Tâl parcio 'fydd yr hoelen olaf yn arch Aberystwyth'

Promenâd Aberystwyth mewn tywydd cymylog
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor yn cynnig codi tal £3.50 am ddwy awr o barcio neu £5 am bedair awr

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgynghoriad Cyngor Ceredigion ar godi tâl am barcio ar y promenâd yn Aberystwyth ar fin dod i ben.

Mae'r drafodaeth wedi cythruddo rhai busnesau sy'n poeni am golli cwsmeriaid yng nghanol y dref.

Fe ddywedodd un perchennog busnes bod y sefyllfa barcio yn Aberystwyth eisoes yn "jôc".

Yn ôl Cyngor Ceredigion, dydy hi ddim yn briodol iddyn nhw wneud sylw ar y mater tra bod yr ymgynghoriad yn dal i fynd rhagddi.

'Dirwyon parcio bron gymaint â threthi busnes'

Penderfyniad strategol Geraint Hughes oedd gosod ei siop gwerthu eiddo ar y Stryd Fawr, am fod cymaint yn cerdded heibio.

Heb barcio am ddim ar y prom, fe allai hynny newid. Meddai: "Mae sefyllfa'r ffyrdd a pharcio o fewn Aberystwyth i fod yn hollol onest yn jôc.

"Dwi'n talu bron cymaint mewn dirwyon parcio ag ydw i mewn trethi busnes.

"I bobol sy'n gweithio yn y dref, lle maen nhw'n mynd i barcio? Fi'n credu mai dyma fydd yr hoelen olaf yn arch Aberystwyth."

Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r ffi yn weithredol saith dydd yr wythnos, rhwng 08:00 a 20:00

Yn ôl y Cyngor, byddai codi tâl am barcio yn hybu masnachu yn y dref trwy gynyddu trosiant cerbydau.

Byddai hefyd, maen nhw'n dadlau, yn annog pobol i ddefnyddio mwy o drafnidiaeth gyhoeddus, yn lleihau tagfeydd traffig ac yn hyrwyddo rhagor o deithio llesol.

Ar hyn o bryd, mae hawl gan yrwyr i barcio ar y promenâd am hyd at bedair awr, yn dibynnu ar y lle parcio.

O dan gynlluniau'r cyngor, byddai'n rhaid talu am barcio o'r Castell ar rhiw Craig-Glais.

Y cynnig yw codi £3.50 am ddwy awr o barcio neu £5 am bedair awr.

Byddai'r ffi yn weithredol o 08:00 at 20:00, saith diwrnod yr wythnos.

Bydd dim newid i safleoedd parcio ar gyfer yr anabl.

Disgrifiad o’r llun,

Mae John Koch yn rhagweld ambell broblem gyda'r drefn newydd

Cymysg oedd ymateb y rheiny oedd yn siopa yng nghanol y dref. Un o'r rheiny yw John Koch.

Fe ddywedodd: "Dwi'n meddwl bydd rhai pobol yn cadw draw os bydd gofyn i dalu am barcio.

"Ond wrth gwrs, mae pobol yn dueddol o aros yn hir os nad oes gofyn talu ac mae hynny yn gallu bod yn broblem hefyd."

Doedd Cyngor Ceredigion ddim am wneud sylw cyn iddyn nhw ddod â'r ymgynghoriad i ben.

Pynciau cysylltiedig