Toriadau 'creulon' yn 'peryglu natur' medd amgylcheddwyr
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr wedi disgrifio toriadau posib i'r corff sy'n rheoleiddio'r amgylchedd fel rhai "creulon" allai "beryglu natur".
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn bwriadu cael gwared ar 265 o swyddi, gan ystyried toriadau mewn meysydd fel taclo troseddau gwastraff, cynghori ar newid hinsawdd, rheoli safleoedd treftadaeth a rhedeg canolfannau ymwelwyr.
Fe honnodd un undeb y gallai arwain at sefyllfa lle nad oedd yna "ddigon o staff ar lawr gwlad" i warchod yr amgylchedd.
Dywedodd CNC eu bod yn gwneud "pob ymdrech posib" i flaenoriaethu'r gwaith oedd yn cael "y mwyaf o effaith ar natur, hinsawdd a llygredd".
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd16 Medi
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2021
Mae BBC Cymru wedi siarad â rhai o staff presennol a chyn-staff CNC.
Tra'n cydnabod bod y sefydliad mewn "sefyllfa ariannol amhosibl", mae nifer yn "grac" ac "yn teimlo fel eu bod wedi'u cau allan o'r gwaith o drio dod o hyd i ateb", meddai un.
"Ry'n ni wedi colli blwyddyn y galle ni fod wedi treulio yn ceisio achub rhai o'n gwasanaethau - fel trefnu bod mentrau cymunedol yn prynu ein canolfannau ymwelwyr."
"Mae nifer o staff yn disgrifio'r sefyllfa fel siambls," honnodd.
Roedd eraill yn feirniadol o'r angen am doriadau i'r corff sy'n gwarchod yr amgylchedd, o gofio bod Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd a natur.
Dywedodd UNISON Cymru, y mwyaf o'r pum undeb sy'n cynrychioli staff CNC fod gweithwyr wedi dweud wrthyn nhw na fyddai'r cynlluniau yn "datrys problemau yn y tymor hir".
"Mae ganddyn nhw bryderon hefyd ynglŷn â cholli staff sydd â blynyddoedd o brofiad," meddai'r trefnydd rhanbarthol Andrew Woodman.
"Fe fydd UNISON yn brwydro i geisio achub pob swydd," meddai.
Pam fod toriadau dan ystyriaeth?
Tra bod grant craidd CNC gan Lywodraeth Cymru heb gynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r corff yn wynebu costau llawer uwch oherwydd chwyddiant.
Mae'r "bwlch ariannol" yn y gyllideb yn mynd i gyrraedd £13m yn 2025/26, gan fynd tu hwnt i £17m erbyn 2026/27 os na fydd gweithredu, meddai rheolwyr.
Mae CNC wedi bod yn cynnal ymgynghoriad 45 niwrnod gydag undebau a staff, gan lwytho rhai dogfennau yn crynhoi'r newidiadau posib ar eu gwefan.
Maen nhw'n awgrymu y bydd llai o adnoddau i'r gwaith o ddylanwadu polisi ar yr amgylchedd - gan gynnwys mewn meysydd fel newid hinsawdd.
Fydd yna ddim "tîm addysg ac iechyd" penodol yn y dyfodol.
Bydd yna doriadau i'r gwaith o "reoli nodweddion treftadaeth" mewn coetiroedd cyhoeddus, ac i gaffis a siopau yng nghanolfannau ymwelwyr y corff.
Pan ddaw hi at ddelio â digwyddiadau fel achosion o lygredd, bydd CNC yn "goddef mwy o risg", gan leihau "faint o alwadau blaenoriaeth is ry'n ni'n ymateb iddyn nhw".
Maen nhw'n cynnig "gostyngiad bach" ym maes gorfodaeth, gan gynnwys wrth daclo troseddau gwastraff.
Bydd llyfrgell amgylcheddol y corff ym Mangor yn cau hefyd, cam sydd wedi cythruddo ecolegwyr ac wedi arwain at ddeiseb.
Mae'r llyfrgell yn agored i'r cyhoedd, ac mae ganddo gatalog ar-lein sy'n cynnwys llyfrau a chylchgronau yn ogystal ag adroddiadau ac arolygon yn y maes.
Mae modd defnyddio'r wybodaeth i helpu gyda cheisiadau cynllunio, a monitro rhywogaethau prin.
I'r botanegydd Delyth Williams mae'r penderfyniad yn un "siomedig iawn".
"Mae o'n adnodd anhygoel i unrhyw un sydd â diddordeb ym myd natur, mae 'na gasgliad anferth yna o bethau defnyddiol," meddai.
Dywedodd fod gwaith botanegwyr gwirfoddol yn hollbwysig wrth gofnodi effeithiau newid hinsawdd, a'r dirywiad o ran bioamrywiaeth.
Mae wrthi'n ysgrifennu'r detholiad cynta' o lystyfiant Sir Ddinbych, cofnod manwl o blanhigion gwyllt y sir - ac yn dweud y bydd cynnwys y llyfrgell yn "hollbwysig" i'r gwaith hwnnw.
"Os nad ydy o yna, ac os nad ydy o'n hawdd i gael hyd i'r data fydd hynny'n cael dylanwad mawr."
Dywedodd Gareth Clubb, cyfarwyddwr WWF Cymru y byddai'r cynlluniau yn "peryglu natur".
"Bydd 'na achosion o droseddau amgylcheddol sydd ddim yn cael eu hymchwilio, fe fydd na ddigwyddiadau lle nad oes gan CNC y staff a'r capasiti i ddelio â nhw."
"Mae'r rhain yn doriadau cyllidebol creulon i wasanaethau cyhoeddus pwysig," ychwanegodd Sam Ward, pennaeth Climate Cymru.
Roedd angen sicrhau bod CNC wedi'i "arfogi" gydag arbenigedd ecolegol a chyllid digonol, os oedd Cymru "i gael gobaith o allu atal newid hinsawdd a'r colledion i fioamrywiaeth," meddai'r Athro Christian Dunn o'r Gymdeithas Ecolegol Brydeinig.
Dywedodd Helen Pye, Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru ei bod hi'n "allweddol nad y'n ni'n gweld cam yn ôl o ran ein hadnoddau naturiol."
Un maes y mae CNC wedi addo buddsoddi mwy o adnoddau ynddo yw taclo llygredd dŵr, ar adeg pan fod cryn bryder ymysg y cyhoedd ynglŷn â chyflwr afonydd a moroedd.
Dywedodd prif weithredwr Afonydd Cymru, Gail Davies-Walsh fod y manylyn hwnnw yn galonogol.
"Mae'r toriadau cyllidebol yma yn gyfle i'r rheoleiddiwr ailffocysu ar berfformio ei ddyletswyddau cyfreithiol, a falle yn llai ar waith a allai gael ei ddelifro mewn modd mwy cost-effeithiol gan bartneriaid," meddai.
Beth sydd gan CNC i'w ddweud?
"Does dim dwywaith fod hyn yn gyfnod arwyddocaol a heriol i ni gyd yma yn CNC," meddai Prys Davies, Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu Corfforaethol.
"Mae cyllid cyhoeddus yn hynod o dynn ar draws y DU a ry'n ni'n gorfod edrych ar ein cyfrifoldebau ac adolygu'r hyn y gallwn ni a sy'n rhaid i ni barhau i'w wneud, yr hyn sy'n rhaid i ni ei stopio, a be allwn ni ei arafu neu ei wneud yn wahanol."
Dywedodd fod penaethiaid yn "deall yn llwyr yr effaith" ar gydweithwyr a bod yna gymorth ar gael.
"Maen nhw wedi parhau i ddangos proffesiynoldeb llwyr ac ymrwymiad i'w gwaith yn ystod yr adeg heriol yma," meddai.
Bydd y wybodaeth sydd wedi'i dderbyn yn ystod yr ymgynghoriad yn cael ei ystyried a'r cynigion terfynol yn cael eu cyflwyno i fwrdd CNC yng nghanol mis Hydref, ychwanegodd.
Dywedodd y dirprwy brif weinidog a'r ysgrifennydd newid hinsawdd Huw Irranca-Davies fod ganddo hyder y bydd CNC yn llwyddo "i weithio ar y cyd â rhanddeiliaid a'u staff i ddod i sefyllfa lle gallan nhw gwblhau eu dyletswyddau statudol".
"Y realiti plaen yw bod 'na ddewisiadau anodd yn ein hwynebu ni ar draws y llywodraeth, ac ar draws y DU, ac mae'r rhain wedi'u gorfodi arnom ni yn dilyn cymaint o flynyddoedd o lymder," meddai.