Taid yn cyfaddef bod yn greulon ond yn gwadu llofruddio ei ŵyr dwy oed

Ethan IvesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ethan Ives-Griffiths yn ddwy oed ar 16 Awst 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio ei ŵyr dwy oed wedi cyfaddef bod yn greulon ac esgeulus, gan ddweud wrth y llys ei fod "wedi ffieiddio" yno'i hun.

Ond mae Michael Ives, 47, yn gwadu ei fod ef a'i wraig Kerry Ives, 46, wedi achosi anaf difrifol i ben Ethan Ives-Griffiths cyn iddo ddisgyn yn eu cartref yn Sir y Fflint ar 14 Awst 2021.

Bu farw Ethan - a oedd wedi bod yn aros yn nhŷ ei nain a'i daid gyda'i fam Shannon Ives, 28 - yn yr ysbyty ddau ddiwrnod yn ddiweddarach ar ôl dioddef anafiadau trychinebus i'w ben, clywodd rheithgor.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mawrth, dywedodd Ives ei fod yn teimlo'n "sâl" am adael i Ethan ddirywio tra roedd yn byw gyda nhw.

Kerry a Michael Ives
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kerry Ives, 46, a Michael Ives, 47, wedi'u cyhuddo o lofruddio eu hŵyr Ethan

Wrth gael ei groesholi gan yr erlynydd, Caroline Rees, derbyniodd Ives ei fod wedi esgeuluso Ethan a bod y ffordd ei fod wedi ei gario wrth ei fraich yn greulon - ond gwadodd ei gam-drin mewn ffyrdd eraill.

Dywedodd Ms Rees: "Roeddech chi'n greulon ac yn esgeuluso Ethan?"

Atebodd Ives: "Oeddwn."

Gofynnwyd i Michael Ives am ei iechyd meddwl yn ystod 2021. Dywedodd ei fod yn dioddef o "hwyliau isel".

Gofynnodd Ms Rees: "A wnaethoch chi dargedu Ethan, gan gymryd allan yr hyn roeddech chi'n delio ag ef ar y bachgen bach yna?" "Na," atebodd.

Cafodd fideo teledu cylch cyfyng o Michael Ives ac Ethan yng ngardd gefn y cartref ar 4 Awst 2021 ei ailchwarae.

Ar ôl i Michael Ives wneud ystumiau gyda dwrn caeedig at un plentyn, mae'r plentyn hwnnw'n taro Ethan sawl gwaith yn ei ben.

Yna cafodd Ethan ei godi a'i gario gan Michael Ives wrth ei fraich fel pe bai, yn ôl bargyfreithiwr yr erlyniad, yn "fag o sbwriel".

Gofynnwyd i Ives sut roedd yn teimlo am ei ymddygiad.

Atebodd: "Cywilydd."

Ychwanegodd: "Rwyf wedi ffieiddio ynof fy hun."

'Yn beryglus o denau'

Pan ofynnwyd iddo pryd y sylwodd fod Ethan yn "beryglus o denau", dywedodd Ives ei fod wedi sôn am hynny wrth Shannon Ives ychydig wythnosau cyn marwolaeth y bachgen.

Dywedodd wrth y llys: "Roedd hi'n mynd i geisio cael apwyntiad meddyg iddo."

Dywedodd nad oedd wedi sylwi bod Ethan mor "ddadhydredig" fel bod arbenigwyr meddygol wedi dweud y byddai wedi marw mewn ychydig o amser hyd yn oed pe na bai wedi dioddef anafiadau i'w ymennydd.

Dywedodd ei fod wedi cael "sioc" o glywed bod 40 o gleisiau neu farciau coch wedi'u canfod ar Ethan ar ôl ei farwolaeth.

Ond dywedodd wrth y llys ei fod wedi sylwi ar gleisiau ar fochau Ethan a oedd yn ymddangos fel pe bai rhywun wedi gafael yn ei wyneb ac fe soniodd am hynny wrth ei ferch.

Dywedodd ei fod wedi gofyn i Shannon Ives o ble ddaeth y cleisiau, ond dywedodd nad oedd hi'n gwybod.

Dywedodd Ms Rees: "A wnaethoch chi achosi'r cleisiau hynny?"

Atebodd: "Na."

Dywedodd nad oedd yn disgyblu Ethan gan ei orfodi i roi ei ddwylo ar ei ben, er iddo ddweud wrth yr heddlu mewn cyfweliadau ei fod wedi gwneud hynny tua phedwar gwaith.

Gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth

Dywedodd Ms Rees: "Ydych chi'n cuddio'r ffaith eich bod wedi dweud wrth Ethan i roi ei ddwylo ar ei ben gan eich bod chi'n gwybod bod hynny'n rhan o'ch ffordd greulon o ddisgyblu'r bachgen dwy oed?"

Atebodd Ives: "Nac ydw."

Mae Ives wedi dweud wrth y llys ei fod yn yr ystafell fyw gydag Ethan ar 14 Awst 2021 pan drodd ei goesau'n "jeli".

Dywedodd Ms Rees fod tystiolaeth feddygol yn dangos bod rhywbeth "erchyll" wedi digwydd i'r plentyn bach ychydig cyn iddo gwympo.

Gofynnodd: "Pa beth erchyll ddigwyddodd i Ethan?"

Atebodd: "Dim byd."

Mae Michael a Kerry Ives yn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth, achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb i berson dan 16 oed.

Mae Shannon Ives, o Nant Garmon, yr Wyddgrug, yn gwadu achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn a chreulondeb i berson dan 16 oed.

Mae'r achos yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig