Angharad James: O Sir Benfro i'r Swistir

Disgrifiad,

Rygbi oedd cariad cyntaf Angharad James, cyn iddi droi at bêl-droed

  • Cyhoeddwyd

Mae'r haf yma yn mynd i fod yn un arbennig iawn i Angharad James.

Mi fydd hi'n cael y fraint o fod yn gapten ar Gymru yn Euro 2025.

Ond mi fyse hi wedi gallu bod yn stori gwbl wahanol, gan mai'r bêl hirgron oedd yn denu ei sylw pan yn iau.

"O'n i'n caru rygbi. O'n i moyn chwarae rygbi i Gymru.

"Ond pan o'n i'n 12 oed doeddwn i ddim yn gallu chwarae efo bechgyn rhagor. Felly nes i droi at bêl-droed."

'Yr olaf i gael fy newis'

Yn amlwg mae hi'n hynod o falch bellach ei bod hi wedi canolbwyntio ar bêl-droed, a mae hi dal yn ddiolchgar o'r gefnogaeth gafodd hi fel disgybl ysgol.

"Mi oedd fy ysgolion - Ysgol Brynconin ac Ysgol y Preseli - yn fy nghefnogi i fel merch yn chwarae pêl-droed o'r dechrau.

"O'n i wastad gyda'r bechgyn ar y cae amser cinio ac ar ôl ysgol. Mi oedd e'n wych i fi dyfu lan mewn sefyllfa fel yna.

"O'n i yr olaf i gael fy newis ar gyfer tîm pan nes i ddechrau chwarae pêl-droed, ond ar ôl yr ymarfer cyntaf o'n i byth yr un olaf wedyn!"

Angharad James yn chwarae i glwb Bristol Academy yn erbyn ArsenalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Angharad yn chwarae i glwb Bristol Academy

Daeth Angharad i sylw clybiau proffesiynol o oedran ifanc, ac fe ymunodd â Manorbier Ladies yn Sir Benfro.

Yn fuan wedyn fe aeth i Arsenal, cyn mynd yn ei blaen i chwarae i glybiau fel Bristol Academy, Everton, Reading a Tottenham Hotspur.

Y dyddiau yma mae hi wedi crwydro i ochr arall y byd, ac mae hi'n chwarae i Seattle Reign ym mhrif adran yr Unol Daleithiau, sef yr NWSL.

Ar lefel ryngwladol, hi ydi'r chwaraewr ieuengaf erioed i gyrraedd 100 o gapiau dros Gymru - mi oedd hi'n 28 oed yn cyrraedd y garreg filltir arbennig yma.

'Mae hi wedi cyflawni'r cyfan'

Ac mae hi'n cydnabod na fyse hi wedi cael y llwyddiant heb gymorth ei theulu, ac un athro yn benodol.

"Nath Mam a Dad mynd a fi lan a lawr y wlad fel fy mod yn gallu chwarae dros Gymru. Mi oedden nhw'n deithiau hir o Sir Benfro," meddai.

"Mike Davies oedd fy mhrifathro yn Ysgol y Preseli - o'n i mor nerfus yn mynd mewn i'w swyddfa a gofyn am ddydd bant er mwyn gallu mynd i ymarfer yng Nghaerdydd.

"Oedd e'n dweud 'cer amdani'. Mi oedd e'n fy nghefnogi i drwy'r amser.

"Heb brifathro fel Mike Davies, a heb fy nheulu fyswn i byth yn y sefyllfa yma.

"Dwi moyn rhoi rhywbeth yn ôl iddyn nhw, ac y ffaith ein bod ni yn yr Ewros nawr - maen nhw'n gallu joio eu hunain. Dwi 'di gweithio mor galed i fod yn y sefyllfa yma."

Angharad James yn dathlu gyda Sophie Ingle ar achlysur ei chanfed cap yn erbyn Slofenia yn 2022Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Angharad yn dathlu gyda Sophie Ingle ar achlysur ei 100fed cap yn 2022

Felly beth yw atgofion Mike Davies o Angharad tra'n Ysgol y Preseli?

Yn brifathro arni ar y pryd, mae Mike bellach mor falch o'i llwyddiant: "Mi oedd popeth yn cylchdroi o amgylch chwaraeon.

"Pêl-droed, criced, rygbi - o'n i'n gallu gweld yn syth fod Angharad yn mynd i fod yn seren.

Angharad James yn dathlu cyrraedd Euro 2025 gyda Rachel Rowe wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn NulynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Angharad yn dathlu cyrraedd Euro 2025 gyda Rachel Rowe

"Fe gafodd hi ei hadnabod yn ifanc iawn gan ddewiswyr Cymru. Mi oedd 'na gais yn dod gan ei rhieni'n gyson iawn yn gofyn a fydde Angharad yn gallu gadael yr ysgol yn gynnar er mwyn mynychu hyfforddiant.

"Fel ysgol mi oedden ni bob tro yn cefnogi y disgyblion dawnus yma.

"Dwi'n cofio cael sgwrs efo hi ym mlwyddyn 11 - ac ei chynllun hi oedd chwarae pêl-droed yn broffesiynol, chwarae i Arsenal a dros Gymru.

"Mi oedd hi hefyd ishe chwarae yn yr Unol Daleithiau - myn yffach i mae hi wedi cyflawni'r cyfan.

"Mae hi wedi gweithio'n eithriadol o galed, a dwi mor falch ei bod hi wedi cyrraedd y brig yn ei champ hi."

Disgrifiad,

Tîm Cymru ym Mhortiwgal yn paratoi ar gyfer Euro 2025

Mi fydd y sylw rŵan yn troi tua'r Swistir, ac Euro 2025.

Mae'n deg i ddweud fod Cymru wedi cael grŵp heriol - Yr Iseldrioedd, Ffrainc a Lloegr.

Ond tydi Angharad a'i chyd-chwaraewyr ddim yn poeni o gwbl am hynny, a maen nhw'n edrych ymlaen at yr her o wynebu rhai o dimau gorau'r byd.

"Dyma sialens i ni. Dwi'n meddwl fod y timau eraill yn mynd i edrych arno ni a meddwl y bydden nhw'n cael gêm hawdd.

"Mi fydd hynny'n fistêc os y bydden nhw'n gwneud hynny.

"Mae chwarae yn Adran A Cynghrair y Cenhedloedd wedi ein paratoi ni ar gyfer yr Ewros.

"Mae Swden, Denmarc a'r Eidal yn yr 20 safle uchaf ar rester detholion y byd.

"Ni wedi cael dwy gêm gyfartal yn erbyn Sweden, a ni'n hyderus iawn yn mynd mewn i'r twrnament.

"Does dim byd ganddo ni i'w golli."