Gwaith i ddechrau ar ffwrnais drydan newydd ym Mhort Talbot

Dyluniad gan artist o sut y bydd y ffwrnais drydan newydd yn edrych ar safle Tata Steel ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd
Mi fydd y gwaith o adeiladu ffwrnais drydan newydd yng ngweithfeydd dur Port Talbot yn dechrau ddydd Llun.
Mi fydd yr Ysgrifennydd Busnes, Jonathan Reynolds, ynghyd ac Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens a chynrychiolwyr o Tata Steel yn ymgynnull i dorri'r dywarchen gyntaf ar y gwaith o greu dur mwy gwyrdd.
Daw ar ôl colli 2,800 o swyddi pan ddaeth gwneud dur traddodiadol i ben ym Mhort Talbot fis Medi 2024.
Mae Undeb Community wedi ei alw'n "ddiwrnod chwerwfelys" ar ôl "cau trychinebus y ffwrneisi chwyth".
Yn ôl Llywodraeth y DU, mae'r garreg filltir yn newyddion da sy'n bosib oherwydd grant o £500m ganddynt fel rhan o "gytundeb gwell i drawsnewid Port Talbot".
- Cyhoeddwyd23 Mehefin
- Cyhoeddwyd9 Mai 2024
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2024
Yn y cyfamser mi fydd cyfarfod fore Llun o Gyngor Dur Llywodraeth y DU i orffen eu Strategaeth Ddur, wedi ei gadeirio gan y Gweinidog Diwydiant, Sarah Jones.
Mi fydd y strategaeth yn cael ei gefnogi gan fuddsoddiad o £2.5bn meddai hi.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes, Jonathan Reynolds fod heddiw yn "ddiwrnod da i'r diwydiant dur yng Nghymru", sy'n rhoi "sicrwydd i gymunedau lleol a miloedd o swyddi lleol am flynyddoedd i ddod".

Mae buddsoddi £1.25bn mewn ffwrnais drydan yn lleihau allyriadau ac yn sicrhau dyfodol cynhyrchu dur, medd Tata Steel
Mae'r Ffwrnais Drydan newydd am fod yn weithredol erbyn 2027 ac mae disgwyl iddo ostwng allyriadau carbon safle Port Talbot tua 90%.
Yn ôl Cadeirydd Tata Group, N. Chandrasekaran: "Mae torri'r dywarchen heddiw yn nodi nid dim ond dechrau ffwrnais drydan newydd, ond cyfnod newydd o greu dur cynaliadwy ym Mhrydain.
"Ym Mhort Talbot rydym yn gosod seiliau dyfodol mwy gwyrdd a fwy glan, yn cefnogi swyddi, yn gyrru arloesedd, ac yn dangos ein hymrwymiad at arwain y diwydiant mewn ffordd gyfrifol."

Llun cyfrifiadurol o'r ffwrnais drydan
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol Undeb Community, Alasdair McDiarmid: "Dylai heddiw gynrychioli cam cyntaf yn y daith o ail adeiladu ein diwydiant dur a chreu swyddi da i'n cymunedau dur.
"Wrth symud ymlaen mae'n rhaid i ni weld mwy o fuddsoddiad i dyfu a datblygu'r busnes yma ym Mhort Talbot a thu hwnt".
Ychwanegodd y byddai'r undeb yn parhau i gynnal trafodaethau gyda llywodraethau am eu cynlluniau i gyd-fuddsoddi yn y diwydiant dur".
Yn ôl Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru: "Mae adeiladu ffwrnais newydd Port Talbot yn gwireddu addewid wnaethon ni i'r gymuned, tra bod datblygiad ynni gwynt yn y môr, y Porthladd Rhydd Celtaidd ac arian i adfer y gymuned leol yn golygu bod 'na ddyfodol disglair o blaen Port Talbot."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.