Cerys Hafana: 'Herio' rhagdybiau pobl am y delyn

Cerys HafanaFfynhonnell y llun, Jennie Caldwell
  • Cyhoeddwyd

“Mae wastad yn neis i allu cynrychioli Cymru – dwi’n neud stwff fy hun ond mae’n neis i allu dangos yr iaith mewn cyd-destun mor rhyngwladol ac hefyd dangos y delyn deires i bobl sy’ siŵr o fod heb weld un o’r blaen.”

Mae’r delynores Cerys Hafana wedi ei dewis i fod yn un o ddau artist fydd yn cynrychioli Cymru yng ngŵyl gerddoriaeth ryngwladol Womex eleni.

Mae’r cyfansoddwr ac aml-offerynnwr o Fachynlleth yn adnabyddus am drawsnewid cerddoriaeth draddodiadol gan ddefnyddio'r delyn deires, synau unigryw a phrosesu electronig.

Mae’r ŵyl yn digwydd ym Manceinion eleni, sef man geni Cerys sy’n gwneud y digwyddiad yn arbennig iawn iddi: “Mae’n anrhydedd ac mae’n fwy sbeshal i fi blwyddyn yma achos dwi wedi cael fy ngeni ym Manceinion felly mae’n cŵl bod e yno - mae ar rhyw fath o home turf i fi.

“Dyma’r tro cyntaf i fi chwarae yn Womex. Pan oedd Womex yng Nghaerdydd dros ddegawd yn ôl roedd rhai o athrawon telyn fi’n perfformio fel rhan ohono a dwi’n cofio bod e’n beth mawr bod hynny’n digwydd.

“Felly mae’n cŵl iawn bod fi’n mynd o’r diwedd i chwarae yna. Dwi’n meddwl falle dyma’r llwyfan mwya’ rhyngwladol i fi berfformio o ran y gynulleidfa – un o’r pethau mwyaf high profile dwi wedi 'neud.”

Mae Cerys yn un o ddau artist o Gymru sy’ wedi cael eu dewis i berfformio yno gyda’r cerddor o Guinea, N’famady Kouyaté sy’n byw yng Nghaerdydd ac sy’n chwarae'r balafon yn bennaf, hefyd yno.

Ffynhonnell y llun, Jennie Caldwell
Disgrifiad o’r llun,

Cerys Hafana yn perfformio yng ngŵyl Lleisiau Eraill

Amrywiaeth yn Womex

Meddai Cerys: “Mae hynna’n grêt bod ni’n dangos faint o stwff gwahanol sy’n dod allan o Gymru. Mae’n anhygoel – mae pobl yn dod i Womex o bob cornel o’r byd felly dwi’n teimlo’n freintiedig iawn i fod yn rhan o’r casgliad yna.”

Ar ôl haf prysur yn perfformio mewn gwyliau gan gynnwys Green Man, mae Cerys yn gobeithio cyfansoddi mwy o fiwsig gwreiddiol cyn yr ŵyl ym Manceinion.

Rhyddhaodd hi ei hail albwm, Edyf, yn 2022 oedd yn cyfuno darnau o alawon salm ac emynau o archif Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda chyfansoddiadau gwreiddiol, gan gynnwys perfformiadau ar y delyn deires, bodhrán, bas dwbl, althorn, a synau wedi’u prosesu’n electronig.

Cafodd ei enwi fel un o'r Deg Albwm Gwerin Gorau gan The Guardian. Cafodd ei EP diweddaraf, The Bitter, ei rhyddhau yn Ionawr y llynedd.

Felly pa mor bwysig yw hi i Cerys i drawsnewid sut mae pobl yn meddwl am gerddoriaeth werin?

Meddai: “Dwi ddim yn meddwl bod fi’n eistedd lawr er mwyn herio unrhyw beth, dyw hynny ddim ar dop fy rhestr i.

“Dwi jest ishe creu y gerddoriaeth dwi’n creu a weithiau mae hwnna’n troi allan i fod yn heriol.

“Dwi’n meddwl bod fi yn trio herio beth mae pobl yn disgwyl i delyn swnio fel achos mae ‘na gymaint o ystrydebau sy’n dod efo’r delyn – mae pobl yn disgwyl sŵn angylaidd a hefyd sŵn Celtaidd a dwi ddim rili yn gwybod beth mae hynny fod i feddwl.

“Weithiau mae hynny’n teimlo yn minimising bron – mae pobl yn gweld beth maen nhw’n disgwyl gweld ac yn clywed beth maen nhw’n disgwyl clywed ac weithie efo disgwyliadau eitha’ cryf o beth mae telyn yn mynd i swnio fel.

“Dwi’n hoffi trio defnyddio’r delyn mewn ffordd wahanol i’r arfer a trio defnyddio hi mewn ffordd mwy rhythmig a falle mwy amherffaith felly mae hwnna yn bendant yn rhywbeth sy’n rhan o fy mhroses i.”

Ffynhonnell y llun, Heledd Wyn

Ysbrydoliaeth

Mae Cerys wedi ei ysbrydoli gan delynorion fel Catrin Finch a Llio Rhydderch: “Dwi’n meddwl fod Catrin Finch wedi gwneud gymaint i newid delwedd y delyn. Mae hi’n dod o gyd-destun clasurol sy’n wahanol i fi. Hi yw un o’r gorau yn y byd.

“O ran y byd telyn deires mae Llio Rhydderch wedi bod yn 'neud pethau mor greadigol dros y degawdau ac mae hi’n dod o linach rili cryf y delyn deires ac yn credu’n gryf fod ysgrifennu pethau newydd a darganfod llais dy hun yn rhan o’r traddodiad a’n rhan o sut mae pethau’n cael eu pasio ymlaen.

“Mae hi’n chwarae a’n cyfansoddi mewn arddull eitha’ gwahanol i fi ond mae’r creadigrwydd a’r awydd i wneud rhywbeth yn wahanol ac yn unigryw yn bendant efo hi.”

Mae’r rhagdybiau pennaf am y delyn yn dod o tu allan i Gymru, yn ôl Cerys: “Mae’n ddiddorol achos mae pobl wedi arfer efo telynau yng Nghymru ac maen nhw’n fwy parod i wrando ar gerddoriaeth a ddim yn cael eu dallu bron gan mysticalness y delyn.

“Ond dwi wedi bod yn gigio eitha’ lot tu fas i Gymru dros y flwyddyn diwethaf ac un o’r pethau mae pobl yn dweud wrtha’i yn aml ar ôl gig yw ‘you were like an angel’ – a dwi ddim yn siŵr os o’n i!

“Maen nhw jest yn gweld y delyn ac yn meddwl ‘an angel!’

“Mae gan bobl syniad am Gymru a pethau Celtaidd a chwedlonol a hudol – i fi sy’ wedi tyfu fyny yng Nghymru dwi ddim yn gweld o fel 'na achos ‘da ni ddim wedi camu allan o chwedl.”

Prif ddylanwadau

Meddai Cerys: “Mae’n newid eitha’ lot a dwi’n trio ffeindio pethau newydd efo pob project. Efo ysgrifennu i’r delyn un o’r pethau sy’n ysbrydoli fi yw trio darganfod ffyrdd newydd o chwarae hi.

“O’n i byth wedi gwneud graddau na hyfforddiant ar y delyn felly dwi’n trio gwthio fi fy hun yn lle cael athro i wneud hynna.

“Dwi hefyd yn cael fy ysbrydoli gan alawon a chaneuon gwerin sy’ bach yn rhyfedd a sy’ ddim yn ffitio’r sŵn disgwyliedig. Ar hyn o bryd dwi’n chwilio am bethau sy’ bach yn od.”

Gyda taith drwy’r Deyrnas Unedig ac i Ewrop ar y gweill ar gyfer 2025, mae Cerys hefyd wedi cael ei chomisiynu i gyfansoddi ar gyfer ffilmiau, rhywbeth mae’n gyffrous iawn amdano: “Dwi wedi bod yn awyddus iawn i drio cyfansoddi ar gyfer ffilm a bydd yn apelio at y rhan ohona’ i sy' eisiau chwarae pob offeryn.”

Pynciau cysylltiedig