Mari George yn ennill Llyfr y Flwyddyn 2024
- Cyhoeddwyd
Mari George sydd wedi cipio gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024 am ei nofel 'Sut i Ddofi Corryn'.
Roedd y beirniaid “mewn cytundeb llwyr ar yr enillydd,” gan ei disgrifio fel nofel “hudolus,” “ryfeddol” ac “awthentig”.
Gruffudd Owen enillodd y wobr farddoniaeth am ei gyfrol 'Mymryn Rhyddid', wrth i Iwan Rhys gipio Gwobr Barn y Bobl Golwg360 am ei waith 'Trothwy'.
Prif enillydd y wobr Saesneg oedd Tom Bullough am ei lyfr 'Sarn Helen'.
Mae Manon Steffan Ros, Caryl Lewis a Llwyd Owen ymhlith enillwyr blaenorol Llyfr y Flwyddyn.
- Cyhoeddwyd12 Mai
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2022
Bardd, awdur a chyfieithydd sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw Mari George.
'Sut i Ddofi Corryn' yw ei nofel gyntaf i oedolion, a hithau'n adnabyddus fel bardd ac am ei haddasiadau o lyfrau i blant.
Mae’r nofel yn olrhain taith Muriel o Gymru i Guatemala ar hynt cynhwysyn allai ddod â gwellhad i’w gŵr Ken, wedi iddo gael gwybod ei fod yn marw o ganser.
Mae hi wedi cyhoeddi dwy gyfrol o gerddi - 'Y Nos yn Dal yn fy Ngwallt' (2004) a 'Siarad Siafins' (2014) - ac mae hi'n aelod o dîm Talwrn Aberhafren.
Enillwyr y categorïau Cymraeg
Gwobr Ffuglen: Sut i Ddofi Corryn, Mari George (Sebra)
Y Wobr Farddoniaeth: Mymryn Rhyddid, Gruffudd Owen (Barddas)
Gwobr Ffeithiol Greadigol: Cranogwen, Jane Aaron (Gwasg Prifysgol Cymru)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy: Jac a’r Angel, Daf James (Y Lolfa)
Gwobr Barn y Bobl Golwg360: Trothwy, Iwan Rhys (Y Lolfa)
Cafodd yr enillwyr eu gwobrwyo mewn seremoni yn Galeri Caernarfon nos Iau.
Mae gwobr o £1,000 i bob enillydd, a £3,000 yn ychwanegol i enillwyr y prif wobrau Cymraeg a Saesneg.
'Cyffwrdd yr enaid ac aros yn y cof'
Y beirniaid eleni oedd Nici Beech, Hanna Jarman, Tudur Dylan Jones, a Rhiannon Marks.
"Mae'r llyfr yma wedi ein diddori, wedi ein swyno ac wedi ein cyflwyno i arddull newydd yn y Gymraeg," meddai Nici Beech am nofel fuddugol Mari George.
"O’r cychwyn cyntaf mae’r awdur dawnus wedi cyfleu darn rhyfeddol ac awthentig sydd yn eich dal o fewn ei byd.
"Mae’n llyfr hudolus, sy’n darllen mor rhwydd ac mae cynildeb a dyfnder arbennig iddo sy’n cyffwrdd yr enaid ac yn aros yn y cof.“
Wrth drafod cyfrol y bardd buddugol, Gruffudd Owen, dywed Tudur Dylan Jones ei bod yn "gwneud i chi grio a chwerthin o fewn y ddau glawr".
"Mae yna ddyfyniadau o fewn y cerddi sy'n mynd â'ch gwynt chi.
"Pendilio rhwng dau le y mae Gruffudd yn y gyfrol hon, rhwng Caerdydd ei gartref newydd, a Phen Llŷn ei febyd, ond lle bynnag mae o, mae'i gariad at ei deulu yn disgleirio yn y llon a'r lleddf."
Enillwyr y categorïau Saesneg
Gwobr Ffeithiol Greadigol a Prif Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2024: Sarn Helen, Tom Bullough (Granta Publications)
Y Wobr Farddoniaeth: Cowboy, Kandace Siobhan Walker (Cheerio Publishing)
Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies: The Unbroken Beauty of Rosalind Bone, Alex McCarthy (Doubleday)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy: Skrimsli, Nicola Davies (Firefly Press)
Gwobr People’s Choice nation.cymru: In Orbit, Glyn Edwards (Seren)
Beirniaid y categoriau Saesneg oedd Dylan Moore, Patrice Lawrence, Rachel Trezise, a Pascale Petit.
'Aros yng nghilfachau y cof'
Cafodd gwobr Llyfr y Flwyddyn ei chreu yn y 1960au, gyda Llenyddiaeth Cymru'n ei threfnu ers 2004.
"Mae’n destun bleser gennym i weld yr amrywiaeth o awduron sy’n ennill y gwobrau," meddai Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru.
"Un thema gyffredin eleni yw cymaint o awduron profiadol sydd yn arbrofi mewn ffurfiau newydd. Nid ar chwarae bach mae gwneud y naid hwnnw, ond mae Mari wedi dangos sut y gall un ffurf llenyddol gyfoethogi un arall.
"Mae ei dawn telynegol fel bardd yn llifo drwy 'Sut i Ddofi Corryn', a’i llinynnau storïol yn creu sidanwe gain.
"Mae’r nofel brydferth, gynnil hon yn un sydd am aros yng nghilfachau y cof."