Oedd Sant Padrig yn siarad Cymraeg?

Sant PadrigFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Ar 17 Mawrth mae Gwyddelod ar draws y byd yn dathlu dydd Sant Padrig, nawddsant Iwerddon.

Ond nid Gwyddel oedd Padrig; mae tystiolaeth ei fod yn Gymro, a'i fod hyd yn oed yn siarad Cymraeg...

Cafodd ei eni yn tua 387 OC mewn lle o'r enw Bannavem Taburniae, ac mae haneswyr yn tybio mai'r lle yma yw Banwen, Castell-nedd Port Talbot.

"Ychydig iawn rydyn ni'n ei wybod am saint y cyfnod yna," eglurodd Dr Simon Rodway ar BBC Radio Cymru, "ond yn achos Padrig, ni'n ffodus iawn bod gynnon ni gwpl o destunau ganddo fe ei hunain.

"Yn Lladin oedd e'n ysgrifennu. Mae gyda ni ei confesio; mae e'n rhoi rhywfaint o wybodaeth amdano fe. Ni'n gwybod ei fod e'n dod o 'Brydain'."

arwydd Banwen
Disgrifiad o’r llun,

Mae pentref Banwen yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi hawlio Sant Padrig

Wrth gwrs, fel mae Dr Rodway yn ei egluro, doedd 'Cymru' ddim yn bodoli yn yr un ffordd ag y mae heddiw.

"Ar un adeg, roedd mamiaith yr iaith Gymraeg – Brythoneg – yn cael ei siarad dros gyfran helaeth o'r ynys [Prydain]. Roedd y Rhufeiniaid wedi cyrraedd yr ynys, ac wedi dod â Lladin gyda nhw, ond bod yr iaith Frythoneg wedi aros yn y gorllewin ac yn y gogledd.

"Wedyn mi ddaeth y Saeson o'r cyfandir, yn gynnar yn y 5ed ganrif, ac roedd Saesneg – neu iaith o'r teulu Germanaidd – yn cael ei siarad."

Dechreuodd siaradwyr Brythoneg alw eu hunain yn 'Frythoniaid', tra fod y Saeson yn eu galw yn Wēalas, a ddaeth yn ddiweddarach yn Welsh.

"O dipyn i beth, daeth yr arfer ymhlith y siaradwyr Brythoneg, o alw eu hunain yn Gymry, ond nid jyst yn y Gymru ry'n ni'n ei hadnabod heddiw, ond hefyd yn y gogledd; mae'r gair Cumbria yng ngogledd Lloegr yn dod o'r un gwreiddyn â'r gair Cymru. Ystyr 'Cymru' yw pobl o'r un fro – mae'r gair 'bro' yn Cymro."

"Mae'n debyg ei fod wedi cael profiad crefyddol yn Iwerddon, a'i fod wedi teimlo galwad i fynd yn ôl i genhadu"

Dr Simon Rodway o Brifysgol Aberystwyth yn siarad ar Raglen Aled Hughes

Felly, ag yntau yn dod o 'Brydain', ac yn siarad yr iaith frodorol, sut oedd o wedi cyrraedd Iwerddon yn y lle cyntaf, a dod yn nawddsant y wlad?

Doedd ganddo ddim dewis, yn ôl Dr Rodway...

"Cafodd e'i gipio gan Wyddelod a'i ddwyn i Iwerddon yn gaethwas. Roedd e yno yn cadw moch. Rhywsut wnaeth e ddianc a dod yn ôl i Brydain.

"Er ei fod yn Gristion yn barod, mae'n debyg ei fod wedi cael rhyw fath o brofiad crefyddol draw yn Iwerddon, a'i fod wedi teimlo galwad i fynd yn ôl i genhadu ac mi wnaeth hynny, yn effeithiol iawn."

Padrig oedd esgob cyntaf Iwerddon, ac heddiw mae'n cael ei gofio bob blwyddyn ar 17 Mawrth gan mai dyna ddyddiad honedig ei farwolaeth. Cafodd ddylanwad enfawr ar y wlad a thu hwnt.

"O fewn cwpl o ganrifoedd, Cristnogaeth oedd yr unig grefydd yn Iwerddon, ac o fewn dim o dro roedd Gwyddelod yn cenhadu. Roedd Cristnogaeth Iwerddon wedi dod yn rym achos y Gwyddelod oedd yn gyfrifol am droi Pictiaid gogledd yr Alban yn Gristnogion a hefyd Saeson gogledd Lloegr."

Sant PadrigFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Padrig yn deithio ar draws Iwerddon er mwyn cenhadu am Gristnogaeth yno

Fodd bynnag, rhaid cofio fod hen destunau a llawysgrifau yn medru bod yn annibynadwy ac anghyson, fel y rhybuddia Dr Rodway.

"Ni'n sôn am y 5ed ganrif OC, amser maith yn ôl. Does yna ddim lot o lawysgrifau wedi goroesi o'r cyfnod yma o Brydain nac Iwerddon.

"Ar y cyfan, ni'n dibynnu ar destunau sy'n dyddio o gyfnod diweddarach. Roedd testunau am saint yn yr Oesoedd Canol yn annibynadwy iawn o ran gwerth hanesyddol; roedden nhw llawn gwyrthiau a straeon hollol anghredadwy, a phropaganda eglwysi oedd yn eu defnyddio i drial hybu eu hachos nhw, yn erbyn eglwysi eraill."

Felly, gan fod lle i gwestiynu'r dystiolaeth sydd ar gael, allwn ni fod yn hollol sicr mai Cymro oedd Padrig, a'i fod yn siarad Cymraeg yn rhugl? Wel na allwn... ond oes wir ots?!

Sláinte!

Pynciau cysylltiedig