'Dal i frwydro' dros addysg Gymraeg ym Merthyr

Disgrifiad,

Mae Cylch Meithrin y Gurnos yn ffynnu, ond mae pryderon am gadw plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae rhieni ac ymgyrchwyr yn galw am wneud mwy i ddatblygu addysg iaith Gymraeg yn ardal Merthyr Tudful.

Mae pryder yn lleol fod yna ansicrwydd ynglŷn â'r daith o ran addysg Gymraeg o'r blynyddoedd cynnar drwodd i addysg uwchradd.

Ar hyn o bryd, tair ysgol gynradd Gymraeg sydd ym Merthyr Tudful - Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd-y-Grug yn Aberfan, Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful ac ysgol loeren i Santes Tudful sydd heb safle parhaol eto.

Ond does dim ysgol uwchradd Gymraeg yn yr ardal, ac mae'n rhaid i ddisgyblion sydd eisiau derbyn addysg uwchradd Gymraeg deithio i Ysgol Gyfun Rhydywaun yn Rhondda Cynon Taf.

Dywed Cyngor Merthyr Tudful eu bod yn "cynnal astudiaethau dichonoldeb i'r gwahanol ddewisiadau ar gyfer darpariaeth uwchradd" yn y Gymraeg.

Galw am ysgol uwchradd o fewn degawd

Mae grŵp o rieni lleol wedi sefydlu cangen Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) ac yn bwriadu cyflwyno deiseb i gyngor Merthyr fis nesaf.

Mae'n galw ar y cyngor i ymrwymo i agor ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y sir o fewn 10 mlynedd, neu'n gynt.

Ar hyn o bryd mae 490 o ddisgyblion ledled sir Merthyr Tudful yn teithio bob dydd i Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun - i'r gogledd o Aberdâr - er mwyn derbyn eu haddysg uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Sarah Ward
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r ferch hynaf yn mynd ar ddau fws yn y bore i fynd i Ysgol Rhydywaun," meddai Sarah Ward

Un o'r rheiny sy'n galw am newid yw Sarah Ward o Bontsticill.

Mae Sarah yn fam i dri ac yn hanu o deulu di-Gymraeg yn ardal Caerffili.

Mae ganddi un plentyn yn Ysgol Uwchradd Rhydywaun a'r ddau arall yn Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful.

"Mae'r ferch hynaf yn mynd ar ddau fws yn y bore i fynd i Ysgol Rhydywaun.

"Mae'n dechre'r daith ar fws mini ac wedyn yn dod off yn y pentref nesaf ac yna ymlaen i'r bws arall i fynd i'r sir drws nesa'."

Mae'n benderfynol fod y plant yn cael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ond mae'n dweud fod angen i gyngor Merthyr ymateb i'r galw am ysgolion Cymraeg yn yr ardal, er mwyn gneud y llwybr addysg Gymraeg yn gliriach a rhoi sicrwydd i rieni.

Elin Maher
Disgrifiad o’r llun,

"Ry'n ni dal i aros am gynlluniau ar gyfer trydedd ysgol gynradd Gymraeg ym Merthyr," meddai Elin Maher o fudiad RhAG

Dywedodd Elin Maher o fudiad RhAG: "Ry'n ni dal i aros am gynlluniau ar gyfer trydedd ysgol gynradd Gymraeg ym Merthyr.

"Mae ysgol loeren wedi ei sefydlu ond mae'n rhaid i ni weld y lloeren yna'n tyfu i fod yn ysgol."

Mae'r mudiad ymgyrchu yn dadlau bod angen sicrwydd, ac yn dweud os nad yw'r llwybr o'r blynyddoedd cynnar i mewn i'r cynradd yn glir i rieni, yna dydyn nhw ddim yn dewis y daith.

"Mae'r daith yn glir mewn addysg cyfrwng Saesneg.

"Mae angen nawr i'r daith fod yr un mor glir â'r un mor hygyrch o fewn cymunedau ag y mae addysg cyfrwng Saesneg."

Katie Phillips
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n siwrne really bell i deithio i Ysgol Rhydywaun," meddai Katie Phillips

Mae Katie Phillips yn byw ym Merthyr a'n gweithio fel swyddog cyfathrebu gyda Chymdeithas yr Iaith, ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Santes Tudful ac Ysgol Rhydywaun.

"Yn bendant ma' angen ysgol uwchradd Gymraeg yma. Mae'n siwrne really bell i deithio i Ysgol Rhydywaun," meddai.

"Ry'ch chi mewn cymuned wahanol a sir wahanol ac mae'n anodd o ran 'neud pethe allgyrsiol y tu fas i'r ysgol."

Lis McLean
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n teimlo yn eitha' cryf y dylen ni fod yn gwneud llawer mwy erbyn hyn," meddai Lis McLean

Yn ôl Lis McLean, prif weithredwr Canolfan Gymraeg Soar a Menter Iaith Merthyr Tudful, mae'r broses o greu llwybr addysg Gymraeg yn y dre' wedi bod yn rhy araf.

"Dwi'n teimlo yn eitha' cryf y dylen ni fod yn gwneud llawer mwy erbyn hyn," meddai.

"Dwi'n cofio pobl yn cwrdd yn room front tŷ ni yn y 70au pan oeddwn i'n blentyn bach ac yn brwydro dros addysg Gymraeg.

"Ry'n ni dal i frwydro dros addysg Gymraeg yma."

Myfanwy Harman
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cylch meithrin wedi helpu newid agweddau pobl leol tuag at y Gymraeg, meddai Myfanwy Harman

Un grŵp sydd wedi llwyddo i roi hwb i'r Gymraeg yn yr ardal ydy Cylch Meithrin y Gurnos.

Cafodd ei sefydlu gan Myfanwy Harman ym mis Ionawr 2023 gyda dim ond un plentyn ar y diwrnod cyntaf, ac mae bellach wedi tyfu i 27 o blant.

"Mae'r rhan fwyaf o'r plant yn symud ymlaen i'r ysgol Gymraeg," meddai Myfanwy.

"Tymor yma mae 100% o'r plant yn symud 'mlân i Ysgol Santes Tudful. Ni'n bwydo'r ysgol."

Cylch Meithrin y Gurnos
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cylch Meithrin y Gurnos wedi tyfu o un disgybl i bron i 30 mewn cyfnod o ddwy flynedd a hanner

Mae Myfanwy yn dweud eu bod hefyd wedi llwyddo i newid agweddau rhai pobl leol at y Gymraeg.

"Pan 'naethon ni ddechre yma roedd lot o deuluoedd yn dweud pethe fel 'I don't want that Welsh, it's not for me'.

"Ond ma' hynny nawr wedi newid ar ôl i ni adeiladu perthynas dda gyda nhw."

Fe fu staff y cylch yn gweithio'n galed yn yr ardal yn trafod manteision addysg Gymraeg gyda theuluoedd lleol, ac mae hynny wedi talu ar ei ganfed.

"Y peth mwyaf oedd bod teuluoedd yn meddwl bo' nhw ddim digon da i siarad yr iaith - dyw y Gymraeg ddim ar gael i bobl fel nhw," meddai Myfanwy.

"Ond nawr ma' nhw yn sylweddoli fod yr iaith i bawb."

Ond er llwyddiant y cylch meithrin, mae rhieni yn yr ardal yn poeni fod yna ansicrwydd ynglŷn â'r daith o ran addysg Gymraeg o'r blynyddoedd cynnar drwodd i addysg uwchradd.

'Cefnogi twf y ddarpariaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Merthyr Tudful: "Fel rhan o Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor rydym wrthi'n cynnal astudiaethau dichonoldeb i'r gwahanol ddewisiadau ar gyfer darpariaeth uwchradd.

"Bydd y rhain yn cael eu hadrodd o fewn amserlen y cynllun."

Ychwanegodd fod "papur yn mynd i'r cyngor fis Gorffennaf er mwyn penderfynu ar safle terfynol i'r ysgol gynradd newydd, a sut y bydd y cyngor yn edrych i gefnogi twf y ddarpariaeth ymhellach".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.