Galw ar gynghorau i ystyried busnesau cyn codi tâl parcio

Penarth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn bwriadu codi tâl i barcio mewn sawl ardal, gan gynnwys Penarth

  • Cyhoeddwyd

Mae angen i gynghorau Cymru ystyried yr effaith ar fusnesau cyn cyflwyno newidiadau i ffioedd parcio, meddai Ffederasiwn y Busnesau Bach.

Yn ôl y sefydliad, mae'r rhan fwyaf o fusnesau yn gweld parcio fel rhywbeth sy'n cael effaith ar eu llwyddiant.

Cyngor Bro Morgannwg ydy un o'r cynghorau diweddara' i ddangos bwriad i gyflwyno tâl parcio mewn sawl ardal, gan gynnwys tref glan môr Penarth ar gyrion Caerdydd.

Mae perchennog caffi Foxy's Deli and Cafe, Sian Fox, yn poeni y byddai codi tâl parcio yn denu llai o gwsmeriaid i'r dref.

'Mynd i ddistrywio'r dref'

"Mae siopau'n cau bob wythnos, ac i gyflwyno newid fel hyn, bydd yn mynd yn waeth," meddai.

"Mae'n rhaid iddyn nhw [y cyngor] gael arian i mewn rhyw ffordd, ond ma' nhw'n mynd i ddistrywio'r dre' fi'n meddwl."

Sian Fox
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sian Fox yn poeni y byddai codi tâl parcio yn denu llai o gwsmeriaid i'r dref

Y bwriad ydy cyflwyno tâl parcio ar lan y môr, gan ymestyn i fyny stryd Penarth Cliff Walk, gan hefyd gynnwys y maes parcio ar ben yr allt.

Mae'r cyngor yn edrych ar godi tâl mewn sawl ardal arfordirol arall ym Mro Morgannwg hefyd, gan gynnwys Ynys y Barri.

Yn ôl y cyngor, byddai cyflwyno'r tâl yn helpu i reoli traffig, a byddai'r arian sy'n cael ei godi yn mynd tuag at waith cynnal a chadw a chefnogi gwasanaethau sy'n hanfodol yn y lleoliadau hyn.

Dydi'r mater ddim yn unigryw i Fro Morgannwg.

Mae'n ddadl sy'n codi'i phen ar draws Cymru, gyda Chyngor Ceredigion wedi cynnal ymgynghoriad yn ddiweddar ar godi tâl am barcio ar y promenâd yn Aberystwyth.

Fflur Elin
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Fflur Elin o Ffederasiwn y Busnesau Bach, ni ddylai cynghorau ddefnyddio parcio fel ffordd o wneud arian ar gyfer cyllidebau mwy cyffredinol

Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach yn poeni am effaith cyflwyno newidiadau o'r fath ar fusnesau, ac yn galw ar gynghorau Cymru i ystyried hynny cyn gwneud penderfyniad o'r fath.

Mae ymchwil gan y ffederasiwn yn dangos bod mwyafrif y busnesau mewn trefi yng Nghymru yn ystyried parcio fel ffactor sy'n cael effaith ar lwyddiant eu busnesau.

Yn ôl Fflur Elin o'r sefydliad: "Mae'n bwysig bod cynghorau yn meddwl sut i wneud parcio yn hygyrch ac yn rhesymol o ran pris.

"Be' dydyn ni ddim moyn ydy bod cynghorau yn defnyddio parcio fel ffordd o wneud arian ar gyfer cyllidebau fwy cyffredinol cynghorau."

Ar ôl cael eu cymeradwyo gan gabinet Cyngor Bro Morgannwg, bydd y cynlluniau rŵan yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Craffu'r Amgylchedd ac Adfywio.

Pynciau cysylltiedig