd.
"Llywodraethau'r dyfodol fydd yn nodi'r camau tymor canolig i hirdymor y byddan nhw yn eu cymryd i gyflawni'r uchelgais a'r canlyniadau i bobl anabl a nodir yn y cynllun 10 mlynedd hwn, ond rydym wedi dechrau bwrw ymlaen â rhai o'r camau tymor byr nawr.
"Nid oes rhaid i ni aros tan dymor nesaf y Senedd i gymryd camau i wella canlyniadau i bobl anabl."
Dywed Llywodraeth Cymru: "Mae gwaith y Tasglu Hawliau Anabledd wedi helpu i lunio'r cynllun hwn, gan ei seilio ar brofiad byw.
"Un argymhelliad allweddol oedd yr angen am ymgyrch i fynd i'r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo'r hawl i fyw'n annibynnol.
"Byddwn yn gweithio gyda phobl anabl ar ymgyrch ledled Cymru i fynd i'r afael â hyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth
- Cyhoeddwyd26 Mawrth