Gŵyl lenyddol yn canslo digwyddiad gyda'r cyn-AS Jonathan Edwards

Roedd Jonathan Edwards yn Aelod Seneddol rhwng 2010 a 2024
- Cyhoeddwyd
Mae gŵyl lenyddol yn Sir Gaerfyrddin wedi canslo digwyddiad gyda'r cyn-Aelod Seneddol Jonathan Edwards.
Yn wreiddiol roedd disgwyl y byddai digwyddiad gydag Edwards yn cael ei gynnal ar nos Wener Gŵyl Lên Llandeilo ddiwedd y mis, ble byddai'n trafod ei hunangofiant.
Ond mae'r ŵyl bellach wedi cyhoeddi na fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal am eu bod yn teimlo "nad yw natur a chynnwys y llyfr yn cyd-fynd gyda gwerthoedd ac egwyddorion yr ŵyl".
Ychwanegodd fod "y perygl o greu annifyrrwch a gofid i rai unigolion gaiff eu trafod yn y llyfr yn rhy arwyddocaol i'w hesgeuluso".
Ymosod ar ei wraig
Bu Edwards yn Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr rhwng 2010 a 2024.
Fe fu'n cynrychioli Plaid Cymru tan 2020, pan gafod ei wahardd o'r blaid ar ôl cael rhybudd gan yr heddlu am ymosod ar ei wraig.
Mae'r cwpl bellach wedi gwahanu.
Ar ôl hynny bu'n AS annibynnol tan 2024, pan benderfynodd na fyddai'n sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol.
Doedd Edwards ddim am wneud sylw ynglŷn â chanslo'r digwyddiad yng Ngŵyl Lên Llandeilo.
'Datgelu ei siwrnai wleidyddol'
Bydd Gŵyl Lên Llandeilo yn cael ei chynnal yn y dref yn Sir Gâr rhwng 25 a 27 Ebrill.
Mae sawl enw cyfarwydd ym myd llenyddol Cymru yn ymddangos yno eleni, gan gynnwys Manon Steffan Ros, Ifor Ap Glyn, Caryl Lewis a Meleri Wyn James.
Roedd digwyddiad gyda Jonathan Edwards - o'r enw 'Gwleidyddiaeth, pŵer a chyfrinachau yn cael eu datgelu' - i fod i gael ei gynnal nos Wener, 25 Ebrill yn adeilad Yr Hen Vic.
Y darlledwr ac awdur Alun Wyn Bevan fyddai wedi ei holi, a hynny am ei hunangofiant - Into the Abyss.
Yn ôl gwefan yr ŵyl, roedd disgwyl y byddai Edwards yn "datgelu ei siwrnai wleidyddol mewn sgwrs - o AS Plaid Cymru i fod yn aelod annibynnol, disgwyliwch fewnwelediadau, heriau, ac efallai ambell gyfrinach!"

Cafodd Jonathan Edwards rybudd gan yr heddlu yn 2020 am ymosod ar ei wraig
Ond mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mawrth, dywedodd Gŵyl Lên Llandeilo: "Ar ôl ystyried yn ofalus, mae ymddiriedolwyr Gŵyl Len Llandeilo wedi penderfynu na fydd y digwyddiad gyda Jonathan Edwards yn cymryd lle.
"Fel Gŵyl, mi rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofod cynhwysol a chroesawgar i'r rhai sydd yn cymeryd rhan a'r rheiny sydd yn mynychu'r Ŵyl.
"Roedd y digwyddiad yma wedi ei ddarparu'n wreiddiol fel trafodaeth am atgofion gwleidyddol.
"Fodd bynnag, yn dilyn adolygiad pellach, teimlwn nad yw natur a chynnwys y llyfr yn cyd-fynd gyda gwerthoedd ac egwyddorion yr Ŵyl.
"Un o'n nodweddion pennaf yw bod yr Ŵyl yn parhau i fod yn le ble mae pob unigolyn yn derbyn - ac yn haeddu parch.
"Fe benderfynon ni fod y perygl o greu annifyrrwch a gofid i rai unigolion gaiff eu trafod yn y llyfr yn rhy arwyddocaol i'w hesgeuluso.
"Rydym wedi'n hymrwymo i gynnal Gŵyl sydd yn gwneud i bob un deimlo'n gynwysedig a'i bod yn ddathliad llenyddol i bawb sydd yn ymwneud â hi."
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd28 Mai 2024
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2020
Ym mis Mai 2020 cafodd Edwards ei arestio pan gafodd yr heddlu eu galw i'w gartref yn Sir Gaerfyrddin, ac fe gafodd rybudd gan yr heddlu am ymosod.
Dywedodd ar y pryd ei fod yn "wir ddrwg ganddo", a'i fod yn difaru'r digwyddiad "yn fwy na dim arall yn fy mywyd".
Dwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd ganiatâd i ddychwelyd i'r blaid ond sbardunwyd dadl a ddylai gynrychioli'r blaid yn Nhŷ'r Cyffredin.
Roedd mwyafrif o bwyllgor gwaith cenedlaethol y blaid yn argymell na ddylai ailafael yn ei waith fel AS Plaid Cymru yn San Steffan - gan olygu y bu'n rhaid iddo eistedd fel AS annibynnol.
Yn ddiweddarach gadawodd y blaid yn gyfan gwbl, gan barhau fel AS annibynnol, cyn penderfynu na fyddai'n sefyll fel ymgeisydd yn 2024.