Yw defnydd o'r Gymraeg mewn llenyddiaeth ffantasi yn beth da?
- Cyhoeddwyd
Mae hanes cyfoethog a dylanwad chwedlau Cymru i'w weld ar lenyddiaeth ffantasi o bedwar ban byd ers degawdau.
Y gyfres ffantasi 'A Court of Thorn and Roses' - sydd wedi llwyddo i gipio sylw miloedd o ddefnyddwyr ar TikTok - yw'r diweddaraf i ddefnyddio elfennau o'r iaith Gymraeg.
Yn y gyfres gan yr awdures Americanaidd Sarah J Mass, mae gan y cymeriadau enwau Cymreig fel Rhys, Gwyneth ac Alis.
Ond er bod diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg i'w gweld mewn cyfresi rhyngwladol, mae rhai yn pryderu y gallai camddefnyddio'r iaith gael effaith "niweidiol".
'Defnyddio ein hanes ni'
"Dylanwad Tolkien" yw'r term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio sut mae Cymru wedi parhau i gael effaith ar lenyddiaeth hen a newydd.
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Bethan Hindmarch, awdures a blogiwr o Gydweli, fod rhai llyfrau yn defnyddio'r iaith ond "ddim yn y ffordd gywir".
"Ambell waith ma' awduron yn clywed am ein chwedlau, sy'n swnio fel ffantasi a ma' nhw moyn ysgrifennu am y rheswm yna ac nid achos eu bod nhw eisiau rhoi platfform i'r straeon Cymraeg."
Aeth ymlaen i ddweud ei bod yn "beth da bod mwy o bobl yn dod i wybod siwd gymaint o chwedlau Cymreig, ond rwy'n ffeindio fe'n eitha' galed pan mae pobl sydd ddim yn dod o Gymru yn defnyddio'n hanes ni ond ddim rili yn deall y straeon ac yn cyfieithu termau yn anghywir".
Yn ôl Ms Hindmarch, mae 'na awydd rhyngwladol am ddarnau o waith sydd wedi cael eu hysbrydoli gan Gymru, gyda llyfrau fel Morgan is My Name gan Sophie Keetch, yn seiliedig ar chwedl Arthuraidd, yn gwerthu'n dda iawn.
"Mae pobl wrth eu boddau gyda llenyddiaeth ffantasi gyda chymeriadau cryf sydd wedi ei wneud yn iawn," meddai.
"Mae pawb wedi clywed am y Mabinogi. Ma' rhywbeth mor hudolus am chwedlau Cymreig ac ma' ffantasi yn enfawr ar hyn o bryd."
Dywedodd fod pobl "eisiau mynd i ryw fyd arall" wrth ddarllen ac mae chwedlau Cymru "yn gwneud hynny i bobl yn barod".
"Felly, pan mae pobl yn ysgrifennu rhywbeth sydd wedi'i ysbrydoli [gan chwedlau], mae diddordeb mawr yn hynny."
Cysylltu gyda'r gorffennol
Treuliodd yr Athro Dimitra Fimi 20 mlynedd yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.
Bellach yn ddarlithydd llenyddiaeth plant ym Mhrifysgol Glasgow, mae hi'n credu bod y genre yn "dda am gysylltu ni gyda'r gorffennol mewn ffyrdd creadigol".
"Mae ffantasi wedi – yn enwedig yn y canrifoedd diwethaf – bod yn chwarae gyda chwedlau.
"Mae gan Gymru ddiwylliant cyfoethog iawn o ran hynny ac ma' 'na gadwyn o awduron ffantasi wedi chwarae gyda'r deunyddiau yna."
Cafodd yr awdur J.R.R Tolkien, sy'n adnabyddus am ysgrifennu The Hobbit a Lord of the Rings, ei ddylanwadu gan Gymru ac mae un o'r prif ieithoedd wedi ei selio ar ffonoleg a gramadeg y Gymraeg, meddai.
"Yr hyn rydych chi'n ei gael yw cenhedlaeth o awduron ar ôl Toklein sydd eisiau ysgrifennu ffantasi, ond dydyn nhw ddim am gopïo beth mae Tolkien wedi gwneud."
Dywedodd yr Athro Fimi mai'r man cychwyn naturiol i lawer o awduron oedd eu gwreiddiau eu hunain, sy'n Gymraeg yn aml gan ychwanegu bod yr effaith ar ymwybyddiaeth o'r iaith a diwylliant Cymreig yn enfawr.
"Mae'n beth cadarnhaol o ran darganfod diwylliant cyfoethog a newydd iawn neu safbwyntiau eraill [ond] yr hyn sy'n fy mhoeni i yw'r syniad penodol yma o Gymru sy'n datblygu o fewn ffantasi, sef y darlun yma o Gymru fel lle hudolus, gwledig, a rhamantus.
"Mae'n gallu bod yn eitha' nawddoglyd, mae'n creu delwedd o'r wlad sydd ddim yn realistig. Nid dyna'r cyfan sydd i Gymru."
Yn ôl yr Athro Fimi, nid oes gwahaniaethau amlwg bob tro rhwng rhywbeth sydd wedi cael ei hysbrydoli gan Gymru, a rhywbeth sydd yn Gymreig.
"Mae yna fath o sefyllfa ban-geltaidd sydd wedi datblygu mewn ffantasi, lle mae pawb yn meddwl bod modd taflu hynny i gyd at ei gilydd - Gaeleg, Gwyddeleg, Cymraeg, Manaweg, Cernyweg, pob un," meddai'r Athro Fimi.
Dywedodd Ms Hindmarch fod y defnydd o ieithoedd Celtaidd yn gallu bod yn "anniben", gan nodi camsyniad yr awdur Rebecca Yarros, lle cafodd ei gorfodi i ymddiheuro ar ôl defnyddio enwau Gaeleg yr Alban a'u cam-ynganu.
Er bod y Gymraeg "wedi hen sefydlu" o fewn y DU, meddai, mae camddefnydd posib yn "broblematig" yn enwedig wrth i ddeunydd gyrraedd cynulleidfaoedd ar draws y byd.
Ychwanegodd y dylai fod mwy o ymwybyddiaeth o'r peryglon ar draws y diwydiant cyhoeddi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd14 Awst 2024
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2024