Tata: Aelodau ail undeb o blaid mynd ar streic

Tata, Port TalbotFfynhonnell y llun, PA Media
  • Cyhoeddwyd

Mae aelodau undeb gweithwyr dur Community wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol dros gynlluniau ailstrwythuro Tata Steel.

Roedd 3,000 o aelodau yn gymwys i bleidleisio, ac o'r rhai wnaeth fwrw pleidlais fe wnaeth 85% gefnogi'r penderfyniad, meddai'r undeb.

Roedd pleidlais ar ôl i Tata gyhoeddi y byddai 2,800 o swyddi yn cael eu colli wrth gau ffwrneisi chwyth Port Talbot a symud at ddulliau glanach o wneud dur.

Dywed Tata Steel eu bod yn "siomedig" gyda'r cyhoeddiad.

Mewn neges at aelodau, dywedodd Community eu bod wedi "pleidleisio i fynnu setliad gwell" gan Tata.

Roedd Tata wedi rhybuddio y byddai gweithwyr yn colli'r pecyn diswyddo "mwy" oedd ar gael petai gweithredu diwydiannol yn digwydd.

Dywedodd Alun Davies, swyddog cenedlaethol dur i Community, bod "mandad clir" er gwaethaf "bwlio a bygythiadau annerbyniol i dorri taliadau diswyddo".

Dywedodd yr undeb y byddai'n ymgynghori gydag aelodau ynghylch y camau nesaf.

Daw'r canlyniad yn dilyn pleidlais o blaid streic gan undeb Unite.

Mae undeb arall, GMB, hefyd wedi holi aelodau.

Tata, Port Talbot
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tata yn bwriadu cau'r ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot

Dywed Tata bod y model busnes presennol yn anghynaliadwy.

"Trwy ailstrwythuro ein gwaith yn y DU bydd modd i ni gynnal y busnes wrth i ni symud at dechnoleg ffwrnais arc drydanol newydd," dywedodd llefarydd.

Ychwanegodd bod hi'n fwriad i "symud ymlaen yn gyflym" gyda'u cynlluniau.

Pynciau cysylltiedig