Beicwyr mynydd yn galw am achub canolfannau ymwelwyr

LLun o adeilad canolfan ymwelwyr Bwlch Nant yr ArianFfynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried cau canolfan ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd

Mae’r sector beicio mynydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i achub tair canolfan ymwelwyr ac i fuddsoddi mwy mewn llwybrau beicio.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ystyried peidio â rhedeg caffis a siopau mewn canolfannau yng Nghoed y Brenin, Bwlch Nant yr Arian ac Ynyslas fel rhan o gynllun i arbed £13m.

Mae'r corff yn ystyried cau 265 o swyddi.

Dywed CNC eu bod yn wynebu pwysau ariannol, a'u bod yn gorfod blaenoriaethu taclo’r argyfwng natur a hinsawdd, a lleihau llygredd.

Mae'n pwysleisio, os bydd newidiadau i ganolfannau ymwelwyr, bydd y llwybrau cerdded a beicio yn parhau ar agor yn y tri safle.

Ond yn ôl deiseb, sydd â dros 13,000 o lofnodion, byddai cau yn cael "effaith negyddol pellgyrhaeddol" ar yr economi leol, yr amgylchedd, a llesiant cymunedol.

Bydd pwyllgor deisebau'r Senedd yn trafod y mater ddydd Llun.

Ffynhonnell y llun, Suki Morys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd protest i wrthwynebu cynlluniau i gau canolfan ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian fis diwethaf

Mae Coed y Brenin yn enwog fel lleoliad y llwybr beicio mynydd pwrpasol cyntaf yn y DU.

Yn y ganolfan ymwelwyr yno mae caffi, lle golchi beiciau a chawodydd, ac wyth llwybr beicio mynydd gerllaw.

Yng nghanolfan Nant yr Arian mae siop, caffi a thoiledau.

Mae pum llwybr beicio yno, ond mae’n fwy enwog am fwydo barcutiaid coch bob dydd.

Dywed CNC eu bod yn deall bod bwydo’r barcutiaid yn boblogaidd, ond “nid oes unrhyw benderfyniad wedi’i wneud a fydd [hyn] yn parhau yn y dyfodol”.

'Effaith ar feicwyr, cymunedau a busnesau'

Mae gan ganolfan ymwelwyr Ynyslas arddangosfa ar Warchodfa Natur Dyfi, siop sy’n gwerthu byrbrydau a diodydd, a thoiledau.

Mewn llythyr at Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, mae aelodau o’r sector beicio mynydd yn dweud bod y gamp yn “gonglfaen i hamddena awyr agored yng Nghymru, gan ddenu miloedd o ymwelwyr a chreu budd economaidd sylweddol”.

Dywedodd Lewis Thompson o Beicio Cymru y gallai cau’r canolfannau gael effaith niweidiol: “'Da ni am godi’n pryderon am y toriadau, a’r effaith ar feicwyr, cymunedau a busnesau lleol.

"Y ddau brif bwynt yw [bod angen] cadw cefnogaeth i’r trels yn ariannol – maen nhw’n rhoi cyfle i bobl 'neud ymarfer corff a beicio mynydd. Y pwynt arall yw cadw’r canolfannau ar agor.”

Doedd Llywodraeth Cymru ddim am ymateb i’r llythyr.

Disgrifiad o’r llun,

Elin Jones yw'r AS dros etholaeth Ceredigion

Mae dwy o’r canolfannau yng Ngheredigion, etholaeth Elin Jones AS.

Dywedodd fod gan grwpiau lleol ddiddordeb mewn cymryd cyfrifoldeb am eu rhedeg.

“Beth y’n ni ddim eisiau yw bod y ganolfan y siop a’r caffi yn cau, pobl yn colli swyddi, a’r cyfan yn dirywio," meddai.

"Os yw NRW yn mynnu dod â hyn i ben, bod nhw’n trosglwyddo’r ased yn ei gyfanrwydd fel ‘going concern’ ar gyfer menter newydd fydd yn gallu cwrdd â’r potensial sydd yma.”

Dywedodd Elen Howells, sy'n ymgyrchu i achub canolfan Nant yr Arian, mai'r "rhai sy’n mynd i golli allan yw’r teuluoedd, yr ifanc iawn, yr hen, yr anabl".

"Mae 'na rai pobl sy' bendant ddim yn mynd i ddod os yw’r lle 'ma’n cau," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Elen Howells sy'n ymgyrchu i achub canolfan ymwelwyr Nant yr Arian

Does gan Ynyslas ddim llwybrau beicio ond mae'r llwybrau cerdded trwy'r twyni tywod yn boblogaidd iawn.

Dywedodd Polly Ernest – un o sylfaenwyr yr ymgyrch i achub canolfan Ynyslas – fod y staff yn gwneud gwaith hollbwysig wrth addysgu ymwelwyr am warchodfa natur Dyfi a bod y ganolfan “wrth galon y safle”.

Dywedodd hi hefyd fod pobl sy’n awyddus i redeg y ganolfan wedi cael trafferth trafod hyn gyda CNC.

“Ry’n ni’n gwybod bod pobl sydd eisiau cymryd drosodd, ond mae’n anodd iawn gwneud i hyn weithio yn fasnachol heb y maes parcio," meddai.

"Dyw CNC ddim wedi dweud a y’n nhw am gadw’r refeniw o’r meysydd parcio.

"Dwi'n meddwl eu bod nhw wedi gobeithio cau yn dawel heb i neb sylwi, a doedden nhw ddim yn disgwyl yr adwaith.”

Disgrifiad o’r llun,

Canolfan ymwelwyr Ynyslas ger Aberystwyth

Mae CNC yn ymgynghori â staff ac undebau llafur er mwyn cyrraedd y targed o arbedion o £13m.

Mewn datganiad ar ddyfodol y canolfannau ymwelwyr, dywedodd Elsie Grace, Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy CNC: “Rydyn ni'n edrych ar draws ein holl gylch gwaith ac yn adolygu'n feirniadol yr hyn y gallwn ac y mae'n rhaid i ni barhau i'w wneud, yr hyn rydyn ni'n ei stopio, a'r hyn rydyn ni'n ei arafu neu'n ei wneud yn wahanol.

"Un elfen sydd yn ein cynnig presennol i staff yw nad ydym bellach yn gweithredu darpariaeth arlwyo a manwerthu mewn canolfannau ymwelwyr.

"Os cytunir ar y cynigion hyn, byddwn yn gallu gweithio gyda phartneriaid i chwilio am ffyrdd newydd o weithio yn y dyfodol a chwilio am bartneriaid i redeg y gwasanaethau hyn. Does dim cynlluniau ar gyfer newidiadau eraill.

"Bydd y safleoedd eu hunain yn parhau i fod ar agor ar gyfer cerdded a beicio fel y maent ar hyn o bryd, a bydd gwasanaethau fel mannau chwarae, parcio ceir a darpariaeth toiledau hefyd yn parhau i fod ar gael."

Pynciau cysylltiedig