Mam bachgen fu farw wedi mynnu y byddai 'byth yn lladd fy mab'

Ethan IvesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ethan Ives-Griffiths yn ddwy oed ar ôl cwympo yng nghartref ei nain a'i daid

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai

Fe ddywedodd mam plentyn bach, yr honnwyd iddo gael ei lofruddio gan ei nain a'i daid, wrth yr heddlu y byddai hi "byth yn lladd fy mab", clywodd llys.

Bu farw Ethan Ives-Griffiths, oedd yn ddwy oed, ym mis Awst 2021 ar ôl cwympo yng nghartref ei nain a'i daid.

Mae Michael Ives, 47, a Kerry Ives, 46 - y ddau o Garden City yn Sir y Fflint - yn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth, achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb i blentyn.

Mae mam Ethan, Shannon Ives, 28 oed o'r Wyddgrug, yn gwadu cyhuddiadau o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb i blentyn.

Fe gafodd darnau o gyfweliad Shannon Ives gyda'r heddlu ar 2 Medi 2021 eu darllen i'r rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mawrth.

Fe ddywedodd wrth y swyddogion: "Fyddwn i byth yn lladd fy mhlentyn. Mae'n rhywbeth fyddwn i byth yn ei wneud."

Ychwanegodd fod ei mam a'i thad, Kerry a Michael Ives, yn ymddwyn mewn ffordd "reolaethol", gan ychwanegu: "Fy mam a fy nhad oedd yr unig rai oedd lawr grisiau gydag ef pan ddigwyddodd hyn."

Yn flaenorol mae'r rheithgor wedi clywed bod Ethan a'i fam yn byw yng nghartref Kerry a Michael Ives.

Fe wnaeth Ethan lewygu ar 14 Awst 2021, tra bod ei fam Shannon i fyny'r grisiau, a bu farw'n ddiweddarach.

Cartref nain a taid Ethan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ethan Ives Griffiths ei ddarganfod wedi ei anafu yng nghartref ei nain a'i daid yn 2021

Mae'r rheithgor hefyd wedi cael gwybod bod Ethan wedi disgyn yn anymwybodol y diwrnod cynt, ar 13 Awst.

Wrth gyfeirio at yr achlysur hwnnw, dywedodd Shannon Ives ei bod wedi bod i fyny'r grisiau pan alwodd ei thad: "Shan, Ethan ydy o, tyrd i lawr yn gyflym."

Dywedodd wrth yr heddlu ei bod wedi mynd lawr grisiau ac "roedd o'n gorwedd ar y llawr".

"Es i ato ac edrych am guriad calon... roedd fel pe bai allan o wynt... roedd ei lygaid yn rholio yn ôl," ychwanegodd.

Dywedodd ei bod wedi sylwi pa mor denau oedd o, ac na allai ddeall sut roedd hynny wedi digwydd gan ei fod wedi bod "ychydig yn dew" ar un adeg.

Dywedodd ei bod wedi chwistrellu dŵr ar wyneb Ethan ac fe ddaeth yn ôl at ei hun.

"Yr eiliad edrychodd at fy nhad, dechreuodd o grio," meddai.

'Teimlo fel sgerbwd'

Clywodd y rheithgor fod Shannon Ives wedi dweud wrth yr heddlu mewn cyfweliad fod Ethan mor denau nes y gallai deimlo ei esgyrn.

Wrth ddisgrifio sut y gwnaeth hi gymryd golwg iawn ar ei mab ar ôl iddo gwympo ar 13 Awst, dywedodd: "Roedd yn teimlo fel pe bai'n sgerbwd."

Sylwodd hefyd ar farciau ar gorff ei mab, meddai.

"Roedd yna ychydig o gleisiau ar ei gefn... ar ei ochr dde, ychydig uwchben ei glun."

Sylwodd hefyd ar gleisiau ar ei goes chwith, meddai.

"Ro'n i wedi synnu, ro'n i'n ofni bod rhywun wedi bod yn ei gam-drin," pan nad oedd hi yno, meddai.

Dywedodd ei bod wedi gofyn i'w rhieni "o ble maen nhw i gyd yn dod?"

"Y cyfan oedd ganddyn nhw i'w ddweud oedd 'bob tro mae'n sefyll i fyny, mae'n cwympo'," ac yn dod allan mewn cleisiau, meddai.

'Plentyn hyfryd, bywiog'

Yn gynharach, clywodd y rheithgor fwy o fanylion am gyfweliadau'r heddlu gyda Kerry Ives.

Fe ddywedodd hi fod Ethan wedi symud i mewn gyda hi a'i gŵr yn ystod haf 2021, er mwyn helpu ei fam Shannon.

"Fe gymeron ni Ethan i roi seibiant iddi," meddai.

Dywedodd fod Ethan yn "blentyn hyfryd, bywiog... good as gold."

'Wedi dymuno fi'n farw sawl gwaith'

Ond, pan symudodd Shannon i mewn yn ddiweddarach, dywedodd bod Ethan wedi newid, fel pe bai wedi cael "trawsblaniad personoliaeth".

"Byddai hi'n colli ei thymer gydag ef," meddai, gan ychwanegu y byddai ei merch yn taro Ethan "yn ei ben".

Dywedodd Kerry Ives nad oedd hi erioed wedi sylwi ar unrhyw broblemau gydag Ethan, ond dywedodd yn y cyfnod cyn iddo lewygu, ei fod wedi mynd yn denau a bod modd "gweld ei asennau".

Dywedodd ei bod yn poeni bod Ethan yn anemig, a'i bod wedi cynghori ei merch i fynd ag ef at y meddyg, ond na fyddai'n gwrando.

Dywedodd hefyd y byddai ei merch yn canslo ymweliadau gan weithwyr cymdeithasol yn rheolaidd.

Clywodd y llys yn ogystal bod Kerry Ives wedi wrth yr heddlu bod ei merch "wedi dymuno fi'n farw sawl gwaith".

Mae'r achos yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig