Heddlu'n dod o hyd i gar wrth chwilio am bensiynwr coll
![Reginald Rees](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/7ff1/live/4a87d8f0-5be5-11ef-b43e-6916dcba5cbf.jpg)
Fe gafodd Reginald Rees ei weld ddiwethaf fore Mercher yn gyrru car Renault Captur coch ym mhentref Crofty
- Cyhoeddwyd
Mae swyddogion heddlu wedi dod o hyd i gerbyd tebyg i gar dyn 98 oed o ardal Abertawe sydd ar goll ers deuddydd.
Fe gafodd Reginald Rees ei weld ddiwethaf ddydd Mercher, ychydig cyn 08:35, yn gyrru Renault Captur coch ym mhentref Crofty ar Benrhyn Gŵyr.
Dywedodd Heddlu De Cymru brynhawn Gwener eu bod wedi dod o hyd i gerbyd "o'r un disgrifiad â char Mr Rees oddi ar yr arfodir ym Mae Rhosili".
Ychwanegodd datganiad y llu bod teulu Mr Rees wedi cael gwybod a'u bod yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae'r car yn cael ei archwilio a'i symud ar hyn o bryd.