Cannoedd yn galw am ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg i Ferthyr

PlantFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Merthyr Tudful yn un o dri awdurdod lleol yng Nghymru heb ysgol uwchradd Gymraeg o fewn eu ffiniau

  • Cyhoeddwyd

Mae'n rhaid sefydlu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn sir Merthyr Tudful o fewn degawd, dyna yw neges deiseb gafodd ei chyflwyno brynhawn Mercher i'r cyngor sir.

Mae'r ddeiseb gan fudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg wedi cael ei harwyddo gan 889 o bobl.

Ar hyn o bryd mae disgyblion o'r sir, sydd yn dymuno cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, yn teithio i Ysgol Gyfun Rhydywaun yn Hirwaun - ysgol sydd yn sir Rhondda Cynon Taf.

Bydd un o blant Catrin Ashton yn dechrau ar y daith honno ym mis Medi.

"Mae e'n galed pan mae'ch plant yn gadael am 06:40 a theithio yn bell.

"Os oes trafferth mae'n anodd i chi adael i helpu, mae'n anodd iddyn nhw ddod adref," meddai wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, gan ychwanegu bod mynd i glybiau ar ôl ysgol hefyd yn anodd yn sgil diffyg trafnidiaeth gyhoeddus.

Disgrifiad,

'Pobl y Gurnos yn gweld bod y Gymraeg i bawb nawr'

Mae'r ddeiseb yn nodi y bydd diffyg lle yn Ysgol Gyfun Rhydywaun yn y dyfodol wrth i'r galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yng nghymoedd Cynon a Merthyr gynyddu.

Ychwanegodd Ms Ashton bod cael ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn sir Merthyr yn hollbwysig i dwf addysg Gymraeg.

"Wrth gyflwyno'r ddeiseb ni'n gobeithio bydd pobl yn cefnogi'r alwad ac yn rhoi sicrwydd i rieni a phlant bod dilyniant o ran addysg Gymraeg yn y sir.

"Mae cymaint mwy o bobl yn siarad Cymraeg yn y sir nawr."

Mae Merthyr Tudful yn un o dri awdurdod lleol yng Nghymru heb ysgol uwchradd Gymraeg o fewn eu ffiniau.

Dywed Cyngor Merthyr Tudful eu bod "wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi a hyrwyddo uchelgais Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Mae'r Cyngor ar hyn o bryd yn gweithio ar astudiaeth ddichonoldeb gynhwysfawr i'r ddarpariaeth Addysg Uwchradd Cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol.

"Rydym wedi ymrwymo i gymryd camau beiddgar a strategol i gael gwared ar rwystrau i Addysg Cyfrwng Cymraeg ac i sicrhau bod gan ddysgwyr ym Merthyr Tudful fynediad teg a chynhwysol i'r iaith."

Hefyd, yng nghyfarfod cabinet y cyngor ddydd Mercher, fe drafododd cynghorwyr leoliad trydedd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg y sir.

Mae'r ysgol i fod i agor ym mis Medi 2027.

Yr argymhelliad yw adeiladu'r ysgol newydd ar safle presennol Ysgol Gynradd Goetre - yn y cyfamser bydd yr ysgol honno yn agor ar safle dros dro tra bod adeilad newydd yn cael ei chodi.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.