Euro 2025: 6 ffaith ddiddorol Ffion Eluned
Ffion Eluned sy'n ein tywys ni trwy ei ffeithiau diddorol cyn Euro 205
- Cyhoeddwyd
Mae Euro 2025 ar fin cyrraedd o'r diwedd, ond faint ydych chi'n ei wybod am dîm Cymru - a rhai o wledydd eraill y gystadleuaeth?
Y sylwebydd a'r cefnogwr pêl-droed, Ffion Eluned, sydd wedi nodi chwe ffaith ddifyr i chi am y timau a'r chwaraewyr fydd yn cystadlu.
1 - Jess Fishlock

Does 'na ddim amheuaeth mai Jess Fishlock ydi eicon pêl-droed mwya' tîm Cymru.
Mae ganddi fwy o gapiau a goliau na neb arall yn ein hanes ni – ac mae 'di bod o gwmpas mor hir, mae 'di chwarae mewn dau draean o holl gemau swyddogol Cymru erioed.
Os ydi unrhyw un yn haeddu cyrraedd yr Ewros, Jess ydi honno.
2 - Rhian Wilkinson

Rheolwr Cymru ydi Rhian Wilkinson.
Mae Wilkinson yn hanu o Ganada, ond mae ei mam hi o Gymru, ac mi fuodd Wilkinson yn byw ym Mro Morgannwg am gyfnod pan oedd hi'n blentyn.
Pan wnaeth Cymru gyhoeddi eu carfan ar gyfer yr Ewros ar ben Yr Wyddfa, mi gerddodd Rhian i'r copa ei hun y bore hwnnw – rhywbeth oedd hi'n arfer ei 'neud efo'i thad.
3 - Carrie Jones

Un o sêr ifanc Cymru ydi Carrie Jones.
Mae'n un o dair sy'n siarad Cymraeg yn y garfan, ac mi ddechreuodd hi chwarae pêl-droed yn ei welis ar iard fferm ei nain efo'i chefndryd yn Y Drenewydd.
Mae'n amlwg bod hynna 'di helpu – hi 'naeth sgorio'r gôl hollbwysig i guro Iwerddon yn y gemau ail gyfle i gyrraedd yr Ewros.
4 - Gwlad Pwyl

Yn ogystal â Chymru, mae 'na un tîm arall hefyd wedi cyrraedd eu pencampwriaeth gyntaf, sef Gwlad Pwyl.
Fel yng Nghymru, dydi cynghrair menywod eu gwlad nhw ddim yn broffesiynol eto chwaith.
Maen nhw hefyd yn gobeithio y bydd cyrraedd Euro 2025 yn hybu datblygiad y gêm.
5 - Cwpl o gapteiniaid

Magdalena Eriksson a Pernille Harder
Dau dîm fydd yn wynebu'i gilydd yn y gemau grŵp fydd Sweden a Denmarc – gêm fydd yn ddifyr am reswm reit unigryw.
Mae capteiniaid y ddwy wlad – Magdalena Eriksson a Pernille Harder – wedi dyweddïo efo'i gilydd.
Dim ond gobeithio y byddan nhw'n dal i siarad ar ddiwedd y gêm!
6 - Y 'group of death'

Lloegr ydi'r deiliaid wedi iddyn nhw drechu'r Almaen yn ffeinal Euro 2022
Tîm mwyaf llwyddiannus y gystadleuaeth ydi'r Almaen, sydd wedi ennill yr Ewros wyth gwaith.
Ond y ddau enillydd diwethaf ydi'r Iseldiroedd a Lloegr – sydd yn anffodus, yn ein grŵp ni.
Y tîm arall yn y grŵp ydi Ffrainc, sydd 'di ennill bob gêm eleni – felly ar y nodyn yna, pob lwc i Gymru!
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl