Nain sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio ei hŵyr 'erioed wedi ei daro'

Mae Kerry Ives, 46, a Michael Ives, 47, wedi'u cyhuddo o lofruddio eu hŵyr Ethan
- Cyhoeddwyd
Mae nain sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio ei hŵyr wedi dweud wrth lys na wnaeth hi erioed daro'r bachgen bach.
Mae Kerry Ives wedi ei chyhuddo ynghyd â'i gŵr, Michael Ives, o ladd eu hŵyr dwy oed Ethan Ives yn eu cartref yn Sir y Fflint yn 2021.
Mae eu merch Shannon Ives hefyd wedi ei chyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb i berson o dan 16 oed.
Wrth gael ei holi gan ei bargyfreithiwr, Owen Edwards KC, fe ddisgrifiodd Kerry Ives sut yr oedd hi a'i gŵr yn eistedd ar y soffa yn gwylio teledu fin nos yn eu cartref yn Garden City ar 14 Awst 2021 ac Ethan yn eistedd ar y llawr.
Fe ddisgrifiodd Ms Ives sut y gwelodd Michael Ives yn dal Ethan wrth i'r bachgen gwympo ar ôl i'w gŵr ei godi i sefyll ar ei draed.
Fe geisiodd ei godi eto, meddai Ms Ives, ond dechreuodd y plentyn ddisgyn ac felly fe roddodd Michael Ives ef i orwedd ar lawr.
Fe ddywedodd Ms Ives ei bod hi wedi "mynd mewn i banig".
"Do'n i ddim yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen," meddai.

Mae Kerry Ives, 46, a Michael Ives, 47, wedi'u cyhuddo o lofruddio eu hŵyr Ethan
Cafodd Ethan ei gymryd i Ysbyty Plant Alder Hey ar Lannau Mersi ble bu farw o anaf difrifol i'w ymennydd.
Roedd ganddo 40 o anafiadau ar du allan ei gorff yn ogystal ag anafiadau mewnol i'w fol.
Fe ddywedodd Ms Ives nad oedd hi'n gwybod am yr anafiadau hynny.
Gofynnwyd iddi a wnaeth hi ymosod, gweld ymosodiad, neu helpu neu annog ymosodiad, ar Ethan ar 14 Awst neu unrhyw ddiwrnod arall.
Ei hateb bob tro oedd "na".
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd17 Mehefin
- Cyhoeddwyd23 Mehefin
Cafodd Kerry Ives hefyd ei holi gan Gordon Cole KC, bargyfreithiwr ei merch Shannon Ives, mam Ethan.
Fe nododd Mr Cole fod y nain wedi dweud mewn cyfweliadau gyda'r heddlu ac yn y llys nad oedd hi wedi gweld Michael Ives yn cario Ethan gerfydd un fraich.
Ond wrth chwarae fideo i'r llys o gamera cylch cyfyng o ardd gefn y cartref, fe ddywedodd y bargyfreithiwr fod Ms Ives i'w gweld yn edrych ar ei gŵr yn cario Ethan "fel doli glwt".
"Pan ddwedoch chi wrth y rheithgor na welsoch eich gŵr yn cario eich ŵyr fel yna, roeddech chi'n dweud celwydd, on'd oeddech chi?" dywedodd Mr Cole.
"Ro'n i'n syllu i wagle, ar ddim byd," atebodd Mrs Ives.
"Ydych chi'n ceisio gwarchod Michael Ives?" gofynnodd Mr Cole.
"Dwi ddim," atebodd Kerry Ives.
"Pam eich bod chi wedi dweud celwydd wrth y rheithgor?" gofynnodd Mr Cole.
"Alla' i ddim ateb hynny," oedd ateb Mrs Ives.
Gofynnwyd i Kerry Ives a oedd hi'n derbyn bod rhywbeth wedi digwydd i Ethan Ives cyn iddo gwympo'n ddiymadferth yn yr ystafell fyw. Cytunodd Ms Ives.
"Dywedwch wrth y rheithgor beth ddigwyddodd i Ethan, Ms Ives," dywedodd Mr Cole.
Atebodd Ms Ives: "Wnes i a Michael ddim byd."
'Dwi ddim yn beio unrhyw un'
Cafodd Ms Ives ei holi wedyn gan Caroline Rees KC ar ran yr erlyniad.
Roedd y dystiolaeth feddygol yn dangos bod Ethan wedi marw o anaf i'w ymennydd gafodd ei achosi ychydig funudau cyn iddo gwympo'n ddiymadferth, a bod yr anaf hwnnw wedi ei achosi'n fwriadol, dywedodd Ms Rees.
Byddai gweld yr anaf yna'n digwydd wedi bod yn "arswydus" i unrhyw un, meddai'r bargyfreithiwr. Cytunodd Mrs Ives.
"Fe ddefnyddiodd un o'r oedolion yn yr ystafell rym sylweddol i achosi'r anaf i Ethan," meddai Ms Rees, "naddo" atebodd Mrs Ives.
"Pam fod wedi Ethan wedi ei gymryd i'r ysbyty?" gofynnodd Ms Rees. "Alla i ddim egluro hynny," meddai Mrs Ives.
Gofynnodd Ms Rees i Kerry Ives a oedd hi'n beio ei merch Shannon am farwolaeth Ethan.
"Dwi ddim yn beio unrhyw un," meddai Mrs Ives.

Cafodd Ethan Ives Griffiths ei ddarganfod wedi ei anafu yng nghartref ei nain a'i daid ar Lannau Dyfrdwy yn 2021
Gofynnwyd i'r nain a oedd hi'n ymwybodol bod Ethan wedi colli pwysau, yn sychedig trwy'r amser, ac ag anafiadau dros ei gorff.
"Wnaethoch chi sylwi ar unrhyw beth oedd yn mynd ymlaen yn eich cartref?" gofynnodd Ms Rees.
"Wnes i ddim cymryd unrhyw sylw," atebodd Ms Ives, "ro'n i mewn poen," meddai'r nain sy'n byw gyda fibromyalgia.
"Neu ydych chi'n fwriadol wedi penderfynu peidio dweud beth aeth ymlaen o dan eich to?" gofynnodd Ms Rees eto.
"Wnaeth Michael a fi ddim byd." atebodd Mrs Ives.
"'Dych chi wedi penderfynu peidio dweud wrth y rheithgor beth ddigwyddodd yn eich cartref," meddai Ms Rees. "Naddo," atebodd Kerry Ives.
Mae Michael Ives, Kerry Ives a Shannon Ives yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn eu herbyn ac mae'r achos yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.